Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}

Ymunwch â ni ar gyfer ein Penwythnos Agored

open-day

Marciwch eich calendr am brofiad bythgofiadwy yn ein Penwythnos Agored ar ddydd Sadwrn 24 a dydd Sul 25 Ionawr 2026.

Dyma beth i’w ddisgwyl o’n Penwythnos Agored

Rydyn ni’n agor ein drysau fis Medi, felly rhowch nodyn ar eich calendr er mwyn cael profiad bythgofiadwy yn ein Penwythnos Agored!

Os ydych chi eisiau rhoi hwb i'ch nodau ffitrwydd, dod o hyd i hobi newydd, neu fwynhau diwrnod hwyliog allan gyda theulu a ffrindiau, mae gennym ni bopeth ar eich cyfer chi.

Ymunwch â ni ar:

Dyddiad: Dydd Sadwrn 24 a Dydd Sul 25 Ionawr 2026

Amser: Drwy'r dydd

 

Enw'r Gweithgaredd: Campfa Am Ddim

Amser: 08:00 - 17:00 (Dydd Sadwrn), 09:00 - 17:00 (Dydd Sul)

Manylion: Mae ein campfa ym Mhwll Rhyngwladol a Champfa Caerdydd yn cynnig offer cwbl fodern, hyfforddwyr arbenigol ac amgylchedd cyfeillgar. Mae'n croesawu pawb, dim ots beth yw eu lefel ffitrwydd, i gadw'n heini ac yn iach. Dewch i roi cynnig arni eich hun am ddim!

Addas ar gyfer: 16 oed +

Beth fydd angen i chi ddod gyda chi: Potel ddŵr, dillad campfa, clo clap (ar gyfer y loceri) ac esgidiau hyfforddi (mae cyfleusterau cawod ar gael hefyd).

Sut i archebu: Cysylltwch â ni

Manylion eraill: Rhaid cofrestru wrth y Ddesg Aelodaeth wrth gyrraedd.

 

Enw'r Gweithgaredd: Ystafell Iechyd

Amser: 10:00 - 15:30 (y ddau ddiwrnod)

Manylion: Hwb i’ch lles! Mae ein Hystafell Iechyd yn cynnig dihangfa dawel gyda sawna, ystafell stêm a bath sba yn barod i chi eu mwynhau!

Addas ar gyfer: 16 oed +

Beth fydd angen i chi ddod gyda chi: Potel ddŵr, dillad nofio, clo clap (ar gyfer y loceri) a thywel / ategolion cawod.

Sut i archebu: Cysylltwch â ni

Manylion eraill: Rhaid cofrestru wrth y Ddesg Aelodaeth wrth gyrraedd.

 

Enw'r Gweithgaredd: Dosbarthiadau Ymarfer Grŵp

Amser: Edrychwch ar yr amserlen

Manylion: Ym Mhwll Rhyngwladol a Champfa Caerdydd, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o ddosbarthiadau ymarfer grŵp sydd wedi'u cynllunio i gyd-fynd â phob lefel ffitrwydd, oedran a diddordeb. Os ydych chi eisiau meithrin cryfder neu wella eich cardio, mae gennym ni’r dosbarth perffaith i chi.

Addas ar gyfer: 16 oed +

Beth fydd angen i chi ddod gyda chi: Potel ddŵr, dillad campfa ac esgidiau hyfforddi (mae cyfleusterau cawod ar gael hefyd).

Sut i archebu: Cysylltwch â ni

Manylion eraill: Rhaid cofrestru wrth y Ddesg Aelodaeth wrth gyrraedd.

 

Enw'r Gweithgaredd: Nofio mewn Lonydd

Amser: 13:00 - 17:00 (y ddau ddiwrnod)

Manylion: Gwella eich ffitrwydd a'ch stamina yn ein sesiynau nofio lonydd pwrpasol. Dewiswch o lonydd cyflym, canolig neu araf i gyd-fynd â'ch cyflymder a mwynhau profiad nofio ffocws yn ein pwll 50m! Addas ar gyfer: 8 oed a hŷn (rhaid bod yn nofiwr cymwys ac os ydych chi o dan 16 oed rhaid cael oedolyn i oruchwylio ar y safle)

Beth fydd angen i chi ddod gyda chi: Potel ddŵr, Gogls, Cap Nofio, Dillad Nofio, £1 ar gyfer locer a thywel / ategolion cawod.

Sut i archebu: Cysylltwch â ni

Manylion eraill: Rhaid cofrestru wrth y Ddesg Aelodaeth wrth gyrraedd.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ein Penwythnos Agored, cysylltwch â ni yma.