Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} View more   View {{ alerts.length}} alerts.

CHILDREN'S SWIMMING LESSONS

Leisure Centre Hero Image
GWERSI NOFIO

Mae ein gwersi nofio i blant wedi’u rhannu’n sawl cam. Mae pob cam yn gwobrwyo nofwyr ifanc am ddatblygu eu sgiliau, gan eu helpu i fagu hyder yn y dŵr.

 

Ar gyfer plant oed ysgol.

ARCHEBU NAWR O £28.00 y mis

Prisiau aelodaeth a phrisiau dydd

Eisoes yn aelod? Mewngofnodwch yma

Mae dysgu sut i nofio yn fodd gwych i gynnal ffordd iach o fyw neu ddysgu sgil bywyd newydd. Rydym yn cydweithio â Nofio Cymru i addysgu eu rhaglen Dysgu Nofio.

 

Cadw golwg ar gynnydd eich plentyn

Mae ein cyfleuster mewngofnodi fel aelod yn eich galluogi i gadw golwg ar gynnydd eich plentyn ar-lein. Gallwch weld y canlyniadau ar gyfer pob cam a chael hysbysiadau pan fydd eich plentyn yn ennill dyfarniad.

TON UN

Ton 1 yw'r cam cyntaf yn ein taith dysgu nofio. Os nad yw eich plentyn wedi cymryd gwersi nofio cyn hynny, dyma'r wers iddo! Gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gemau, rydym yn canolbwyntio ar gael eich plant yn gyfforddus yn y dŵr. Rydym yn addysgu eich plant i symud i bob cyfeiriad, cael dŵr ar eu hwyneb, chwythu swigod a deall hynofedd. Dyma'r blociau adeiladu i ddatblygu'r pedwar prif strôc ymhellach yn ddiweddarach.

TON DAU

Cyflwynir nofwyr hefyd i anadlu dyfrol ac maent yn cael eu haddysgu i fynd i’r dŵr mewn ffyrdd ddiogel, gan gynnwys neidio. Mae bod yn hyderus gyda'r wyneb yn y dŵr, neu gael dŵr ar yr wyneb, yn hanfodol i ddatblygu strociau. Bydd dysgu bod yn hapus yn y dŵr yn gynnar yn galluogi nofwyr i ddatblygu sgiliau eraill yn gyflymach yn ddiweddarach.

TON TRI

Yn ystod Ton 3 Dysgu Nofio gan Nofio Cymru, bydd nofwyr yn datblygu eu ciciau, ar eu blaen a'u cefn fel ei gilydd. Byddant yn mireinio trwy wthio a llithro, yn ogystal â nofio dan y dŵr. Mae hyn yn helpu i ddatblygu sgiliau ar gyfer nifer o ddisgyblaethau gwahanol, gan gynnwys nofio cydamserol, plymio a nofio cystadleuol.

TON PEDWAR

Mae Ton 4 Dysgu Nofio gan Nofio Cymru yn helpu nofwyr i berffeithio eu ciciau coes ar gyfer pob un o'r pedwar strôc a datblygu eu technegau gwthio a llithro ymhellach, gan eu cyflwyno hefyd i rodli. Byddant yn datblygu dealltwriaeth o hynofedd trwy ystod o sgiliau a dylent nofio 10 metr i Safonau Disgwyliedig Nofio Cymru.

TON PUMP

Yn ystod Ton 5 Dysgu Nofio gan Nofio Cymru, bydd nofwyr yn datblygu eu sgiliau wrth droedio dŵr, yn dysgu'r ffyrdd cywir o dynnu’r breichiau ar gyfer pob un o'r pedwar strôc ac yn dysgu sut i wneud llawsafiadau a throsbennau. Mae dysgu troedio dŵr yn faes datblygu pwysig ac unwaith eto mae'n sgil achub bywyd hanfodol.

TON CHWECH

Mae Ton 6 Dysgu Nofio gan Nofio Cymru yn dysgu nofwyr sut i baratoi ar gyfer ymarfer corff, tra’n datblygu techneg effeithlon ar gyfer pob un o'r pedwar strôc a datblygu plymio o’r arwyneb ymhellach. Mae'r sgiliau nofio effeithiol sy’n cael eu haddysgu yn cynnwys cydsymud, anadlu a dealltwriaeth o ddiogelwch yn y dŵr.

TON SAITH

Mae Ton 7 Dysgu Nofio gan Nofio Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu pob un o'r pedwar strôc nofio yn llawn, yn ogystal ag adeiladu stamina a gwella sgiliau plymio. Dylai nofwyr ddatblygu techneg strôc o safon am hyd at 100 metr, gan ymgorffori'r sgiliau y maent wedi'u dysgu trwy gydol y camau a'u cyfuno i ddatblygu trefn gysylltiedig.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen Dysgu Nofio ar wefan Nofio Cymru

GWERSI NOFIO

Mae ein gwersi nofio i blant wedi’u rhannu’n sawl cam. Mae pob cam yn gwobrwyo nofwyr ifanc am ddatblygu eu sgiliau, gan eu helpu i fagu hyder yn y dŵr.

 

Ar gyfer plant oed ysgol.

ARCHEBU NAWR O £28.00 y mis

Prisiau aelodaeth a phrisiau dydd

Eisoes yn aelod? Mewngofnodwch yma