DATGANIAD POLISI CYDRADDOLDEB, AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Parkwood Leisure, ei Is-gwmnïau a’i Bartneriaid

Rydym yn credu bod ein cyfleusterau a'n gwasanaethau ar gyfer pawb. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd croesawgar, cynhwysol a hygyrch lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei barchu, a'i fod yn gallu ffynnu. Fel darparwr hamdden blaenllaw, rydym yn credu bod cofleidio amrywiaeth a sicrhau cyfle cyfartal ym mhopeth rydym yn ei wneud yn gwneud ein gwasanaethau – a'n cymunedau – yn gryfach.

Rydym yn sefyll yn erbyn gwahaniaethu o unrhyw fath. Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, nid ydym yn goddef triniaeth annheg ar sail oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, ethnigrwydd neu darddiad cenedlaethol, crefydd neu gred, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol. Dylai pawb yn ein cymuned gael cyfle cyfartal i fod yn actif ac elwa o'n cyfleusterau, heb unrhyw ragfarn na rhwystrau.

Ein Hymrwymiadau:

  • Gwasanaethau Cynhwysol i Bawb: Ein nod ni yw sicrhau bod gan bob aelod o'n cymuned fynediad cyfartal i'n gweithgareddau chwaraeon a hamdden – os ydych chi'n rhoi cynnig ar gyfleuster am y tro cyntaf neu'n ddefnyddiwr rheolaidd.
  • Amgylchedd Croesawgar: Fe deimlwch chi awyrgylch cyfeillgar a chynhwysol ym mhob un o'n cyfleusterau. Mae ein staff wedi'u hyfforddi i fod yn barchus, yn gefnogol ac yn ymwybodol o anghenion unigol. Nid oes lle i aflonyddu na gwahardd yma.
  • Hygyrchedd: Rydym wedi ymrwymo i wneud ein cyfleusterau a'n cyfathrebu yn hygyrch i bawb. Lle bynnag y bo modd, mae gan ein cyfleusterau nodweddion hygyrchedd priodol. Gellir dod o hyd i gopi o'n polisi hygyrchedd yma. Rydym yn buddsoddi'n barhaus mewn gwelliannau i gael gwared ar rwystrau corfforol neu synhwyraidd i gyfranogiad.
  • Fforddiadwyedd a Thegwch: Er mwyn sicrhau nad yw cost yn rhwystr, rydym yn cynnig opsiynau fforddiadwy, gan gynnwys aelodaeth ratach a rhaglenni gostyngiad mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a mentrau cymunedol. Mae pawb yn haeddu'r cyfle i fod yn actif ac yn iach; rydym yn ymdrechu i gadw ein gwasanaethau'n deg ac o fewn cyrraedd ein cymunedau.
  • Gweithlu Amrywiol Sy’n Cael Ei Gefnogi: Rydym yn gwybod bod tîm amrywiol yn ein helpu ni i wasanaethu cymuned amrywiol. Mae Parkwood Leisure a'i Is-gwmnïau a'i Bartneriaid yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio ac yn datblygu ein staff yn seiliedig ar dalent a gwerthoedd, a byth ar sail rhagfarn, ac rydym yn falch o fod â gweithlu sy'n adlewyrchu ein cymunedau. Rydym yn darparu hyfforddiant rheolaidd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fel bod gan ein cydweithwyr ni ar bob lefel yr ymwybyddiaeth a'r sgiliau i gyfrannu at ddiwylliant cynhwysol. O staff rheng flaen i reolwyr, mae ein pobl ni wedi'u hyfforddi i gynnal ein hegwyddorion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac i wneud i bob cwsmer deimlo'n gartrefol.
  • Ymgysylltu â'r Gymuned: Rydym yn ymgysylltu'n weithredol â chymunedau lleol a grwpiau rhanddeiliaid fel sail i’n dull o weithredu. Drwy weithio gydag ysgolion, sefydliadau cymunedol, grwpiau anabledd, cymdeithasau diwylliannol a chynghorau lleol, rydym yn dysgu sut i ddiwallu anghenion pawb yn well. Rydym yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a mentrau cymunedol sy'n dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cynhwysiant, ac rydym yn gwrando ar adborth gan ein defnyddwyr i barhau i wella.
  • Gwelliant Parhaus ac Atebolrwydd: Rydym yn monitro pwy sy'n defnyddio ein cyfleusterau a sut maent yn eu defnyddio, er mwyn nodi bylchau a gwella ein cynhwysiant yn barhaus. Anogir adborth gan gwsmeriaid a staff - rydym eisiau clywed am eich profiadau chi. Rydym yn adolygu ein rhaglenni, ein polisïau a'n cynnydd yn rheolaidd, ac rydym yn dryloyw ynglŷn â'n hymdrechion. Os nad yw rhywbeth yn iawn, byddwn yn gweithredu arno. Mae gennym hefyd broses gwyno ac adrodd glir ar gyfer unrhyw fath o wahaniaethu neu annhegwch, ac rydym yn cymryd camau prydlon i ddatrys problemau.

Ein Haddewid:

Yn Parkwood Leisure, ei Is-gwmnïau a’i Bartneriaid, rydym yn gwneud y peth iawn. Rydym yn falch o fod yn lleoliad sy’n cynnig croeso i bawb. Drwy ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith bob dydd, ein nod ni yw nid yn unig darparu profiadau hamdden gwych, ond hefyd helpu i greu cymunedau iachach a hapusach. Gyda'n gilydd, rydym yn ffynnu pan mae pawb yn perthyn.

 

Adolygwyd y ddogfen ddiwethaf: Medi 2025