Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Dewch i fwynhau byd o ryfeddodau yn Niwrnod Agored ein Hysgol Nofio ni ar ddydd Sadwrn 6 Medi! Cyfle perffaith i weld beth yw manteision nofio i’ch plentyn neu i chi eich hun.
Bydd ein hyfforddwyr arbenigol a chyfeillgar ni yno i ateb eich cwestiynau chi am ein Hysgol Nofio. Wedyn bydd cyfle i chi neu eich plentyn fynd i’r pwll er mwyn i ni weld beth yw’r lefel nofio a phenderfynu ar ddosbarth nofio addas.
Dyddiad: Dydd Sadwrn 6 Medi
Amser: Asesiadau o 9:00 i 11:00 a Diwrnod Pellter o 13:30 i 14:30
Sut mae archebu: Ar y wefan neu yn y ganolfan
Dewch â hyn gyda chi: Gwisg nofio (gwisg nofio/tryncs a gogls) a photel ddŵr
Arall: Mae modd i rieni wylio o’r man eistedd yn y balconi. Bydd yr asesiadau’n cymryd hyd at 15 munud, mewn grwpiau o 4 – Byddan nhw’n cael darn o bapur ar ddiwedd yr asesiad i roi gwybod i rieni pa gam yw’r un gorau iddyn nhw. Ar gyfer y diwrnod pellter – Gallan nhw nofio unrhyw bellter maen nhw’n dymuno ei gyflawni, a byddan nhw’n cael darn o bapur i roi i’r dderbynfa i gael eu bathodynnau a’u tystysgrifau.
I weld ac archebu ein gwersi ni ar-lein, ewch i’r dudalen yma.