Alert Icon Penarth Leisure Centre is getting a vital roof refurbishment. Expect disruptions during the three-phase project starting late October 2023, continuing into early 2024. The pool will be closed during phase one, but alternatives are available. Click to read more.

GWERSI NOFIO

Leisure Centre Hero Image
YNGLŶN Â GWERSI NOFIO

Rydym yn cynnal ystod eang o wersi nofio. Os oes angen help arnoch i benderfynu beth sy’n iawn i chi, cysylltwch â ni.

CYSYLLTU Â NI

Mae dysgu sut i nofio yn fodd gwych i gynnal ffordd iach o fyw neu ddysgu sgil bywyd newydd. Mae ein gwersi nofio yn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr yn gallu nofio'n ddiogel ac yn hyderus. Rydym yn falch o fod yn bartner gyda Nofio Cymru i addysgu eu rhaglen Dysgu Nofio. Sgroliwch i lawr i gael gwybod mwy, neu cysylltwch ag unrhyw gwestiynau. Mae ein gwersi nofio’n dechrau o 12 mis oed;

 

CADW GOLWG AR GYNNYDD EICH PLENTYN

Mae ein cyfleuster mewngofnodi fel aelod yn eich galluogi i gadw golwg ar gynnydd eich plentyn ar-lein. Gallwch weld y canlyniadau ar gyfer pob cam a chael hysbysiadau pan fydd eich plentyn yn ennill dyfarniad.

PROSIECT TO PENARTH

PROSIECT TO PENARTH

Oherwydd oedran Canolfan Hamdden Penarth, mae angen adnewyddu’r to yn llwyr bellach er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Bydd Canolfan Hamdden Penarth yn parhau ar agor, ond am resymau diogelwch ni fyddwn bellach yn gallu defnyddio ardal y pwll ar gyfer ein rhaglen Dysgu Nofio, am gyfnod byr.
Fel dewis arall, rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi sicrhau digon o le yn y pwll ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd bellach.

Bydd amser/oedd eich gwersi nofio, eich rhaglen a’ch hyfforddwr yn aros yn union yr un fath.

GWERSI NOFIO – ADLEOLI YN Y TYMOR BYR

GWERSI NOFIO – ADLEOLI YN Y TYMOR BYR

O;£26.00 y mis

Am gyfnod byr, oherwydd Prosiect To Penarth, bydd y Gwersi Nofio yn cael eu cynnal ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd, gan ddechrau ar ddydd Llun 30ain Hydref.

Bydd amser/oedd eich gwersi nofio, eich rhaglen a’ch hyfforddwr yn aros yn union yr un fath.
Mae Pwll Rhyngwladol Caerdydd wedi'i leoli yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ar Olympian Drive, Grangetown, Caerdydd, CF11 0JS, sy’n agos iawn at Benarth. Mae parcio AM DDIM ar gael yno.

Bydd y gwaith sydd wedi’i raglennu yng ngham 1 yn cymryd sawl mis i’w gwblhau, felly rydyn ni’n disgwyl i’r newid hwn aros yn ei le tan ddechrau 2024, ac wedyn gallwch ddychwelyd i Benarth.

DARLLEN MWY
GWERSI NOFIO I FABANOD A PHLANT BACH

GWERSI NOFIO I FABANOD A PHLANT BACH

O £26.00 y mis

Rydym yn cynnal gwersi i fabanod, plant bach a phlant cyn oed ysgol o 3 mis i 4 oed. Mae ein dosbarthiadau nofio i fabanod yn ddelfrydol ar gyfer rhoi hyder i blant ifanc yn y dŵr.

CYRSIAU CARLAM

CYRSIAU CARLAM

Mae cyrsiau carlam fesul cam yn ffordd wych i blant gael cymorth ychwanegol i basio eu cam presennol yn gyflymach.

GWERSI NOFIO I OEDOLION

GWERSI NOFIO I OEDOLION

O £26.00 y mis

Mae ein gwersi nofio yn darparu ar gyfer oedolion o bob gallu. Felly p'un a ydych chi am fagu hyder yn y dŵr, mireinio eich techneg neu wella eich stamina, cysylltwch â ni!

YNGLŶN Â GWERSI NOFIO

Rydym yn cynnal ystod eang o wersi nofio. Os oes angen help arnoch i benderfynu beth sy’n iawn i chi, cysylltwch â ni.

CYSYLLTU Â NI