Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} Gweld Mwy   Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion.

Gwybodaeth am y Pwll Hamdden

Ymweld â’r Pwll Nofio

RHAID archebu eich holl sesiynau yn y Pwll Hamdden ymlaen llaw cyn cyrraedd. Cliciwch yma i archebu.  

(Nodwch nad oes modd AD-DALU unrhwy archeb, rhaid gwneud pob newid i archebion o leiaf 7 diwrnod cyn y dyddiad rydych chi wedi’i archebu)

PWYSIG: Os nad ydych chi’n aelod nid oes angen i chi roi Rhif Aelod/Cofrestru wrth archebu; gadewch y blwch hwn yn wag


Rydym bellach yn gweithredu 'system fandiau'; pan fyddwch yn cyrraedd byddwch yn cael band arddwrn lliw a chewch slot amser 1 awr. Ar ôl i'ch sesiwn ddod i ben, bydd lliw eich band arddwrn yn cael ei alw a bydd gofyn i chi adael y dŵr.

Beth sydd angen i mi ei wneud cyn cyrraedd?

Rhaid archebu holl sesiynau'r pwll ymlaen llaw cyn cyrraedd.

Beth sydd angen i mi ei wneud wrth gyrraedd?

Bydd angen i gwsmeriaid gyrraedd yn barod i fynd i’r dŵr a hynny heb fod yn gynharach na 10 munud cyn y slot a archebwyd. 

Bydd ein Pentref Newid ar gael at ddefnydd cwsmeriaid; gan gadw at fesurau glanhau diogel Covid.

Bydd loceri ar gael i gadw eiddo cwsmeriaid; ceisiwch osgoi dod ag unrhyw bethau gwerthfawr gyda chi yn ystod eich ymweliad. Sicrhewch eich bod yn dod â darn £1 neu docyn troli i'r locer. Sylwch nad ydym yn derbyn arian parod yn ein canolfan mwyach.

Faint o amser sydd gen i yn y dŵr?

Mae pob sesiwn yn 60 munud.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i’r sesiwn ddod i ben?

Gofynnwn i bob cwsmer adael y dŵr ar ôl cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan ein hachubwyr bywyd. 

Yna bydd gennych 20 munud ar ôl i’ch sesiwn ddod i ben i adael y Pentref Newid.  (Mae hyn er mwyn rhoi amser i ni lanhau'r ardal cyn i'r sesiwn nesaf ddechrau).

Cymarebau Nofio

Er gwaethaf y newidiadau i’n prosesau a’n gweithdrefnau, mae ein cymarebau nofio’n dal i fod yn berthnasol:

0-3 oed - 1 oedolyn i 1 plentyn

4-7 oed - 1 oedolyn i 2 blentyn

8 oed a hŷn - Ar eu pen eu hunain

Diffinnir rhiant neu oedolyn cyfrifol fel unigolyn 16 oed neu hŷn. Rhaid i’r rhiant fod yn y dŵr gyda'r plant a gofalu amdanynt ac aros yn agos at y nofwyr gwan neu’r rhai nad ydynt yn gallu nofio.

Argymhellir yn gryf bod nofwyr gwan a rhai nad ydynt yn nofio yn gwisgo dyfais arnofio gymeradwy

Cyfyngiadau Uchder y Llithrennau a’r Bowlen Ddŵr:

1.1 metr ar gyfer y llithrennau Coch, Oren a Melyn

1.3 metr ar gyfer y Bowlen Ddŵr (rhaid i ddefnyddwyr y Bowlen Ddŵr allu nofio heb gymorth; dyfnder y dŵr wrth ddisgyn o’r bowlen yw 2.5m)

Yn olaf...

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich ymweliad â ni, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i Bwll a Champfa Rhyngwladol Caerdydd. 

Rydyn ni’n llawer mwy na phwll nofio.

ARCHEBU NAWR

Ewch am sblash yn ein pwll hwyl sy’n cael ei oruchwylio’n llawn.

 

Yn cynnwys 3 llithren, afon araf a powlen ddŵr unigryw; sy’n sicr o’ch gwefreiddio!

ARCHEBU NAWR