Rydym yn cydnabod y ddyletswydd gofal i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion agored i niwed ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod arferion diogelu yn adlewyrchu cyfrifoldebau statudol a chanllawiau'r llywodraeth ac yn cydymffurfio ag arferion gorau a gofynion perthnasol ym maes chwaraeon. Mae'r polisi'n cydnabod bod lles a buddiannau plant ac oedolion agored i niwed yn hollbwysig beth bynnag yw’r amgylchiadau. Y nod yw sicrhau bod pawb yn cael profiad cadarnhaol a phleserus yng nghyfleusterau Parkwood Leisure, Legacy Leisure, Lex Leisure, Creating Active Futures, 1Life a Wellbeing Fitness and Leisure Community Trust, waeth beth fo'u hoedran, eu gallu neu'u hanabledd, eu hil, eu crefydd neu gred, eu cefndir economaidd-gymdeithasol, eu rhyw neu’u cyfeiriadedd rhywiol neu a ydynt wedi ailbennu eu rhywedd, a hynny mewn amgylchedd diogel, yn rhydd rhag camdriniaeth, wrth ddefnyddio’r cyfleusterau.
Pwrpas y datganiad polisi hwn yw:
- amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl sy'n derbyn gwasanaethau Parkwood Leisure, Legacy Leisure, Lex Leisure, Creating Active Futures, 1Life Management Solutions Limited a Wellbeing, Fitness and Leisure Community Trust rhag niwed.
- darparu i staff a gwirfoddolwyr, yn ogystal â phlant ac oedolion agored i niwed a'u teuluoedd, yr egwyddorion cyffredinol sy'n arwain ein dull cyffredin o amddiffyn plant.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw un sy'n gweithio ar ran Parkwood Leisure, Legacy Leisure, Lex Leisure, Creating Active Futures, 1Life a Wellbeing, Fitness and Leisure Community Trust, gan gynnwys ymddiriedolwyr, cyfarwyddwyr, uwch reolwyr, staff cyflogedig, gwirfoddolwyr, gweithwyr sesiynol, staff asiantaeth a myfyrwyr.
Beth fyddwn ni’n ei wneud
Fel rhan o'n polisi diogelu byddwn yn:
- Hyrwyddo a blaenoriaethu diogelwch a lles plant a phobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg.
- Gwerthfawrogi plant, gwrando arnynt a’u parchu.
- Sicrhau bod trefniadau a gweithdrefnau diogelu cadarn ar waith.
- Mabwysiadu arferion gorau o ran diogelu drwy ein polisïau, ein gweithdrefnau a’n cod ymddygiad ar gyfer staff a gwirfoddolwyr.
- Sicrhau bod pawb yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau o ran diogelu a'u bod yn cael cyfleoedd dysgu priodol i adnabod, nodi ac ymateb i arwyddion o gam-drin, esgeulustod a phryderon diogelu eraill sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc.
- Darparu rheolaeth effeithiol i staff a gwirfoddolwyr drwy oruchwyliaeth, cefnogaeth,
hyfforddiant a mesurau sicrhau ansawdd fel bod yr holl staff a’r gwirfoddolwyr yn gwybod am ein polisïau, ein gweithdrefnau a’n codau ymddygiad ac yn eu dilyn yn hyderus ac yn gymwys.
- Sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd os bydd digwyddiadau neu bryderon ynghylch cam-drin a bod cefnogaeth yn cael ei darparu i'r unigolyn/unigolion sy'n codi’r pryder neu’n ei ddatgelu.
- Sicrhau bod cofnodion cyfrinachol, manwl a chywir o bob pryder sy’n ymwneud â diogelu yn cael eu cadw a'u storio'n ddiogel.
- Cofnodi a storio gwybodaeth yn ddiogel, yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau diogelu data.
- Atal cyflogi neu ddefnyddio unigolion anaddas drwy recriwtio a dewis staff a gwirfoddolwyr yn ddiogel, gan sicrhau bod yr holl wiriadau angenrheidiol yn cael eu gwneud.
- Penodi arweinydd diogelu enwebedig ar gyfer plant a phobl ifanc, ynghyd â dirprwy a phrif ymddiriedolwr/aelod o'r bwrdd ar gyfer diogelu.
- Datblygu a gweithredu polisi diogelwch ar-lein effeithiol a gweithdrefnau cysylltiedig.
- Rhannu gwybodaeth am ddiogelu ac arfer da gyda phlant a'u rhieni drwy daflenni, posteri, gwaith grŵp a thrafodaethau un-i-un.
- Gwneud yn siŵr bod plant, pobl ifanc a'u rhieni'n gwybod ble i fynd am gymorth os oes ganddynt bryder.
- Bydd y polisi a'r gweithdrefnau'n cael eu hyrwyddo'n eang ac maent yn orfodol i bawb sy'n ymwneud â'r sefydliad. Bydd achosion o fethu cydymffurfio â'r polisi a'r gweithdrefnau'n cael
sylw heb oedi a gall arwain yn y pen draw at ddiswyddo neu wahardd o'r sefydliad.
Monitro
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu flwyddyn ar ôl ei ddatblygu ac yna bob tair blynedd, neu yn yr amgylchiadau canlynol: newidiadau mewn deddfwriaeth a/neu ganllawiau'r llywodraeth fel sy'n ofynnol gan y bartneriaeth diogelu leol, o ganlyniad i unrhyw newid neu ddigwyddiad arwyddocaol arall.
Alexandria Gibson, Swyddog Diogelu Dynodedig