Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}

Clybiau yng Nghanolfan Hamdden y Barri

Yng Nghanolfan Hamdden y Barri, rydyn ni’n falch o gydweithredu â chlybiau lleol a mentrau cymunedol i gynnig ystod eang o weithgareddau i bob oedran a gallu.

O gefnogi timau chwaraeon ieuenctid a chynnal rhaglenni ffitrwydd i ffurfio partneriaeth â sefydliadau lleol, rydyn ni wedi ymrwymo i greu cymuned gref a helpu unigolion i gyflawni eu potensial llawn mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol.

Ar y dudalen hon

Show All

NERS

Mae Legacy Leisure wedi ymrwymo i annog ffyrdd iachach o fyw a gweithgarwch corfforol i'r rheiny sydd ei angen fwyaf. Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd â'r nod o wneud gweithgarwch corfforol yn ffordd newydd o fyw i bobl sy'n dioddef o broblemau iechyd ym Mro Morgannwg.

Mae'r cyfnod cychwynnol o 16 wythnos yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl i'ch helpu i ddod yn fwy heini. Caiff targedau eu gosod a chynnydd ei fonitro ac ar ddiwedd yr 16 wythnos bydd y tîm yn trafod â chi ffyrdd y gallwch barhau i gyflawni eich nodau ymarfer corff trwy wneud gweithgarwch corfforol yn rhan allweddol o'ch bywyd.

Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn gael ei atgyfeirio gan ei feddyg teulu. Gall achosion o atgyfeirio gynnwys pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel, anweithgarwch corfforol, risg o glefyd y galon, gordewdra, osteoporosis, diabetes, materion iechyd meddwl, a materion rheoli pwysau.

Os ydych yn teimlo eich bod yn gymwys i dderbyn cyfraddau gostyngol trwy NERS, neu i gael gwybod mwy am y cynllun, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu ffoniwch y Tîm Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff ar 01446 403000 a dewis eich canolfan agosaf. Fel arall, gallwch e-bostio ExerciseReferral@valeofglamorgan.gov.uk

Clwb Badminton y Barri

Ymunwch â ni am sesiynau badminton hwyliog a chyfeillgar sydd ar agor i bob oedran a gallu. Rydyn ni’n cwrdd unwaith yr wythnos ac yn croesawu chwaraewyr newydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch.

Clwb Achub Bywydau Bae Whitmore

Un o brif egwyddorion y clwb yw datblygiad plant, drwy gyfrwng achub bywydau. Mae'r clwb poblogaidd yma’n defnyddio'r ganolfan yn ystod misoedd y gaeaf ar gyfer hyfforddiant ond yn yr haf byddant ar y traeth! Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Vale Karate

Darganfyddwch eich potensial gyda Vale Karate. Ewch i wefan Vale Karate i ddysgu mwy neu glicio yma am fanylion. 

Little Kickers

Rhowch gychwyn i siwrnai pêl droed eich plentyn gyda hyfforddiant hwyliog a chyfeillgar i dimau Mini ac Iau.

Cysylltwch i gael gwybod mwy.

Yr Urdd

Ymunwch â'n gwersi nofio wythnosol yn yr iaith Gymraeg sydd ar agor i bob gallu. Mwy o wybodaeth drwy gysylltu â ni.

Barry Beavers

Clwb nofio cynhwysol i bobl ag anableddau. Mwy o wybodaeth ar wefan Barry Beaver neu drwy gysylltu ar traceysimpson1970@hotmail.co.uk

Clwb Nofio Amatur y Barri

Gan ddarparu ar gyfer pawb sydd rhwng 7 a 20 oed, mae Clwb Nofio Amatur y Barri yn cynnal hyfforddiant a galas rheolaidd yma yng Nghanolfan Hamdden y Barri. Cysylltwch i gael gwybod mwy.