Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} Gweld Mwy   Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion.

GWEITHGAREDDAU I BLANT YNG NGHANOLFAN HAMDDEN Y BARRI

Leisure Centre Hero Image
ABOUT KIDS ACTIVITIES

Our Leisure Centre provides a vibrant and safe environment where children can partake in fun-filled events, enriching their fitness, creativity, and social skills, making it a beloved choice among parents for fostering personal growth and lifelong skills.

YMUNWCH HEDDIW

Dewch i ganfod byd o hwyl a chyffro diddiwedd i’ch plant yn ein canolfan hamdden!

Mae ein gweithgareddau i blant wedi’u cynllunio i’w cael nhw i fod yn actif drwy gael hwyl gyda’u ffrindiau. Mae ein staff ymroddgar a phrofiadol yn sicrhau amgylchedd diogel a chynhwysol lle gall eich plant wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd, a chreu atgofion bythgofiadwy.

nofio hamdden

nofio hamdden

Mae sesiynau nofio hamdden ar gael i chi nofio gyda rhyddid, gan helpu’r plant i fod yn hyderus yn y dŵr, ac i gael hwyl wrth gwrs!

GWERSYLL CHWARAEON

GWERSYLL CHWARAEON

Gwersylloedd Chwaraeon –  Canolfan Hamdden y Barri.

Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener - 22 Gorffennaf i 30 Awst

08:30 - 17:00

Oedran:
Gwersyll Bach – 5-7 oed (angen dillad nofio a thywel)
Gwersyll Mawr – 8-11 oed (angen dillad nofio a thywel)

Gweithgareddau’n cynnwys: Parti Pêl Droed, Cyrsiau Rhwystrau, Nofio (8-11 oed), Campwaith Celf, a llawer mwy!

Mae posib archebu lle yn y dderbynfa drwy lenwi’r ffurflenni caniatâd rhieni.

£28 y plentyn y diwrnod

CYRSIAU CYFLYM

CYRSIAU CYFLYM

Mae Cyrsiau Cyflym yn galluogi plant i adeiladu ar eu sgiliau o wersi nofio a chael help ychwanegol i basio eu cam yn gyflymach.

GWEITHGAREDDAU AM DDIM I BLANT

GWEITHGAREDDAU AM DDIM I BLANT

Rydyn ni’n cynnal gweithgareddau AM DDIM i blant yma yng Canolfan Hammden Y Barri! Archebwch le i’ch plentyn isod!

CHWARAE MEDDAL

CHWARAE MEDDAL

Yn y Chwarae Meddal gall plant archwilio, sleidio a neidio mewn amgylchedd lliwgar a diogel. Mae’n rhywle sy’n tanio’r dychymyg ac mae’r hwyl yn ddiddiwedd, gan roi profiad cofiadwy i blant a thawelwch meddwl i rieni.

PARTÏON

PARTÏON

Trefnwch barti eich plentyn gyda ni! Dewch i greu atgofion ardderchog gyda ffrindiau a theulu wrth i ni wneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael diwrnod gwych.

GWEITHGAREDDAU I BLANT

Mae ein Canolfan Hamdden yn darparu amgylchedd bywiog a diogel lle gall plant gymryd rhan mewn digwyddiadau llawn hwyl, gan gyfoethogi eu ffitrwydd, eu creadigrwydd a’u sgiliau cymdeithasol.

CYSYLLTU Â NI