Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion.
Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Rydym yn cynnal gwersi i fabanod, plant bach a phlant cyn oed ysgol o 3 mis i 4 oed.
Mae ein dosbarthiadau nofio i fabanod yn ddelfrydol ar gyfer rhoi hyder i blant ifanc yn y dŵr.
ARCHEBU NAWR O £28.00 y misPrisiau aelodaeth a phrisiau dydd
Eisoes yn aelod? Mewngofnodwch yma
Mae ein gwersi nofio cyfnod cynnar yn ffordd wych o helpu babanod a nofwyr newydd i fagu hyder yn y dŵr. Rydym yn addysgu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar eich rhai bach i ddysgu nofio tra’n aros yn agos at gymorth oedolyn. Rydym yn cynnal gwersi i fabanod dros 3 mis oed, plant bach a phlant cyn oed ysgol.
Mae ein cyfleuster mewngofnodi fel aelod yn eich galluogi i gadw golwg ar gynnydd eich plentyn ar-lein. Gallwch weld y canlyniadau ar gyfer pob cam a chael hysbysiadau pan fydd eich plentyn yn ennill dyfarniad.
Cyflwynwch eich babi i nofio yn ein dosbarthiadau ar gyfer babanod 3 i 18 mis oed. Rydym am i'ch un bach gael profiad cadarnhaol, a dyna pam mae ein rhaglen yn canolbwyntio ar hwyl a gemau. Nod y gwersi hyn yw gwneud plant a rhieni'n gyfforddus yn y dŵr gyda'i gilydd.
Mae ein gwersi nofio i blant bach wedi’u dylunio ar gyfer plant rhwng 18 a 36 mis oed. Byddant yn gweithio ar ennill annibyniaeth gyda gwarcheidwad a heb warcheidwad. Byddant yn archwilio gwahanol ffyrdd o symud yn y dŵr mewn dull llawn hwyl trwy ddull sy’n seiliedig ar gemau.
Mae ein gwersi Nofio i Blant Cyn Oed Ysgol ar gyfer plant rhwng tair a phedair oed, sy'n ddigon hen i ddilyn cyfarwyddiadau a symud yn annibynnol yn y dŵr. Ein nod yw magu eu hyder yn y dŵr trwy ddatblygu eu sgiliau i'w paratoi ar gyfer ein Rhaglen Dysgu Nofio ar ôl iddynt ddechrau yn yr ysgol gynradd.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen Dysgu Nofio ar wefan Nofio Cymru
Rydym yn cynnal gwersi i fabanod, plant bach a phlant cyn oed ysgol o 3 mis i 4 oed.
Mae ein dosbarthiadau nofio i fabanod yn ddelfrydol ar gyfer rhoi hyder i blant ifanc yn y dŵr.
ARCHEBU NAWR O £28.00 y misPrisiau aelodaeth a phrisiau dydd
Eisoes yn aelod? Mewngofnodwch yma