Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}

Rhowch Gynnig Arni Am Ddim

Leisure Centre Hero Image

Bachwch eich treial am ddim yn Pwll Rhyngwladol Caerdydd a’r Gampfa

Fan hyn yw’r lle i roi cynnig ar rywbeth newydd, eich cyfle i wneud ffrindiau newydd, rhywle i deimlo eich bod yn perthyn. Bachwch eich treial 3 diwrnod heddiw a chael mynediad llawn at ein cyfleusterau am 3 diwrnod yn olynol!

  • Dewch i weld a yw’r ganolfan yn addas i chi.
  • Dim ymrwymiad, dim ond cyfle i archwilio fel y mynnwch am dri diwrnod.
  • Cyfle i gwrdd â phobl newydd
  • Cyfle i fanteisio ar gyfleusterau gwych.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Bachwch eich Treial Heddiw

Mwynhewch eich treial am ddim am 3 diwrnod yn olynol! Mynediad at ein campfa â’r holl gyfarpar, pyllau nofio, dosbarthiadau dan arweiniad hyfforddwr, cymorth ffitrwydd, a mwy.

Bachwch eich Treial Heddiw

Cwestiynau Cyffredin

Beth sydd wedi’i gynnwys yn y treial am ddim 3 diwrnod?

Mae eich treial am ddim 3 diwrnod yn rhoi mynediad i’n prif gyfleusterau, gan gynnwys ein campfa lawn offer, pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, cefnogaeth ffitrwydd, a mwy.

Sylwch fod cyfleusterau’n ddarostyngedig i argaeledd ar ddiwrnod eich ymweliad, a gall gweithgareddau penodol, fel llogi cae, Hyfforddiant Personol a Dosbarthiadau Good Boost, fod yn amodol ar ffioedd ychwanegol. Argymhellir archebu sesiynau ymlaen llaw gyda’n tîm derbyn, yn enwedig yn ystod amseroedd prysur.

Pwy all gofrestru ar gyfer y treial?

Mae’r treial 3 diwrnod ar gael i gwsmeriaid 18 oed a hŷn, nad ydynt wedi defnyddio treial am ddim mewn unrhyw Ganolfan Hamdden Parkwood yn ystod y 6 mis diwethaf.

Sut wyf yn cofrestru ac yn actifadu fy nhreial?

Llenwch y ffurflen fer ar-lein ar ein gwefan, ac fe fydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb yn eich Canolfan Hamdden o’ch dewis.

Beth sydd angen i mi ddod gyda mi?

Dewch â dull adnabod â llun (ar gyfer eich apwyntiad actifadu), tywel, potel ddŵr, a dillad addas a gwisg nofio ar gyfer eich gweithgareddau.

Pryd mae’r cyfnod 3 diwrnod yn dechrau?

Mae eich cyfnod treial 3 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod rydych yn cofrestru yn y ganolfan ac yn rhedeg am 3 diwrnod olynol.

A allaf ddefnyddio’r treial mewn mwy nag un Ganolfan Hamdden?

Nid yw’r cynnig treial 3 diwrnod yn drosglwyddadwy rhwng Canolfannau ac mae’n ddilys mewn safleoedd Canolfannau Hamdden sy’n cymryd rhan yn unig.

A allaf gael mwy nag un treial am ddim?

Dim ond un treial 3 diwrnod y gellir ei gymryd gan bob unigolyn o fewn cyfnod o 6 mis.

Sut ydw i’n ymuno ar ôl i’m treial ddod i ben?

Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu fel aelod llawn yn un o’n Canolfannau! Gallwch ymuno ar-lein, neu siarad â’n tîm cyfeillgar yn y dderbynfa i ddod o hyd i’r aelodaeth sy’n gweddu orau i chi.

A yw parcio wedi’i gynnwys yn ystod fy nhreial?

Mae ein trefniadau parcio yn amrywio yn ein Canolfannau Hamdden. Am ragor o wybodaeth, gwiriwch ein tudalen ‘Cynllunio Eich Ymweliad’ cyn eich ymweliad.