POLISI PREIFATRWYDD

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau preifatrwydd pob unigolyn y mae eu data personol yn cael ei gasglu, ei ddal, ei brosesu a’i ddinistrio gan Parkwood Leisure a'i is-gwmnïau/chwaer-gwmnïau. Gall unigolion o'r fath gynnwys ein haelodau a defnyddwyr terfynol ein gwasanaethau, gweithwyr cyflogedig ein cleientiaid a defnyddwyr ein gwasanaethau, ymwelwyr eraill â'n gwefan, unig fasnachwyr, partneriaethau, cyflenwyr hunangyflogedig a gweithwyr cyflogedig ein cyflenwyr a'n contractwyr. Yn y polisi hwn rydym yn egluro sut byddwn yn dal, yn prosesu ac yn cadw eich data personol.

Mae sawl cwmni’n gysylltiedig â Parkwood Leisure Limited y mae'r polisi hwn yn ymwneud â nhw: Parkwood Leisure Limited, Legacy Leisure, Lex Leisure, 1Life, Creating Active Futures ac Active Communities Together. Dyma wefannau’r cwmnïau hyn:

leisurecentre.com, parkwoodleisure.co.uk. legacyleisure.org.uk, lexleisure.org.uk, parkwoodoutdoors.co.uk, ruffordabbey.com, parkwoodcommunityspaces.co.uk, parkwoodhealthandfitness.co.uk, plantasiaswansea.co.uk, plasmenai.wales/cy/, cafutures.co.uk, activecommunitiestogether.org.uk, 1life.co.uk, tw2hfc.co.uk

1 Sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio?

1.1 Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth i chi am y canlynol:

  • pa ddata personol rydym ni'n ei ddal ac yn ei brosesu;
  • o ran data personol na wnaethom ni ei gasglu gennych chi'n uniongyrchol, o ble y cawsom y data hwnnw a pha fathau o ddata rydym ni wedi'i gasglu;
  • ar gyfer pa ddibenion y gallwn ni brosesu eich data; a'r
  • sail gyfreithiol dros brosesu eich data.

AELODAU, CWSMERIAID A DEFNYDDWYR TERFYNOL EIN GWASANAETHAU

1.2 Data Cyswllt. Efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth a roddwch i ni ("data cyswllt”). Gall y data cyswllt hwn gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a dyddiad geni, a gellir ei ddarparu i ni yn bersonol neu drwy ein gwefan. Efallai y byddwn yn defnyddio'r data cyswllt hwn wrth ddarparu ein gwasanaethau i chi, ar y cyd â'n partneriaid, ein cyflenwyr a’n cleientiaid. Y sail gyfreithiol dros y prosesu hwn yw cyflawni ein contract gyda chi, neu wrth gymryd camau ar eich cais cyn ymrwymo i gontract.

Os ydych chi wedi rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny, efallai y byddwn yn cysylltu â chi am y cynigion a’r hyrwyddiadau diweddaraf ynghylch ein cynnyrch a'n gwasanaethau, a rhai ein sefydliadau partner, ac i anfon cylchlythyrau atoch.

1.3 Data Aelodau/Cwsmeriaid. Os ydych chi'n aelod neu'n gwsmer, efallai y byddwn ni'n prosesu gwybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni ("data aelodau/cwsmeriaid"). Gallai’r data hwn gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, eich cyfeiriad e-bost, eich dyddiad geni, eich rhywedd, manylion cyflogaeth, llun ohonoch chi, gwybodaeth am eich trwydded yrru,  manylion eich cerbyd, enw a chyfeiriad eich meddyg, delweddau teledu cylch cyf3yng a gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys mewn delweddau neu destunau y byddwch yn eu hanfon atom, ac y gellir eu darparu i ni yn bersonol, drwy ein gwefan neu drwy'r pyrth ar-lein a ddarparwn.

Efallai y byddwn ni'n defnyddio'r data hwn i roi gwybodaeth am brisiau i chi, ar gyfer gweinyddu eich cyfrif(on) gyda ni, ac ar gyfer darparu ein gwasanaethau i chi. Gall data’r aelodau/cwsmeriaid hefyd gael ei brosesu wrth i chi ddefnyddio'r gwasanaethau a ddarparwn, ac at ddibenion gweinyddu ac adnewyddu eich aelodaeth, cyflawni ein contract gyda chi neu wrth gymryd camau ar eich cais cyn ymrwymo i gontract. Gall eich data hefyd gael ei wneud yn ddienw er mwyn dadansoddi a monitro tueddiadau mewn gweithgareddau.

Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am wybodaeth berthnasol am iechyd ac anafiadau hirdymor, gwybodaeth am unrhyw anabledd sydd gennych a gwybodaeth feddygol bwysig arall er mwyn gwneud archwiliadau ffitrwydd ac iechyd a chyflwyno’r gweithgareddau rydych chi'n cymryd rhan ynddynt yn ddiogel. Mae'r data hwn yn gategori arbennig o ddata personol a dim ond gyda'ch caniatâd penodol chi y byddwn yn ei brosesu, a hynny at ddibenion y cytunwyd arnynt ar adeg ei gasglu, neu mewn amgylchiadau eithafol efallai y byddwn yn ei rannu â gweithwyr meddygol proffesiynol os bydd angen triniaeth arnoch.

Ar gyfer plant dan 16 oed, bydd angen i'r rhiant roi'r caniatâd i ddefnyddio'r wybodaeth hon. Gall unrhyw un dros 16 oed roi caniatâd i ddefnyddio eu data o dan GDPR.

Os ydych chi wedi rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny, efallai y byddwn yn cysylltu â chi am yr hyrwyddiadau a'r cynigion diweddaraf ynghylch ein cynnyrch a'n gwasanaethau, a rhai ein sefydliadau partner, ac i anfon e-gylchlythyrau, negeseuon testun neu wybodaeth wedi'i hargraffu atoch.

Nid ydym yn rhannu eich data ag unrhyw drydydd partïon, ac eithrio cwmnïau o fewn ein Grŵp a'n partneriaid prosesu sy'n dod o dan y polisi hwn ac sydd ond yn prosesu eich data ar ein rhan. Ni fydd unrhyw drydydd parti yn cysylltu â chi at ddibenion marchnata.

Os bydd angen i ni rannu eich manylion, e.e. er mwyn rhoi gwobr ar gyfer cystadleuaeth, bydd hyn yn cael ei gyfleu yn nhelerau ac amodau'r gystadleuaeth neu’r gweithgaredd arall, a byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau eich bod chi’n bersonol yn ymwybodol o hyn cyn iddynt gael eu rhannu. Ni fyddant yn cael eu cadw gan y trydydd parti nac yn cael eu defnyddio at unrhyw ddiben heblaw'r hyn a nodir.

Os ydych chi wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth, byddwn yn cyhoeddi ein henillydd ar y cyfryngau cymdeithasol drwy dagio'ch cyfrif. Drwy gyfryngau eraill, byddwn yn gwneud ein gorau i’ch gwarchod drwy beidio â chyhoeddi manylion llawn, e.e. Mr J Bloggs.

Os byddwch chi'n lawrlwytho ac yn cofrestru ar gyfer ap Innovatise, byddwch yn rhoi caniatâd i gofrestru i rannu eich gwybodaeth gyda'r darparwr trydydd parti. Bydd hon yn ddienw lle bynnag y bo modd, ac yn cael ei defnyddio dim ond i’ch galluogi i ddefnyddio'r swyddogaethau o fewn yr ap/offer. Bydd gennych yr opsiwn o fewn eich proffil gyda'r darparwr trydydd parti i gadw'ch data yn 'breifat' neu'n 'gyhoeddus'.

1.4 Data Talu. Efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth am daliadau sy'n ymwneud â chynnyrch a gwasanaethau rydych chi'n eu prynu gennym ni a'ch aelodaeth ("data talu"). Gallai’r data talu gynnwys eich manylion cyswllt, manylion eich cerdyn a manylion y trafodiad. Gall y data talu gael ei brosesu er mwyn gweinyddu'r taliad, cyflenwi'r nwyddau a'r gwasanaethau a brynwyd a chadw cofnodion priodol o'r taliadau hynny. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw cyflawni contract rhyngoch chi a ni a/neu gymryd camau, ar eich cais, i ymrwymo i gontract o'r fath, a'n buddiannau cyfreithlon, sef ein budd mewn perthynas â gwneud yn siŵr bod ein gwefan a’n busnes yn cael eu gweinyddu'n briodol.

Byddwn yn storio rhif eich cyfrif banc a’ch data cod didoli os oes gennych chi fandad Debyd Uniongyrchol ar waith. Pan fydd y mandad Debyd Uniongyrchol yn dod i ben, byddwn yn dileu'r data hwn o'n systemau gweithredol o fewn 30 diwrnod gwaith. Byddwn yn prosesu’r wybodaeth sy'n ymwneud â’ch cerdyn banc pan fyddwn yn cymryd taliad. Nid yw'r data hwn yn cael ei storio ar ein systemau ac mae'n cael ei brosesu ar systemau bancio sy'n cydymffurfio â Safon Diogelwch Data'r Diwydiant Cardiau Talu.

1.5 Data a Rennir. Rydym yn rhedeg gwasanaethau ar ran sefydliadau eraill fel Awdurdodau Lleol, y GIG, Ysgolion, Grwpiau Comisiynu Clinigol, Adrannau'r Llywodraeth ac Ymddiriedolaethau. Yn aml iawn, mae'r gwasanaethau hyn yn cael eu rhedeg o dan gytundeb contract neu fasnachfraint. Gall data gael ei rannu gyda'r sefydliadau hyn ar lefel gryno ond nid ar lefel bersonol sy'n dangos pwy ydych chi. Ar gyfer ein gwasanaethau sy'n gysylltiedig ag iechyd, gyda'ch caniatâd chi, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth sy’n dangos pwy ydych chi gyda'ch meddyg teulu a gwasanaethau'r GIG. Byddwn hefyd yn rhannu eich data yn ôl yr hyn sy'n ofynnol gan system Tracio ac Olrhain y GIG. Mae hwn yn ofynnol gan y Llywodraeth yn y frwydr yn erbyn Covid-19 neu unrhyw glefyd heintus eraill yn y dyfodol.

1.6 Ar ddiwedd contract gweithredu, os bydd y gwasanaeth yn cael ei redeg gan weithredwr arall, byddwn yn anfon eich data cyswllt, aelodaeth/cwsmer ymlaen at y gweithredwr newydd fel y gall barhau i ddarparu'r gwasanaeth i chi heb unrhyw fylchau. Gallwch wrthwynebu i ni anfon y data hwn drwy gysylltu â ni yn marketing@parkwood-leisure.co.uk

1.7 Bydd y sefydliadau hyn yn Rheolydd Data yn eu hawl eu hunain, ac os byddant yn prosesu eich data byddant yn eich hysbysu'n uniongyrchol neu drwy eu gwasanaethau, fel gwefan, am y data sydd ganddynt a pha dasgau prosesu y maent yn eu gwneud.

1.8 Data Cyflenwyr. Os ydych chi'n unig fasnachwr, yn bartneriaeth neu'n hunangyflogedig, byddwn yn casglu data personol amdanoch chi fel eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, eich cyfeiriad e-bost, manylion eich cyflogaeth, eich cymwysterau, eich llun, eich Rhif Yswiriant Gwladol, eich dyddiad geni a delweddau CCTV (“data cyflenwyr”). Byddwn yn prosesu'r wybodaeth hon i sicrhau bod ein contract a'n perthynas â chi yn cael eu rheoli'n effeithlon (er enghraifft, at ddibenion data ariannol a phrisio, archwilio ac adennill dyledion), a bod unrhyw ohebiaeth sy’n gysylltiedig â chi yn cael ei phrosesu'n gywir. Y sail gyfreithiol dros y prosesu hwn yw cyflawni ein contract gyda chi, neu wrth gymryd camau ar eich cais cyn ymrwymo i gontract.

Rydym hefyd yn defnyddio data cyflenwyr i ddeall perfformiad eich gwasanaeth a'ch sefydlogrwydd ariannol at ddibenion monitro cyflenwyr. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu  yw ein buddiannau cyfreithlon wrth reoli ein perthynas â chi a sicrhau ein bod yn gallu cynnal lefelau ansawdd ein gwasanaeth.

Gall data cyflenwyr hefyd gynnwys manylion eich cerdyn neu'ch banc a manylion unrhyw drafodiad a wnawn gyda chi. Gellir prosesu data cyflenwyr er mwyn gweinyddu'r taliad, cyflenwi'r nwyddau a'r gwasanaethau a brynwyd gennych chi, a chadw cofnodion priodol o'r taliadau hynny. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw cyflawni contract rhyngoch chi a ni a/neu gymryd camau, ar eich cais, i ymrwymo i gontract o'r fath, a'n buddiannau cyfreithlon, sef ein budd mewn perthynas â gwneud yn siŵr bod ein busnes yn cael ei weinyddu’n briodol.

1.9 Data Pwynt Cyswllt. Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan gyflenwr nwyddau, gwasanaethau neu ymgynghoriaeth sydd â threfniant contractiol gyda Parkwood Leisure a'i is-gwmnïau ar gyfer darparu gwasanaethau o'r fath (y "prif gontractwr"), efallai y byddwn yn defnyddio gwybodaeth fel enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cymwysterau, llun, Rhif Yswiriant Gwladol, dyddiad geni, delweddau CCTV neu fanylion cyflogaeth ("data pwynt cyswllt") i'n galluogi i wneud y canlynol:

  • darparu manylion cyswllt cyflenwyr ar gyfer ein gweithrediadau aml-safle;
  • creu a chynnal rhestrau rhanddeiliaid ar gyfer rheoli prosiectau;
  • creu a chynnal rhestrau cyswllt yn ôl yr angen; 
  • creu a chynnal rhestr o gyflenwyr blaenorol, cyflenwyr presennol a chyflenwyr posibl i'n galluogi i gysylltu â chi at ddibenion busnes.

Byddwn yn trin y prif gontractwr fel rheolydd unrhyw ddata pwynt cyswllt a ddarperir i ni. Efallai y byddwn yn derbyn data personol mewn perthynas â’r cyfryw bwyntiau cyswllt yn uniongyrchol gan y prif gontractwr.

Byddwn yn prosesu unrhyw gyfryw ddata personol y cyfeirir ato ym mharagraff 1.9 gan gadw’n gaeth at gyfarwyddiadau'r prif gontractwr, nid y pwynt cyswllt unigol, gan gynnwys rhannu'r holl gyfryw ddata gyda'r prif gontractwr.

Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon o ran derbyn cynnyrch neu wasanaethau gan y prif gontractwr, ac o ran rheoli a gweinyddu ein perthynas a'n contract gyda'r prif gontractwr.

1.10 Data a Rennir. Efallai y bydd eich data yn cael ei rannu â'r awdurdodau y mae Parkwood Leisure a'i is-gwmnïau a'i bartneriaid yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, er mwyn gweithredu a gweinyddu ein perthynas a'n contract â chi, datblygu ein cynnyrch a'n gwasanaethau, ein systemau a’n perthnasoedd â chi, deall eich gofynion, canfod ac atal troseddau, adennill dyledion a dangos cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon i sicrhau ein bod yn derbyn lefelau uchel o wasanaeth gan ein cyflenwyr a'n contractwyr.

1.11 Data Ymholiadau. Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys mewn unrhyw ymholiad a gyflwynwch i ni ynghylch eich gwasanaethau ("data ymholiadau”). Efallai y byddwn yn monitro ac yn defnyddio unrhyw e-bost a anfonir atom, gan gynnwys unrhyw atodiadau, am resymau diogelwch ac ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â pholisi'r swyddfa. Efallai y bydd meddalwedd monitro neu rwystro e-bost hefyd yn cael ei defnyddio. Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost a anfonwch atom o fewn terfynau'r gyfraith. Efallai y bydd y data ymholiadau’n cael ei brosesu neu ei storio at ddiben cyfathrebu â chi ynghylch eich nwyddau a'ch gwasanaethau.

EIN CLEIENTIAID BUSNES 
 

1.12 Data Pwynt Cyswllt. Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan un o’n cleientiaid corfforaethol, sydd â threfniant contractiol gyda Parkwood a’i is-gwmnïau ar gyfer darparu gwasanaethau (y "prif gontractwr"), efallai y byddwn yn defnyddio gwybodaeth fel enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a manylion cyflogaeth (y "data pwynt cyswllt") i'n galluogi i wneud y canlynol:

  • darparu gwasanaethau i chi yn unol â'r contract sydd gennym gyda'r prif gontractwr;
  • cyfathrebu â chi ynghylch darparu'r gwasanaethau hynny;
  • gwella'r gwasanaethau a ddarparwn a sicrhau ein bod yn cynnal ein lefelau o ofal cleientiaid; 
  • marchnata ein cynnyrch, ein gwasanaethau, ein hyrwyddiadau a'n cynigion i'r prif gontractwr;
  • creu rhestrau cyswllt neu restrau rhanddeiliaid ar gyfer prosiectau neu weithgareddau penodol.

Byddwn yn trin y prif gontractwr fel rheolydd unrhyw ddata pwynt cyswllt a ddarperir i ni. Efallai y byddwn yn derbyn data personol mewn perthynas â’r cyfryw bwyntiau cyswllt yn uniongyrchol gan y prif gontractwr. 

Byddwn yn prosesu unrhyw gyfryw ddata personol y cyfeirir ato ym mharagraff 1.9 gan gadw’n gaeth at gyfarwyddiadau'r prif gontractwr, nid y pwynt cyswllt unigol, gan gynnwys rhannu'r holl gyfryw ddata gyda'r prif gontractwr.

Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon o ran cyflenwi cynnyrch neu wasanaethau gan y prif gontractwr, ac o ran rheoli a gweinyddu ein perthynas a'n contract gyda'r prif gontractwr, a marchnata ein cynnyrch a’n gwasanaeth i’n prif gontractwr.

1.13 Data a Rennir. Efallai y bydd eich data yn cael ei rannu â'r awdurdodau y mae Parkwood Leisure a'i is-gwmnïau a'i bartneriaid yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, er mwyn gweithredu a gweinyddu ein gwasanaethau i chi, datblygu ein cynnyrch a'n gwasanaethau, ein systemau a’n perthnasoedd â chi, deall eich gofynion a dangos cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon i sicrhau ein bod yn cynnal lefelau uchel o wasanaeth i’n haelodau, ein cleientiaid a defnyddwyr terfynol eraill ein gwasanaeth.

CWYNION

1.14 Data Cwynion. Pan fydd cwyn yn dod i law gan rywun, byddwn yn creu ffeil sy'n cynnwys manylion y gŵyn. Fel arfer, bydd hon yn cynnwys manylion adnabod y sawl sydd wedi gwneud y gŵyn ac unrhyw unigolion eraill sy'n ymwneud â'r gŵyn ("data cwynion").

1.15 Dim ond i brosesu'r gŵyn ac i wirio lefel y gwasanaeth a ddarparwn neu sut mae contractau'n cael eu cyflawni y byddwn yn defnyddio'r data hwn. Byddwn yn llunio ac yn cyhoeddi ystadegau sy'n dangos gwybodaeth fel nifer y cwynion a dderbyniwn, ond nid ar ffurf sy'n dangos pwy yw neb. Fel arfer, mae'n rhaid i ni ddatgelu manylion adnabod y sawl sydd wedi cwyno i bwy bynnag y mae'r gŵyn yn ymwneud ag ef. Mae hyn yn anochel mewn achosion lle mae cywirdeb cofnod rhywun yn destun anghydfod, er enghraifft. Os nad yw’r sawl sy'n cwyno eisiau i wybodaeth sy'n dangos pwy ydyw gael ei datgelu, byddwn yn ceisio parchu hynny. Fodd bynnag, efallai na fydd yn bosibl trin cwyn yn ddienw.

1.16 Yn yr un modd, pan fyddwn yn cael ymholiadau, dim ond i ddelio â'r ymholiad ac unrhyw faterion dilynol ac i wirio lefel y gwasanaeth a ddarparwn y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gawn. Pan fyddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn rhywun, efallai y byddwn yn cyhoeddi pwy yw’r diffynnydd yn ein Hadroddiad Blynyddol neu yn rhywle arall. Fel arfer, ni fyddwn yn rhoi manylion neb sydd wedi cwyno oni bai fod y manylion eisoes wedi cael eu gwneud yn gyhoeddus.

1.17 Byddwn yn cadw data cwynion sydd wedi'i gynnwys mewn ffeiliau cwynion yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y bydd gwybodaeth sy'n ymwneud â chwyn yn cael ei chadw am ddwy flynedd ar ôl i’r ffeil gael ei chau. Bydd yn cael ei chadw mewn amgylchedd diogel a bydd mynediad ati yn gyfyngedig yn unol â’r egwyddor ‘angen gwybod’.

1.18 Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon ar gyfer delio â'r gŵyn mewn ffordd briodol a thryloyw.

TASGAU PROSESU ERAILL Y GALLEM EU GWNEUD

1.19 Data’r Wefan. Efallai y byddwn yn prosesu data am eich defnydd o'n gwefan a’n gwasanaethau (“data’r wefan”). Gallai data’r wefan gynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math o borwr a fersiwn, system weithredu, ffynhonnell gyfeirio, hyd yr ymweliad, ymweliadau â thudalennau a llwybrau llywio’r wefan, yn ogystal â gwybodaeth am amseru, amlder a phatrwm mewn perthynas â’r ffordd rydych chi’n defnyddio'r gwasanaeth. Mae data'r wefan yn dod o’n system olrhain ddadansoddol, Google Analytics. Cedwir y data a gesglir yn ddienw. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymgais i ddarganfod manylion adnabod y rhai sy'n ymweld â'n gwefan, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud hynny chwaith.

Gall y data hwn sy'n ymwneud â’r wefan gael ei brosesu at ddibenion dadansoddi defnydd o’r wefan a'r gwasanaethau. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon, sef monitro a gwella ein gwefan a'n gwasanaethau.

1.20 Data Ymholiadau. Efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys mewn unrhyw ymholiad a gyflwynwch i ni ynghylch ein cynnyrch neu'n gwasanaethau ("data ymholiadau”). Gellir prosesu data ymholiadau at ddibenion cynnig, marchnata a gwerthu cynnyrch a/neu wasanaethau perthnasol i chi. 

Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon i ymateb i'ch ymholiad yn briodol.

1.21 Data Cylchlythyrau. Gallwn brosesu gwybodaeth a roddwch i ni er mwyn tanysgrifio i'n cylchlythyrau a'n datganiadau i'r wasg ("data cylchlythyrau"). Mae’n bosibl y bydd y data hysbysu’n cael ei brosesu er mwyn anfon cylchlythyrau atoch. 

Os ydych chi'n bwynt cyswllt i un o'n cwsmeriaid corfforaethol, y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon, sef marchnata cynnyrch a gwasanaethau perthnasol i chi.

Os ydych chi’n aelod neu'n ddefnyddiwr terfynol o'n gwasanaethau, y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw caniatâd.

1.22 Data Gohebiaeth. Efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn unrhyw gyfathrebiadau a anfonwch atom neu sy'n ymwneud â nhw ("data gohebiaeth"). Gall y data gohebiaeth gynnwys yr hyn sydd yn y cyfathrebiadau eu hunain a'r metadata sy'n gysylltiedig â nhw. Bydd ein gwefan yn cynhyrchu'r metadata sy'n gysylltiedig â chyfathrebiadau a wneir gan ddefnyddio ffurflenni cyswllt y wefan. Gall y data gohebiaeth gael ei brosesu er mwyn cyfathrebu â chi a chadw cofnodion. 

Y sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon, sef gweinyddu ein gwefan a’n busnes a’n dulliau cyfathrebu â defnyddwyr yn briodol.

1.23 Data Talu. Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu gwybodaeth am daliadau sy'n ymwneud â chynnyrch a gwasanaethau rydych chi'n eu prynu gennym ni ("data talu"). Gallai’r data talu gynnwys eich manylion cyswllt, manylion eich cerdyn a manylion y trafodiad. Gall y data talu gael ei brosesu er mwyn gweinyddu'r taliad, cyflenwi'r nwyddau a'r gwasanaethau a brynwyd a chadw cofnodion priodol o'r taliadau hynny. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw cyflawni contract rhyngoch chi a ni a/neu gymryd camau, ar eich cais, i ymrwymo i gontract o'r fath, a'n buddiannau cyfreithlon, sef ein budd mewn perthynas â gwneud yn siŵr bod ein gwefan a’n busnes yn cael eu gweinyddu'n briodol.

1.24 Gweithgareddau Prosesu Eraill. Yn ogystal â'r dibenion penodol y gallwn brosesu eich data personol ar eu cyfer fel y nodir uchod, efallai y byddwn hefyd yn prosesu data personol lle mae angen ei brosesu er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddi, neu er mwyn amddiffyn eich buddiannau hanfodol neu fuddiannau hanfodol unigolyn naturiol arall. 

1.3 Proffilio. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio proffilio awtomataidd i ddarparu gwasanaeth/profiad sydd wedi'i deilwra i wrthrych y data. h.y. gall algorithmau arddangos cynnwys yr ydym yn credu sy'n berthnasol i'r defnyddiwr, yn seiliedig ar broffilio awtomataidd.

2. Darparu eich data personol i eraill.

2.1 Rhannu eich data â’n partneriaid. Efallai y bydd eich data yn cael ei rannu â'r awdurdodau y mae Parkwood Leisure a'i is-gwmnïau a'i bartneriaid yn gweithio ar y cyd â nhw, er mwyn gweithredu ein busnes a gweinyddu a datblygu ein gwasanaethau, a dangos cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol. Rhennir data gyda'r rhai sydd mewn partneriaeth at ddibenion ystadegau ar ddefnydd a demograffeg yn unig. Nid yw hyn yn cysylltu'r wybodaeth yn ôl â chi fel unigolyn. Y sail gyfreithiol ar gyfer y prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon i sicrhau ein bod yn cynnal lefelau uchel o wasanaeth i’n haelodau, ein cleientiaid a defnyddwyr terfynol eraill ein gwasanaeth.

2.2 Llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol canlynol: Facebook, X, TikTok ac Instagram. Os byddwch yn ymuno ag un o'n tudalennau ar y Cyfryngau Cymdeithasol, nodwch fod gan ddarparwr y llwyfannau eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Edrychwch ar y polisïau hyn cyn cyflwyno unrhyw ddata personol ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.

2.3 I'n darparwyr gwasanaeth. Efallai y byddwn hefyd yn datgelu eich data personol i ddarparwyr gwasanaeth trydydd parti penodol sydd ag enw da, fel darparwyr gwasanaethau cwmwl a TG a chontractwyr eraill y mae eu gwasanaethau'n ofynnol i alluogi Parkwood Leisure a'i is-gwmnïau i ddarparu gwasanaethau i gleientiaid. 

2.4 Ein hyswirwyr/cynghorwyr proffesiynol. Efallai y byddwn yn datgelu eich data personol i'n hyswirwyr a/neu gynghorwyr proffesiynol i'r graddau y bo'n rhesymol angenrheidiol at ddibenion cael a chynnal yswiriant, prosesu hawliadau yswiriant, rheoli risgiau, cael cyngor proffesiynol a rheoli anghydfodau cyfreithiol.

2.5 Pan fyddwn yn darparu eich data personol i unrhyw drydydd parti. Pan fyddwn yn rhannu eich data personol gydag unrhyw drydydd parti, byddwn yn sicrhau bod y prosesu hwn yn cael ei ddiogelu gan fesurau diogelu priodol, gan gynnwys cytundeb prosesu data addas gyda'r trydydd parti hwnnw.

2.6 Prif gontractwyr. Efallai y byddwn yn rhannu data personol gyda'r prif gontractwr fel y nodir ym mharagraffau 1.9 ac 1.11 uchod.

2.7 Cydymffurfio â rhwymedigaethau Cyfreithiol. Yn ogystal â'r achosion uchod o ddatgelu data personol, efallai y byddwn hefyd yn datgelu eich data personol lle mae hynny'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â hi, neu er mwyn amddiffyn eich buddiannau hanfodol neu fuddiannau hanfodol unigolyn arall.

3. Trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Os bydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo y tu allan i'r AEE, byddwn yn sicrhau naill ai (a) bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi gwneud "penderfyniad digonolrwydd" yng nghyswllt cyfreithiau diogelu data'r wlad y caiff ei drosglwyddo iddi, neu (b) ein bod wedi ymrwymo i gytundeb prosesu data addas gyda'r trydydd parti sydd wedi'i leoli yn y wlad honno i sicrhau bod eich data yn cael ei ddiogelu'n ddigonol. Ym mhob achos, bydd trosglwyddiadau y tu allan i'r AEE yn cael eu gwarchod gan fesurau diogelu priodol. 

4. Cadw a dileu data personol.

4.1 Ni chaiff data personol a broseswn at unrhyw ddiben neu ddibenion ei gadw am gyfnod hirach nag sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw neu'r dibenion hynny. 

4.2 Oni bai ein bod yn cysylltu â chi ac yn cael eich caniatâd i gadw eich data personol am gyfnod hirach, byddwn yn cadw ac yn dileu eich data personol yn unol â'n cyfnod cadw.

4.3 Efallai y byddwn yn cadw eich data personol lle mae angen gwneud hynny er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddi, neu er mwyn diogelu eich buddiannau hanfodol neu fuddiannau hanfodol unigolyn naturiol arall.

5. Diwygiadau.

5.1 Gallwn ddiweddaru'r polisi hwn o bryd i'w gilydd drwy gyhoeddi fersiwn newydd ar ein gwefan.

5.2 Dylech daro golwg ar y dudalen hon o bryd i'w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau i'r polisi hwn.

5.3 Mae'n bosibl y byddwn yn eich hysbysu o newidiadau i'r polisi hwn drwy e-bost.

6. Eich hawliau chi.

6.1 Gallwch roi cyfarwyddyd i ni roi unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch i chi; bydd darparu gwybodaeth o'r fath yn amodol ar y canlynol:

  • nid yw’ch cais yn ddi-sail nac yn ormodol – yn yr achos hwnnw, gall tâl fod yn berthnasol; 
  • cyflenwir tystiolaeth briodol o bwy ydych chi (at y diben hwn, byddwn fel arfer yn derbyn llungopi o'ch pasbort wedi'i ardystio gan gyfreithiwr neu fanc ynghyd â chopi gwreiddiol o fil cyfleustodau sy'n dangos eich cyfeiriad presennol).

6.2 Gallwn atal gwybodaeth bersonol y gofynnwch amdani i'r graddau a ganiateir gan y gyfraith.

6.3 Gallwch ein cyfarwyddo ar unrhyw adeg i beidio â phrosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata.

6.4 Yn ymarferol, fel arfer, byddwch naill ai'n cytuno'n benodol ymlaen llaw i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata, neu byddwn yn rhoi cyfle i chi optio allan o ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata.

6.5 Eich hawl i gael mynediad at eich data. Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gadarnhau a ydym yn prosesu eich data personol ai peidio, ac i gael mynediad at y data personol ac unrhyw wybodaeth ychwanegol. Mae'r wybodaeth ychwanegol honno'n cynnwys y dibenion yr ydym yn prosesu eich data ar eu cyfer, y categorïau o ddata personol sydd gennym a derbynwyr y data personol hwnnw. Cewch ofyn am gopi o'ch data personol; y ffordd fwyaf effeithlon o wneud hynny fydd drwy ddefnyddio Cais Gwrthrych am Wybodaeth. Darperir y copi cyntaf am ddim, ond efallai y byddwn yn codi ffi resymol am gopïau ychwanegol.

6.6 Eich hawl i gywiro. Os oes gennym unrhyw ddata personol anghywir amdanoch chi, mae gennych yr hawl i gywiro unrhyw beth sy’n anghywir. Lle bo angen at ddibenion y prosesu, mae gennych hefyd yr hawl i gwblhau unrhyw ddata personol anghyflawn amdanoch.

6.7 Eich hawl i ddileu. Mewn rhai amgylchiadau, gallech fod â’r hawl i ofyn i ni ddileu’r data personol sydd gennym amdanoch. Bydd hyn yn cael ei wneud yn ddi-oed. Mae'r amgylchiadau hyn yn cynnwys y canlynol: nid oes angen i ni bellach ddal data personol mewn perthynas â'r dibenion y cawsant eu casglu neu eu prosesu ar eu cyfer yn wreiddiol; rydych chi'n tynnu'ch caniatâd yn ôl i unrhyw brosesu sy'n gofyn am ganiatâd; mae'r prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol; ac mae'r data personol wedi'i brosesu'n anghyfreithlon. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau cyffredinol i'r hawl i ddileu, gan gynnwys achosion lle mae prosesu yn angenrheidiol: ar gyfer arfer yr hawl i ryddid mynegiant a gwybodaeth; ar gyfer cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol; neu ar gyfer sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

6.8 Eich hawl i gyfyngu ar brosesu. O dan rai amgylchiadau mae gennych yr hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol. Dyma'r achos: os nad ydych chi'n credu bod y data personol sydd gennym amdanoch chi yn gywir; os yw’ch data'n cael ei brosesu'n anghyfreithlon, ond nad ydych chi eisiau i'ch data gael ei ddileu; os nad oes angen i ni ddal eich data personol mwyach ar gyfer ein tasgau prosesu, ond mae angen y data personol hwnnw arnoch o hyd mewn perthynas â hawliad cyfreithiol; ac os ydych chi wedi gwrthwynebu'r prosesu, ac yn aros i'r gwrthwynebiad hwnnw gael ei wirio. Os yw’r prosesu wedi'i gyfyngu am un o'r rhesymau hyn, mae’n bosibl y byddwn yn parhau i storio eich data personol. Fodd bynnag, dim ond am resymau eraill y byddwn yn ei brosesu: gyda'ch caniatâd; mewn perthynas â hawliad cyfreithiol; er mwyn amddiffyn hawliau unigolyn naturiol neu gyfreithiol arall; neu am resymau o fudd cyhoeddus pwysig.

6.9 Eich hawl i wrthwynebu prosesu. Gallwch wrthwynebu i ni brosesu neu broffilio'ch data personol yn awtomataidd ar sail sy'n ymwneud â'ch sefyllfa benodol chi, ond dim ond i'r graddau y mae ein sail gyfreithiol ni ar gyfer y prosesu neu'r proffilio awtomataidd yn angenrheidiol ar gyfer: cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd, neu wrth arfer unrhyw awdurdod swyddogol a roddwyd i ni; neu ddibenion ein buddiannau cyfreithlon neu rai trydydd parti. Os byddwch chi’n gwrthwynebu, byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu neu broffilio’ch gwybodaeth bersonol yn awtomataidd oni bai ein bod yn gallu: dangos sail gyfreithlon gymhellol dros y prosesu, a bod y sail gyfreithlon yn drech na’ch buddiannau, eich hawliau a’ch rhyddid; neu fod y prosesu’n ymwneud â hawliad cyfreithiol.

6.10 Eich hawl i wrthwynebu marchnata uniongyrchol. Gallwch wrthwynebu i ni brosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Os byddwch chi’n gwrthwynebu, byddwn yn rhoi'r gorau i brosesu eich data personol at y diben hwn.

6.11 Eich hawl i wrthwynebu at ddibenion ystadegol. Gallwch wrthwynebu i ni brosesu neu broffilio eich data personol yn awtomataidd at ddibenion ystadegol ar sail sy'n ymwneud â'ch sefyllfa benodol, oni bai fod y prosesu neu'r proffilio awtomataidd yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir am resymau sy’n ymwneud â budd y cyhoedd.

6.12 Prosesu data awtomataidd. I'r graddau mai caniatâd yw'r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu eich data personol, a lle mae'r prosesu’n awtomataidd, mae gennych hawl i dderbyn eich data personol gennym mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac y gellir ei ddarllen gan beiriant. Fodd bynnag, efallai na fydd gennych yr hawl hon os byddai'n effeithio'n andwyol ar ryddid a hawliau eraill.

6.13 Cwyno i Awdurdod Goruchwylio. Os ydych chi'n credu ein bod yn torri cyfreithiau diogelu data wrth brosesu eich data personol, gallwch gyflwyno cwyn i awdurdod goruchwylio sy'n gyfrifol am ddiogelu data. Gallwch wneud hyn yn lleoliad y drosedd honedig, yn eich gweithle neu yn lle rydych chi'n byw fel arfer yn yr aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

6.14 Hawl i dynnu caniatâd yn ôl. I'r graddau mai caniatâd yw'r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu eich data personol, mae gennych hawl i dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl ar unrhyw adeg. Ni fydd tynnu'n ôl yn effeithio ar gyfreithlondeb y prosesu cyn tynnu'n ôl.

6.15 Arfer eich hawliau. Gallwch arfer unrhyw un o'ch hawliau mewn perthynas â'ch data personol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i ni yn ogystal â'r dulliau eraill a nodir uchod.

6.16 Data pwynt cyswllt. Ni fydd paragraffau 6.1 – 6.14 yn berthnasol i ddata a geir neu a brosesir gan Parkwood Leisure a'i is-gwmnïau a'i bartneriaid mewn perthynas â phwyntiau cyswllt sy'n ymwneud â phrif gontractwr (fel y diffinnir ym mharagraffau 1.9 ac 1.11 uchod). Yng nghyswllt data o’r fath:

a. Mae Parkwood Leisure a phartneriaid data dibynadwy, gan gynnwys:

  • Access UK Ltd
  • Legend (Xplor)
  • CAP2 (Fitronics)
  • Spektrix
  • IO Studios
  • Momentum
  • Egym
  • Pace Print and Design
  • Groupmove Ltd
  • FareHarbor
  • Innovatise
  • FuseMetrix
  • Good Boost
  • ClubRight
  • Refer All
  • Health Hero
  • ARVRA

yn gweithredu fel prosesydd y data hwnnw a’r prif gontractwr yw’r rheolydd;

b. Dylai pwyntiau cyswllt gysylltu â'r prif gontractwr i arfer yr hawliau a nodir ym mharagraff 6.

7. Cyfeiriadau IP a Chwcis.

7.1 Ffeiliau testun bach iawn yw cwcis sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur pan fyddwch chi'n ymweld â rhai gwefannau.

7.2 Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i adnabod eich cyfrifiadur, gan gynnwys lle bo modd, eich cyfeiriad IP, eich system weithredu a’r math o borwr, ar gyfer gweinyddu’r system fel y gallwn gadw eich gweithgareddau’n ddiogel, teilwra eich profiad fel defnyddiwr a chofio eich dewisiadau. Data ystadegol yw hwn ac nid yw'n dangos pwy yw neb. Gallwch analluogi unrhyw gwcis sydd eisoes wedi'u storio ar eich cyfrifiadur neu glirio storfa eich porwr ond gall hyn arwain at golli unrhyw ddewisiadau a osodwyd yn flaenorol.

8. Ein manylion ni.

8.1 Mae'r wefan a'r feddalwedd yn cael eu gweithredu o dan drwydded gan Parkwood Leisure Limited.

8.2 Rydym wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 03232979, ac mae ein swyddfa gofrestredig yn The Stables, Duxbury Park, Duxbury Hall Rd, Chorley PR7 4AT.

8.3 Gallwch gysylltu â ni:

  • drwy'r post, gan ddefnyddio'r cyfeiriad post uchod;
  • gan ddefnyddio ffurflen gyswllt ein gwefan;
  • dros y ffôn, gan ddefnyddio’r rhif cyswllt a gyhoeddir ar ein gwefan o bryd i'w gilydd; neu
  • drwy e-bost, gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a gyhoeddir ar ein gwefan o bryd i'w gilydd.

9. Swyddog Diogelu Data

Dyma fanylion cyswllt ein swyddog diogelu data: Glen Hall – e-bost: mail@parkwood-leisure.co.uk