Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}

Gwersi Nofio i Fabanod, Plant Bach a Phlant Cyn Ysgol yn y Barri

Leisure Centre Hero Image

Am Ein Gwersi Nofio Cyn Ysgol

Cyflwynwch eich plentyn i holl hwyl nofio yng Nghanolfan Hamdden y Barri. Mae ein gwersi cyfnod cynnar ni’n helpu babanod, plant bach a phlant cyn ysgol i ennill hyder yn y dŵr a datblygu sgiliau nofio hanfodol gyda chefnogaeth oedolyn dibynadwy.

Wedi'u cynllunio ar gyfer plant rhwng 3 mis a 4 oed, mae'r sesiynau yma’n darparu amgylchedd diogel a difyr i sefydlu sylfaen ar gyfer diogelwch am oes mewn dŵr. Mae'n ofynnol i oedolyn fod yn y dŵr gyda'r plentyn yn ystod y gwersi yma.

Pam Dewis Ein Gwersi Nofio?

  • Wedi’u Hachredu gan y Royal Life Saving Society (RLSS): Mae ein gwersi ni’n bodloni'r safonau diogelwch ac ansawdd uchaf.
  • Dull Diogelach - Doethach - Cryfach: Rydyn ni’n darparu hyfforddiant ychwanegol gyda’i ffocws ar ymwybyddiaeth o ddiogelwch mewn dŵr, gan sicrhau hyder yn y dŵr.
  • Argaeledd Drwy Gydol y Flwyddyn: Mae ein gwersi ni ar gael 50 wythnos y flwyddyn, gan ei wneud yn hawdd ffitio nofio yn eich amserlen.
  • Asesiad Parhaus: Rydyn ni’n asesu nofwyr yn barhaus, gan alluogi iddynt wneud cynnydd cyn gynted ag y byddant yn bodloni'r meini prawf ar gyfer pob ton. 

Tracio Cynnydd Eich Plentyn

Monitro datblygiad eich nofiwr bach gan ddefnyddio ein porthol ni ar-lein, lle gallwch dracio ei gyflawniadau wrth iddo wneud cynnydd drwy'r tonnau.

Archebwch Eich Gwersi Nofio

Mae ein hyfforddwyr cymwys yn sicrhau bod pob sesiwn yn bleserus ac yn addysgiadol, gan ddarparu sylfaen ar gyfer cariad gydol oes at nofio.

Archebwch Eich Gwersi Nofio