Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Wedi'i lleoli yng nghanol y Barri, mae ein canolfan yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ffitrwydd ar gyfer pob oedran a lefel gallu. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys campfa cardio wedi'i hadnewyddu'n ddiweddar, campfa cryfder newydd anhygoel, ardal ffitrwydd awyr agored, detholiad amrywiol o ddosbarthiadau ffitrwydd gan gynnwys Les Mills, pwll nofio 25m, pwll dysgwyr, neuadd chwaraeon a chwrt sboncen. Gyda'i gilydd, maen nhw’n darparu'r amgylchedd delfrydol i chi gyflawni eich amcanion ffitrwydd.
O aelodaeth hollgynhwysol i opsiynau nofio yn unig, mae rhywbeth addas i bob ffordd o fyw. Ymunwch heddiw a dechrau gwneud y gorau o'n cyfleusterau gwych.
Prif Gampfa Cardio 103 Gorsaf a Champfa Cryfder Newydd
Mae gan ein campfa ni offer llawn gydag ystod eang o beiriannau cardio, offer ymwrthedd a phwysau rhydd. Mae'n cynnig popeth sydd arnoch ei angen i gyrraedd eich nodau ffitrwydd.
Pwll Nofio 25m
Pwll Dysgwyr 13m
Gwella eich ffitrwydd a chael hwyl yn y dŵr - ein pyllau nofio ni yw'r lle perffaith i feithrin cryfder a dysgu sgiliau newydd.
Mwy na 60 o Ddosbarthiadau yr wythnos
Ewch â’ch ffitrwydd i'r lefel nesaf gyda'n dosbarthiadau ymarfer grŵp rhithwir dan arweiniad hyfforddwr. Ymunwch â ni ac ychwanegu amrywiaeth at eich trefn arferol gydag ystod eang o sesiynau actif sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan gynnwys Les Mills.
Mewn partneriaeth â Nofio Cymru, mae ein rhaglen gwersi nofio ni wedi'i chynllunio i feithrin hyder, addysgu sgiliau achub bywyd hanfodol a thanio hoffter am oes o gadw’n actif.
O nofio a dawns i gymnasteg, mae ein hystod eang ni o gyrsiau a gwersi’n darparu ar gyfer pob oedran a gallu.
Cyfle i archwilio amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer pob oedran a lefel ffitrwydd, wedi'u cynllunio i'ch cadw chi'n actif ac yn ymgysylltu.
Ymunwch â Chanolfan Hamdden y Barri heddiw a datgloi mynediad at yr holl gyfleusterau a buddion gwych sydd gennym i'w cynnig.