Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}

Chwaraeon a Gweithgareddau yn y Barri

Leisure Centre Hero Image

Am Ein Gweithgareddau

Yng Nghanolfan Hamdden y Barri, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau i unigolion, teuluoedd a thimau o bob oedran a gallu. Os ydych chi eisiau cadw’n actif, gwella eich sgiliau, neu gael hwyl gyda ffrindiau, mae gan ein cyfleusterau ni rywbeth i chi.

Beth Rydyn Ni’n Ei Gynnig?

  • Neuadd Chwaraeon Chwe Chwrt: Gofod hyblyg ar gyfer amrywiaeth o gemau a gweithgareddau.
  • Badminton: Heriwch eich ffrindiau ar ein cyrtiau ni.
  • Pêl Fasged: Ymarfer eich ergydion a'ch sgiliau ar ein cyrtiau pwrpasol.
  • Pêl Rwyd Cerdded: Cyfle i gymryd rhan mewn ymarfer corff hwyliog, ysgafn, effaith isel a chymdeithasol.
  • Pêl Droed Pump Bob Ochr: Mwynhewch gêm gyda ffrindiau neu gyd-chwaraewyr.
  • Tennis Bwrdd: Perffaith ar gyfer gêm achlysurol o ping pong neu gystadlu o ddifrif.

Cadw’n Actif, Eich Ffordd Chi

Os ydych chi'n ymuno â grŵp, yn ymarfer ar eich pen eich hun, neu'n dod â'r teulu, Canolfan Hamdden y Barri yw'r lle delfrydol i chi gadw’n actif, rhoi cynnig ar chwaraeon newydd, ac ymarfer yn rheolaidd.

Gweithgareddau Chwaraeon

Gweithgareddau i Blant

Llogi Ein Cyfleusterau

Chwilio am leoliad ar gyfer eich digwyddiad neu weithgaredd nesaf? Yng Nghanolfan Hamdden y Barri, rydyn ni’n cynnig opsiynau llogi cyfleusterau hyblyg i fod yn addas i amrywiaeth o anghenion. Os ydych chi'n cynnal gêm chwaraeon, ymarfer tîm, neu ddigwyddiad, mae ein cyfleusterau modern ni’n darparu'r lleoliad perffaith. Cysylltwch â ni heddiw i archebu'r gofod sy'n addas i chi.