Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Yng Nghanolfan Hamdden y Barri, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau nofio i bob oedran a gallu. O nofio hamdden cyhoeddus i nofio mewn lonydd, neu gymryd rhan yn ein rhaglen bwrpasol o wersi nofio, ein pwll ni yw'r lle perffaith i chi wella eich ffitrwydd a mwynhau'r dŵr.
Creu sblash gyda'n sesiynau nofio am ddim. Gall plant dan 16 oed fwynhau un sesiwn Sblash am ddim bob penwythnos, ynghyd â dwy sesiwn ychwanegol yn ystod gwyliau'r ysgol. Dros 60+? Manteisiwch ar 2 i 3 sesiwn nofio am ddim bob wythnos a chadw’n actif yn y dŵr.
Gall aelodau sy'n gwasanaethu a chyn-filwyr nofio am ddim yn ystod unrhyw sesiwn nofio gyhoeddus yn ein canolfannau hamdden ni. I fod yn gymwys, dewch â'ch Cerdyn Braint MOD i'r dderbynfa pan fyddwch chi'n cyrraedd.
Gyda sesiynau hyblyg a hygyrch, mae gennym ni rywbeth i bawb, boed yn ddechreuwr, yn nofiwr profiadol, neu ddim ond eisiau cael hwyl yn y dŵr.
Mwynhewch nofio yn ein canolfan ni heb fod angen aelodaeth. Edrychwch ar brisiau ein sesiynau ni drwy glicio yma.
Fel aelod yn y Barri, rydych chi'n cael mynediad at nofio mewn lonydd, nofio cyhoeddus, dosbarthiadau ffitrwydd dŵr, a blaenoriaeth archebu, i gyd wedi'u cynnwys yn eich aelodaeth. Edrychwch ar yr ystod o opsiynau aelodaeth sydd ar gael heddiw!
Creu sblash gyda ffrindiau a theulu yn ein sesiynau nofio hamdden hwyliog.
Gwella eich ffitrwydd a'ch stamina yn ein sesiynau nofio lonydd pwrpasol. Dewiswch o lonydd cyflym, canolig neu araf i gyd-fynd â'ch cyflymder a mwynhau profiad nofio llawn ffocws.
Cyfle i ddysgu nofio gyda'n hyfforddwyr arbenigol. Ar gael i bob oedran a gallu.
Cyfunwch hyfforddiant cardio a chryfder gyda sesiynau ffitrwydd yn y dŵr.