Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}

Cynllunio eich ymweliad â Phwll Rhyngwladol Caerdydd a’r Gampfa

Leisure Centre Hero Image

Am Ein Canolfan

Os ydych chi yma i ymarfer, mwynhau nofio teuluol, neu roi cynnig ar weithgaredd newydd, mae cynllunio ymlaen llaw yn sicrhau ymweliad llyfn a phleserus â Phwll Rhyngwladol Caerdydd a’r Gampfa. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod wrth ymweld â ni.

Cyrraedd yma

Rydyn ni wedi ein lleoli yn Olympian Drive, Grangetown, Caerdydd, CF11 0JS, gydag arwyddion clir yn eich cyfeirio chi. Un tirnod gerllaw yw Arena Vindico. Mae'r ganolfan yn hygyrch ar fws hefyd, gyda'r stop yn Olympian Drive, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd yn cael ei wasanaethu gan CardiffBus.

Edrychwch ar yr amserlenni bysiau yma.

Parcio

Mae gennym ni faes parcio mawr wedi'i leoli y tu ôl i'n hadeilad ni, sydd ar gael am ddim i'n cwsmeriaid. Mae'r maes parcio yn hygyrch ar gyfer parcio i bobl anabl a rhieni a phlant.

Hygyrchedd

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu a gwella ein cyfleusterau fel ein bod yn hygyrch i bawb yn y gymuned.

Nodweddion hygyrchedd

Mae gennym amrywiaeth o nodweddion a mannau hygyrch, gan gynnwys:

  • Drysau mynediad electronig
  • Lifft
  • Ardal newid hygyrch
  • Cawodydd hygyrch
  • Toiledau hygyrch
  • Loceri hygyrch
  • Dolen Sain
  • Teclynnau Codi Pwll
  • Sesiynau nofio hygyrch
  • Deunyddiau mewn fformat print mawr
  • Parcio Hygyrch
  • Eisteddle i wylwyr ar gyfer y ddau bwll nofio

Os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol / ychwanegol ar gyfer ymweld, cysylltwch â ni'n uniongyrchol a byddwn yn gwneud ein gorau i wneud eich ymweliad mor bleserus â phosibl.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Y Tu Mewn i'n Canolfan

Ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd a’r Gampfa, rydyn ni’n darparu amrywiaeth o weithgareddau a chyfleusterau i gefnogi eich ffitrwydd a'ch lles. O'n dosbarthiadau campfa a grŵp i nofio a chwaraeon, mae rhywbeth i bawb. Edrychwch ar ein cynigion craidd ni isod a gweld sut gallwn ni eich helpu chi i ddal ati i fod yn actif.