Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Mae dysgu nofio yn sgil bywyd hanfodol sy'n fuddiol i unigolion o bob oed. Nid yn unig y mae'n gwella diogelwch personol mewn amgylcheddau dŵr amrywiol ond mae hefyd yn meithrin hyder a mwynhad mewn gweithgareddau dŵr. Mae ein rhaglen strwythuredig ni’n sicrhau bod y cyfranogwyr yn cwblhau pob un o'r 8 ton o hyfedredd nofio, sy'n hanfodol ar gyfer meistroli diogelwch mewn dŵr.
Yng Nghanolfan Hamdden y Barri, rydyn ni’n falch o fod yn bartner i Raglen Dysgu Nofio sefydliad Nofio Cymru. Mae ein cwricwlwm ni’n cynnwys pob un o'r 7 ton sylfaenol o nofio, gan ymgorffori hyfforddiant hanfodol ac archwiliadau gwybodaeth. Mae'r dull cynhwysfawr yma o weithio’n gwarantu bod sgiliau diogelwch dŵr allweddol yn cael eu hintegreiddio ar bob lefel o ddysgu.
Rydyn ni’n credu mewn rhoi gwybodaeth gyson i chi. Mae ein Porthol Cartref yn galluogi i chi dracio eich cynnydd a chael y wybodaeth ddiweddaraf ar hyd eich siwrnai nofio. Cliciwch yma i fewngofnodi.
Mae'r hyfforddiant ychwanegol yma wedi cael ei achredu gan y Royal Life Saving Society (RLSS), gan wneud Canolfan Hamdden y Barri yn wahanol i ddarparwyr gwersi eraill yn lleol.