Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Os ydych chi yma i ymarfer, mwynhau nofio teuluol, neu roi cynnig ar weithgaredd newydd, mae cynllunio ymlaen llaw yn sicrhau ymweliad hwylus a phleserus â Chanolfan Hamdden y Barri. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod wrth ymweld â ni.
Rydyn ni wedi ein lleoli ar Stryd Greenwood, Y Barri CF63 4JJ, gydag arwyddion clir yn eich cyfeirio chi at y ganolfan. Mae llwybrau lleol ar gael sy'n stopio yn y Safle Bws agosaf yn y Swyddfeydd Dinesig - dim ond siwrnai fer ar droed sydd wedyn i'r Ganolfan. Y llwybrau sy'n stopio yma yw'r B1, B2 a’r 88.
Os ydych chi'n cyrraedd mewn car, rydyn ni’n cynnig maes parcio am ddim gyda lle i 50 o gerbydau, gan gynnwys parcio hygyrch, llefydd i rieni a phlant, a pharcio i feiciau modur, i gyd ar gael am ddim i gwsmeriaid y ganolfan hamdden. Mae parcio ychwanegol yn y ganolfan ddinesig a maes parcio arall oddi ar y briffordd o flaen y ganolfan, i gyd am ddim ac yn hygyrch.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu a gwella ein cyfleusterau fel ein bod yn hygyrch i bawb yn y gymuned.
Mae gennym ni amrywiaeth o nodweddion a mannau hygyrch, gan gynnwys:
Os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol / ychwanegol ar gyfer ymweld, cysylltwch â ni'n uniongyrchol a byddwn yn gwneud ein gorau i wneud eich ymweliad mor bleserus â phosibl.
Yng Nghanolfan Hamdden y Barri, rydyn ni’n darparu amrywiaeth o weithgareddau a chyfleusterau i gefnogi eich ffitrwydd a'ch lles. O'n campfa a'n dosbarthiadau grŵp i nofio a chwaraeon, mae rhywbeth i bawb. Edrychwch ar ein cynigion craidd isod a gweld sut gallwn ni eich helpu chi i gadw’n actif.