Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Cyfle i fyw bywyd hapusach ac iachach gyda'n dosbarthiadau Good Boost a boreau coffi Arthritis Action yng Nghanolfan Hamdden y Barri. Bydd y sesiynau yma’n rhoi'r wybodaeth a'r ymarferion i chi i helpu i leihau unrhyw boenau yn y cyhyrau a’r cymalau, gwella eich iechyd corfforol a meddyliol, a gwella ansawdd eich bywyd.
Mae Good Boost yn darparu dull hyblyg o'ch cefnogi chi gyda'r boen yn eich cyhyrau neu eich cymalau drwy ddosbarthiadau adfer ysgafn yn y dŵr ac ar dir.
Gan ddefnyddio gwybodaeth sy’n cael ei darparu am y cyflwr ar eich cyhyrau neu gymalau, mae’r sesiynau’n cael eu teilwra'n unigol i roi cyfle i chi wneud cynnydd drwy eich ymarferion ar eich cyflymder eich hun ac maen nhw wedi'u creu gan arbenigwyr er mwyn lleihau poen a gwella eich cryfder a'ch symudedd.
Mae'r sesiynau'n para rhwng 30 a 60 munud (yn dibynnu ar y safle) ac yn cynnwys sesiwn gynhesu 10 munud ac wedyn cyfres o ymarferion unigol am 3 i 4 munud, gyda gweithgareddau grŵp hwyliog yn y canol er mwyn cynnal tymheredd corff cyfforddus. Mae sesiynau grŵp ac unigol ar gael (holwch yn eich cyfleuster hamdden).
Byddwch yn cael eich tabled cyfrifiadurol eich hun sy’n hawdd ei ddefnyddio ac yn dal dŵr yn ystod y sesiwn a fydd yn arddangos eich ymarferion personol gyda diagramau clir wedi’u hanimeiddio. Bydd eich hwylusydd Good Boost yn y pwll ac o'i gwmpas drwy gydol y sesiwn i'ch cefnogi chi a'ch arwain.
Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am ddosbarthiadau Good Boost yma.
Mae ein Rhaglen Bump Boost wedi cael ei chynllunio gyda mamau ac arbenigwyr geni i gefnogi mamau beichiog a mamau newydd i fod yn actif yn y Pwll.
Mae wedi'i chynllunio i fod yn hwyl ac yn fuddiol i bobl ag amrywiaeth o gyflyrau iechyd ac mae'n addas ar gyfer pobl sy'n profi problemau cyhyrysgerbydol.
Rydyn ni’n bwriadu gwella iechyd a lles drwy symudiad ac adsefydlu personol, wedi'i bweru gan dechnoleg i greu gwasanaethau cymunedol hygyrch a fforddiadwy sy'n lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Fel Good Boost, bydd pob person yn cael ipad a fydd yn darlunio’r ymarferion drwy ddelweddu wedi’i animeiddio sy'n gweithio ar wella symudiad ac adeiladu cryfder a symudedd.
Sut I Archebu
Os hoffech chi fynychu ein dosbarthiadau Good Boost, rhowch 5 munud i lenwi'r ffurflen sydd yn y ddolen isod. Gall eich meddyg teulu neu ymarferydd gofal iechyd eich cyfeirio chi at y cyrsiau Good Boost hefyd. Ar ôl derbyn yr atgyfeiriad, bydd y ganolfan yn cysylltu â chi'n uniongyrchol ac yn eich gwahodd i'r Ganolfan i fynd drwy'r broses Gofrestru. Ar ôl cwblhau’r broses yma, gallwch fynychu ein Sesiynau Good Boost Aqua / Bump Boost.
Gan ddarparu gwybodaeth gan Arthritis Action, bydd y boreau coffi hamddenol 45 munud i 1 awr am ddim yma’n helpu unigolion sy'n byw gydag arthritis i ddysgu sut i wella ansawdd eu bywyd mewn grŵp gyda chymorth. Mae ein boreau coffi misol ni’n elfen bwysig iawn sy'n cynnig manteision cymdeithasol ochr yn ochr â'r gweithgareddau corfforol rydyn ni’n eu cynnig.
Mae'r sesiynau yma’n cael eu cynnal bob dydd Gwener olaf y mis bob mis am 10.30am. Dewch i ymuno â ni - does dim angen archebu.
Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am foreau coffi yma.
Sut I Archebu
Does dim gofynion cofrestru ar gyfer ein boreau coffi Arthritis Action ac mae croeso i chi alw heibio. Ffoniwch y ganolfan ar 01446 403 000 am ragor o wybodaeth.
I ddarllen mwy am ein cynllun MSK, cliciwch yma.