Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}

Buddsoddiadau Canolfan Hamdden Penarth

Gwelliannau cyffrous i ddod yn fuan!

Rydyn ni wrth ein bodd yn rhannu newyddion am uwchraddio sylweddol i'ch campfa chi yng Nghanolfan Hamdden Penarth. Byddwn yn buddsoddi mwy na £150,000 a fydd yn cynnwys gosod offer hyfforddiant cryfder gan EGYM yn ei le.

Beth yw EGYM?

Rydyn ni wrth ein bodd yn cyflwyno EGYM i'n cyfleuster - ecosystem o'r radd flaenaf sydd wedi'i chynllunio i gael gwared ar y dyfalu o'ch ymarfer corff. Dyma'r ffordd ddoethach i hyfforddi! 

Os ydych chi'n hen law ar ffitrwydd neu newydd ddechrau ar eich siwrnai, mae EGYM yn cael gwared ar y ffactor heriol drwy addasu pob peiriant yn awtomatig i gyfrannau unigryw eich corff chi a'ch lefel ffitrwydd. Mae'r offer yn cofio gosodiadau eich sedd, eich ystod symudiad, a'ch ymwrthedd pwysau delfrydol, gan sicrhau bod pob ailadrodd yn ddiogel, yn effeithiol, ac wedi'i deilwra'n berffaith i chi.

Mae EGYM yn caniatáu i chi weld eich cynnydd mewn amser real. Gallwch dracio eich cynnydd mewn cryfder a'ch hyblygrwydd wrth iddyn nhw wella, ac fe fydd gennych chi gynllun hyfforddi personol sy'n esblygu wrth i chi gryfhau. Mae fel cael hyfforddwr personol bob cam o'r ffordd, yn eich helpu chi i gyrraedd eich nodau'n gyflymach wrth gael hwyl.

Pa beiriannau EGYM fydd yn cael eu gosod yn y gampfa?

Byddwn yn gosod cyfanswm o 10 peiriant EGYM yn eu lle a fydd yn caniatáu i'n haelodau ni gwblhau ymarfer corff llawn ar offer EGYM, ac felly elwa o'r dechnoleg glyfar a'r tracio cynnydd cryfder ar gyfer pob un o’r prif grwpiau o gyhyrau.

  • Peiriant Pwysau’r Frest EGYM
  • Peiriant Pwysau’r Ysgwyddau EGYM
  • Peiriant Rhwyfo yn Eistedd EGYM
  • Peiriant Tynnu i Lawr Ochrol EGYM
  • Peiriant Pwysau’r Coesau EGYM
  • Peiriant Ymestyn Coesau EGYM
  • Peiriant Cyrlio Coesau EGYM
  • Peiriant Hyrddio Cluniau EGYM
  • Peiriant Crensian yr Abdomen EGYM

Bydd Hwb Ffitrwydd Asesiad Clyfar EGYM yn ymuno â’r peiriannau uchod hefyd, a fydd yn helpu gyda chyflwyno’r aelodau i ecosystem EGYM, profion ffitrwydd ac asesiadau hyblygrwydd a bydd yn cysylltu â’r sganiwr cyfansoddiad corff Boditrax presennol. Bydd hyn yn caniatáu meincnodi a thracio ffitrwydd llawn a thrylwyr dros nifer o fetrigau allweddol.

Pa newidiadau eraill sy’n cael eu gwneud?

I gyd-fynd ag offer hyfforddiant cryfder EGYM, byddwn hefyd yn ychwanegu offer dethol gan Life Fitness, gan gynnwys:

  • Pwli Cebl Addasadwy Deuol Signature
  • Peiriant Cyrlio’r Cyhyrau Deuben Insignia  
  • Peiriant Pwysau’r Cyhyrau Triphen Insignia
  • Peiriant Hedfan Pec / Delt Ôl Insignia
  • Meinciau Aml-Addasadwy
  • Mainc Ymestyn y Cefn

Sut byddaf yn gwybod beth sy’n digwydd?

Byddwn yn anfon e-byst allan gyda manylion llawn, hysbysiadau drwy’r ap ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Bydd y dudalen Cwestiynau Cyffredin yn cael ei diweddaru hefyd yn y cyfnod cyn y prosiect a thrwy gydol y prosiect.

A fyddaf yn gallu defnyddio’r Ganolfan o hyd?

Byddwch! Gallwch ddal ati i ddefnyddio'r rhan fwyaf o'r ganolfan fel arfer. Mae hyn yn cynnwys y dosbarthiadau ymarfer corff, y neuadd chwaraeon, y pwll nofio, ac ati.

Gallwch hefyd ddal ati i ddefnyddio'r gampfa. Dim ond rhannau o'r gampfa fydd ar gau ar adegau penodol wrth i ni gael gwared ar yr offer hyfforddiant cryfder presennol a gosod yr offer newydd yn ei le.

Byddwn yn ymdrechu i gadw cymaint o’r gampfa ar agor â phosibl a lleihau unrhyw darfu. Ni fydd y prosiect yma’n effeithio ar ardaloedd cardio na phwysau rhydd y gampfa.

Beth yw’r dyddiadau arfaethedig ar gyfer y gwaith adnewyddu?

Mae’r prosiect wedi cael ei drefnu i ddigwydd yn ystod mis Ebrill 2026, gyda’r union ddyddiadau i’w cadarnhau’n nes at yr amser. Rydyn ni’n gweithio’n galed gyda’r gwahanol gontractwyr i gadarnhau’r dyddiadau cyn gynted â phosibl. Os ydych chi’n ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, fe fyddwch chi ymlith y cyntaf i wybod.

Sut byddaf i’n gwybod sut i ddefnyddio’r offer newydd?

Bydd angen i bob aelod sy'n dymuno defnyddio'r offer EGYM newydd lawrlwytho'r ap symudol pwrpasol a fydd ar gael ar Google Play ac ar yr App Store yn fuan. Ar ôl ei lawrlwytho, bydd angen i aelodau gofrestru am gyfrif. Bydd yr ap yn cael ei ddefnyddio i gael mynediad at yr offer a thracio cynnydd dros amser.

Bydd staff ar gael ar lawr y gampfa i helpu aelodau i gofrestru ar yr ap a chael mynediad at yr offer am y tro cyntaf, yn ogystal â chwblhau eu hasesiadau ffitrwydd cyntaf ar Hwb Ffitrwydd EGYM.

Beth fydd yn digwydd i fy aelodaeth?

Ni fydd unrhyw newidiadau i’ch aelodaeth. Ni fydd y prosiect yma’n effeithio ar unrhyw aelodaeth a bydd taliadau’n parhau fel arfer.

Beth os oes gen i fwy o gwestiynau?

Dim problem, rydyn ni yma i helpu. Dewch i’n gweld ni yn y gampfa neu lenwi ein ffurflen ymholiadau ar y wefan.