We're currently experiencing a technical issue with class bookings on both our app and website. You may see unexpected charges or trouble loading classes when trying to book. We're working closely with our providers to resolve this as quickly as possible. Thank you for your patience and understanding.
Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}

Dosbarthiadau Ffitrwydd yng Nghaerdydd

Leisure Centre Hero Image

Ein Dosbarthiadau

Ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd a’r Gampfa, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau ymarfer grŵp sydd wedi'u cynllunio i fod yn addas i bob lefel ffitrwydd, oedran a diddordeb. Os ydych chi eisiau meithrin cryfder neu wella eich cardio, mae gennym ni’r dosbarth perffaith i chi. Gyda mwy na 60 o ddosbarthiadau bob wythnos, mae bob amser un sy'n addas i'ch amserlen.

Beth Rydym Yn Ei Gynnig

  • Mwy na 60 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos gydag opsiynau ar gyfer pob lefel ffitrwydd a gallu.
  • Hyfforddwyr arbenigol sy'n darparu arweiniad cymwys a chymhelliant.
  • Opsiynau amrywiol ar gyfer dosbarthiadau.
  • Dosbarthiadau ffitrwydd sy'n gyfeillgar i bobl hŷn i gefnogi pob oedran a gallu.
  • Mae dosbarthiadau Rhithwir Les Mills ar gael drwy gydol y dydd gan wneud ymarfer grŵp yn hygyrch dim ots pa mor brysur yw eich amserlen.

Dod o Hyd i Ddosbarth

Edrychwch ar ein hamserlen lawn o ddosbarthiadau a dewis y sesiwn ar gyfer eich amserlen! Gyda dosbarthiadau ar gael drwy gydol y dydd, rydych chi'n siŵr o ddod o hyd i un sy'n addas i'ch anghenion.

Prisiau Dydd

Os yw'n well gennych chi hyblygrwydd mynediad talu wrth fynd, fe allwch chi ymuno â'n dosbarthiadau heb aelodaeth. Gweld prisiau ein dosbarthiadau drwy glicio yma.

Dod yn Aelod

Gydag aelodaeth ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd a’r Gampfa, byddwch chi'n cael mynediad digyfyngiad i'n holl ddosbarthiadau ffitrwydd a lles, ynghyd â blaenoriaeth archebu a mwy. Edrychwch ar ein hopsiynau aelodaeth heddiw!

Dod yn Aelod

Beth Rydym Yn Ei Wneud