Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd a’r Gampfa, rydyn ni’n cynnig gwersi nofio cynhwysfawr i blant oedran ysgol, sy'n cwmpasu Cyfnodau 1 i 7 o’r Rhaglen Dysgu Nofio gan Nofio Cymru. Yn cael eu hategu gan hyfforddiant diogelwch dŵr achrededig RLSS (Royal Life Saving Society), mae ein gwersi ni'n dysgu sgiliau a gwybodaeth hanfodol i blant i gadw’n ddiogel mewn unrhyw sefyllfa mewn dŵr. Er mwyn sicrhau bod plant yn barod i ddysgu ac yn mwynhau’r profiad, rhaid iddynt fod yn bedair oed o leiaf i ddechrau Ton 1.
Mae ein gwersi ni’n bodloni'r safonau diogelwch ac ansawdd uchaf.
Rydyn ni’n darparu hyfforddiant ychwanegol gyda’i ffocws ar ymwybyddiaeth o ddiogelwch mewn dŵr, gan sicrhau hyder yn y dŵr.
Rydyn ni’n asesu nofwyr yn barhaus, gan alluogi iddynt wneud cynnydd cyn gynted ag y byddant yn bodloni'r meini prawf ar gyfer pob ton.
Gall pob cyfranogwr ar ein rhaglen dysgu nofio fwynhau nofio am ddim yn ystod sesiynau cyhoeddus.
Cael gwybodaeth gyson am gynnydd eich plentyn drwy ein porthol ni ar-lein. Tracio cyflawniadau, gweld canlyniadau ar gyfer pob cam, a chael hysbysiadau pan fydd yn ennill dyfarniadau.
Atebwch ein holiadur cyflym i benderfynu ar y cam cywir ar gyfer eich plentyn, holi am argaeledd, a dechrau heddiw.