Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Mae ein dosbarthiadau Hwb Da a’n boreau coffi Arthritis Action yng Nghanolfan Hamdden Penarth yn gallu eich helpu chi i fyw bywyd hapusach ac iachach. Bydd y sesiynau hyn yn darparu gwybodaeth ac ymarferion i helpu i leihau’r boen yn eich cyhyrau a chymalau, ac i wella eich iechyd corfforol a’ch iechyd meddwl, gan wella ansawdd eich bywyd.
Mae Hwb Da’n ddull hyblyg o roi cymorth i chi gyda’r boen yn eich cyhyrau neu gymalau drwy ddosbarthiadau adfer ysgafn yn y dŵr ac ar y tir.
Gan ddefnyddio gwybodaeth am eich cyflwr penodol chi ar eich cyhyrau neu gymalau, mae’r sesiynau’n cael eu teilwra’n unigol i ganiatáu i chi wneud yr ymarferion ar eich cyflymder eich hun, ac maen nhw wedi cael eu dylunio gan arbenigwyr i leihau poen a gwella eich cryfder a’ch symudedd.
Mae’r sesiynau’n para rhwng 30 a 60 munud (yn dibynnu ar y safle) ac yn cynnwys 10 munud o gynhesu wedi’i ddilyn gan gyfres o ymarferion unigol 3-4 munud, gyda gweithgareddau grŵp hwyliog yn y canol er mwyn cynnal tymheredd corff cysurus. Mae sesiynau grŵp ac unigol ar gael (holwch eich cyfleuster hamdden lleol).
Byddwch yn cael eich dyfais tabled eich hun i’w defnyddio yn ystod y sesiwn. Mae’n dal dŵr ac yn hawdd ei defnyddio, a bydd yn dangos eich ymarferion personol gyda diagramau clir wedi’u hanimeiddio. Bydd eich hwylusydd Hwb Da yn y pwll a’r ardal gyfagos drwy gydol y sesiwn i’ch cefnogi a’ch arwain chi.
Sut I Archebu
Os hoffech chi gymryd rhan yn ein dosbarthiadau Hwb Da, gofynnwn i chi dreulio 5 munud yn llenwi’r ffurflen isod. Mae eich meddyg teulu neu eich ymarferydd gofal iechyd yn gallu eich atgyfeirio at y cyrsiau Hwb Da hefyd. Ar ôl cael atgyfeiriad, bydd y ganolfan yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.
Bydd angen i chi ganiatáu 30 munud cyn eich dosbarth cyntaf i gofrestru ar y porth Hwb Da yn y cyfleuster hamdden. Bydd angen gwneud hyn i gymryd rhan.
Gan ddarparu gwybodaeth gan Arthritis Action, bydd y boreau coffi hamddenol, am ddim hyn, sy’n para rhwng tri chwarter awr ac awr, yn helpu unigolion sy’n byw ag arthritis i ddysgu sut mae gwella eu hansawdd bywyd mewn lleoliad grŵp, cefnogol.
Dan arweiniad Hwylusydd cymwys a chyfeillgar o Arthritis Action, bydd unigolion yn cael gwybodaeth gan y sefydliad am sut mae byw bywyd mwy egnïol, sut mae rheoli cyflyrau i leihau poen, ac yn cael gwybodaeth am weithgareddau eraill sydd ar gael yn y ganolfan hamdden.
Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am foreau coffi yma.
Sut I Archebu
Does dim angen cofrestru ar gyfer ein boreau coffi Arthritis Action – dim ond galw heibio. Ffoniwch y ganolfan ar 01446 403 000 i gael rhagor o wybodaeth.
I ddarllen mwy am ein cynllun MSK, cliciwch yma.
Canolfan Flaenllaw
Mae Canolfan Hamdden Penarth wedi cael ei chydnabod fel canolfan flaenllaw ar gyfer darparu rhaglenni Adfer Therapiwtig i bobl sy’n byw â chyflyrau iechyd hirdymor a chyflyrau cyhyrysgerbydol.