Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Yng Nghanolfan Hamdden ym Penarth, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau i unigolion, teuluoedd a thimau o bob oedran a gallu. Os ydych chi eisiau cadw’n actif, gwella eich sgiliau, neu gael hwyl gyda ffrindiau, mae gan ein cyfleusterau ni rywbeth i chi.
Os ydych chi'n ymuno â grŵp, yn ymarfer ar eich pen eich hun, neu'n dod â'r teulu, Canolfan Hamdden ym Penarth yw'r lle delfrydol i chi gadw’n actif, rhoi cynnig ar chwaraeon newydd, ac ymarfer yn rheolaidd.
Archebwch gwrt badminton a mwynhau gêm gyflym a hwyliog gyda ffrindiau neu gyd-chwaraewyr. Mae ein cyrtiau ni’n darparu lleoliad rhagorol i gadw’n actif, hybu ffitrwydd, a chael hwyl neu fod yn gystadleuol.
Mwynhewch gêm bêl-fasged hwyliog ac egnïol gyda'ch tîm. Mae ein cyrtiau ni sydd ag offer llawn yn darparu ar gyfer pob lefel o sgiliau, gan ddarparu amgylchedd delfrydol i wella eich gêm, cynnal ffitrwydd, a chael amser gwych gyda ffrindiau.
Dewch i’r cwrt am gêm gyflym o bêl rwyd. Ar gyfer gêm gyda ffrindiau neu gystadleuaeth, mae ein cyrtiau ni’n ddelfrydol i bob gallu ac yn ffordd hwyl o gadw’n heini ac yn egnïol.
Mae ein cae pêl-droed pump bob ochr ni’n cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer gêm dîm egnïol, gan hyrwyddo ffitrwydd ac ysbryd tîm. Yn addas ar gyfer pob lefel o sgiliau, mae ein cyfleusterau ni’n darparu amgylchedd hwyliog ac actif i chi a'ch tîm ei fwynhau.
Mwynhewch gêm gyflym a chystadleuol o dennis bwrdd gyda ffrindiau neu gyd-chwaraewyr. Mae ein byrddau ni ar gyfer chwarae cyflym. Maen nhw’n wych ar gyfer gwella eich ymateb cyflym a chael hwyl wrth gadw’n actif.
Dewch am gêm gyffrous o bêl picl ar ein cyrtiau. Mae ein cyfleusterau’n berffaith ar gyfer gemau cyfeillgar a chystadleuol. Addas i ddechreuwyr a hen lawiau fel ei gilydd.
Mae sesiynau nofio hamdden ar gael i chi nofio gyda rhyddid, i helpu’r plant i fod yn hyderus yn y dŵr, ac wrth gwrs i gael hwyl!
Rhowch brofiad bythgofiadwy i’ch plentyn gyda’n sesiynau teganau gwynt cyffrous!
Beth am wneud penblwydd yn un cofiadwy gyda pharti chwarae meddal neu deganau pwll meddal? Mae slotiau parti Teganau Pwll Meddal ar gael NAWR ar ddydd Sul i blant dros 8 oed a dan 16 oed sy’n gallu nofio 25m heb gymorth. Mae partïon chwarae meddal ar gael o fis Medi ymlaen.
Mae cyrsiau nofio dwys yn caniatáu i blant adeiladu ar eu sgiliau o wersi nofio a chael cymorth ychwanegol i symud ymlaen i’r cam nesaf yn gynt.
Chwilio am leoliad ar gyfer eich digwyddiad neu weithgaredd nesaf? Yng Nghanolfan Hamdden ym Penarth, rydyn ni’n cynnig opsiynau llogi cyfleusterau hyblyg i fod yn addas i amrywiaeth o anghenion. Os ydych chi'n cynnal gêm chwaraeon, ymarfer tîm, neu ddigwyddiad, mae ein cyfleusterau modern ni’n darparu'r lleoliad perffaith. Cysylltwch â ni heddiw i archebu'r gofod sy'n addas i chi.