Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Yng Nghanolfan Hamdden ym Penarth, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau wedi'u cynllunio i gadw plant yn actif, yn hapus ac yn llawn egni. O fownsio ar offer gwynt i feistroli sgiliau newydd mewn nofio, mae rhywbeth ar gyfer pob diddordeb a grŵp oedran.
Beth bynnag yw'r gweithgaredd, mae eich plentyn chi’n siŵr o gael hwyl fawr wrth gadw’n actif a dysgu sgiliau newydd. Edrychwch ar ein casgliad llawn ni o weithgareddau i blant ac archebu eu hantur nesaf nawr!
Mae sesiynau nofio hamdden ar gael i chi nofio gyda rhyddid, i helpu’r plant i fod yn hyderus yn y dŵr, ac wrth gwrs i gael hwyl!
Rhowch brofiad bythgofiadwy i’ch plentyn gyda’n sesiynau teganau gwynt cyffrous!
Beth am wneud penblwydd yn un cofiadwy gyda pharti chwarae meddal neu deganau pwll meddal? Mae slotiau parti Teganau Pwll Meddal ar gael NAWR ar ddydd Sul i blant dros 8 oed a dan 16 oed sy’n gallu nofio 25m heb gymorth. Mae partïon chwarae meddal ar gael o fis Medi ymlaen.
Mae cyrsiau nofio dwys yn caniatáu i blant adeiladu ar eu sgiliau o wersi nofio a chael cymorth ychwanegol i symud ymlaen i’r cam nesaf yn gynt.