Please be aware that we are currently experiencing issues with some of our online services. If you are looking to purchase a membership or get in touch with your centre please contact us directly. We apologise for any inconvenience caused during this time as we are working to rectify this issue.
Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} Gweld Mwy   Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion.

Gwersi Nofio yn Adleoli i Gaerdydd yn ystod Cam 1 Prosiect To Penarth

DIWEDDARIAD: 25ain Medi 
Oes gennych chi gwestiwn am Wersi Nofio Canolfan Hamdden Penarth (PLC) yn adleoli i Bwll Rhyngwladol Caerdydd (CIP)? Mae'n debyg ein bod ni wedi rhoi sylw iddo isod!

Pryd fydd Gwersi Nofio PLC yn adleoli i CIP?

Bydd Gwersi Nofio PLC yn adleoli i CIP yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar ddydd Llun 30ain Hydref. Byddant yn cael eu cynnal yn CIP tra bydd y gwaith adnewyddu yn digwydd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, gan gynnwys dyddiad pan fydd y rhaglen yn ailddechrau yn PLC (i'w gadarnhau).


Tra bydd Gwersi Nofio PLC yn cael eu cynnal yn CIP, a fydd posib i mi archebu fy ngwersi ar-lein ar gyfer Canolfan Hamdden Penarth? 

Bydd – mae posib cael mynediad i ymuno ar-lein ar gyfer Dysgu Nofio PLC drwy glicio ar.


Pa mor aml mae’r gwersi’n cael eu cynnal? 

Bydd eich gwers yn cael ei chynnal yn wythnosol ar y diwrnod a'r amser rydych chi wedi’u dewis. Rydym yn gweithredu 50 wythnos y flwyddyn, mae gennym egwyl am bythefnos dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, bydd hyn yn digwydd o ddydd Mawrth 19 Rhagfyr i ddydd Llun 1 Ionawr yn gynwysedig - gan ddychwelyd ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024. Bydd y gwersi'n cael eu cynnal ar wyliau banc ac yn ystod gwyliau hanner tymor.


Sut mae cael mynediad i'r cyfleuster?     

Mae Pwll Rhyngwladol Caerdydd wedi'i leoli yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ar Olympian Drive, Grangetown, Caerdydd, CF11 0JS. Mae parcio am ddim ar gael yno.


Beth allaf i ei ddisgwyl o'r wers gyntaf yn CIP?     

Dylech gyrraedd ar gyfer eich gwersi tua 10 munud cyn eich amser dechrau (yn wythnos 1) a 5 munud cyn yr amser dechrau ar ôl hynny.

Byddwch yn cael eich croesawu gan y tîm wrth ddesg y Dderbynfa ar yr ochr dde wrth i chi gerdded i mewn drwy’r brif fynedfa.

Gallwch gael mynediad i'r ystafell newid drwy'r giât. Ni ddylid gwisgo esgidiau awyr agored mewn mannau newid, tynnwch nhw cyn mynd i mewn i'r pentref newid.

Unwaith y bydd eich un bach wedi newid, dylech ddilyn yr arwyddion ar gyfer Gwersi Nofio PLC, bydd wedyn yn neidio i ochr y pwll lle bydd ei athro’n cwrdd ag ef i ddechrau ei wers.

Wedyn fe allwch chi gasglu eich plentyn gan ei athro yn y man casglu ar ddiwedd y wers.

Ar gyfer nofio babanod / cyn ysgol / oedolion, ewch ymlaen i ochr y pwll, ychydig cyn amser dechrau eich gwers, a bydd eich athro yn cwrdd â chi ar ochr y pwll!

Ar gyfer nofio babanod / cyn ysgol, bydd un oedolyn yn y dŵr ac mae croeso i deulu a ffrindiau ddod i wylio o'r ardaloedd gwylio penodol. 


Rydw i’n aelod o’r Ysgol Nofio ar hyn o bryd, a fydd yr un athro yn addysgu fy mhlentyn tra bydd y rhaglen yn cael ei chynnal ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd (CIP)?     

Bydd - byddwn yn ymdrechu i gael yr un athro yn cyflwyno gwersi eich plentyn tra byddant yn gweithredu o CIP.


Beth ddylwn i ddod gyda fi i fy ngwers nofio babi / cyn ysgol?

Dyma restr wirio gyflym o'r hanfodion:

  • Dillad nofio i'ch un bach
  • System cewyn lapio dwbl ar gyfer nofio babanod (cewyn nofio tafladwy a chewyn neopren ar ei ben)
  • Tywel
  • Mae loceri CIP yn defnyddio darnau arian £1, neu docynnau locer (mae posib eu prynu o'r dderbynfa). Bydd y rhain yn cael eu dychwelyd i chi ar ôl eu defnyddio.
  • Jel cawod a siampŵ


Beth ddylwn i ddod gyda fi i wersi ar gyfer fy mhlentyn 3+ oed?

Dyma restr wirio gyflym o'r hanfodion:

  • Dillad nofio i'ch un bach
  • Het nofio (byddwn yn darparu hon yn eu gwers gyntaf)
  • Gogls (dewisol)
  • Tywel
  • Jel cawod a siampŵ
  • Bobl gwallt i glymu gwallt hir yn ôl
  • Mae loceri CIP yn defnyddio darnau arian £1, neu docynnau locer (mae posib eu prynu o'r dderbynfa). Bydd y rhain yn cael eu dychwelyd i chi ar ôl eu defnyddio.


Oes raid i fy mhlentyn wisgo het nofio?

Rydym yn defnyddio'r hetiau nofio lliw i nodi ym mha lefel / ton mae eich plentyn. Mae hefyd yn cynnal safonau uchel o lanweithdra ym mhyllau Legacy Leisure. Bydd eich plentyn yn derbyn het nofio sy’n benodol i’w lefel/ton i’w gwisgo ym mhob gwers. Os oes rheswm pam na all eich plentyn wisgo het, nid yw hyn yn broblem - rhowch wybod i'n tîm ni neu eich athro nofio.


A fyddaf yn gallu cael mynediad i’r Porthol Cartref o hyd i weld cynnydd fy mhlentyn?        

Byddwch - byddwch yn gallu mewngofnodi fel arfer i weld cynnydd eich plentyn. 


Beth ddylwn i ei wneud pan fydd fy mhlentyn yn barod i symud i fyny lefel gallu/ton?                   

Ar ôl i’r athro eich hysbysu bod eich plentyn yn barod i symud i fyny, byddwch yn gallu mewngofnodi fel arfer i’r Porthol Cartref a symud eich plentyn i’r dosbarth priodol nesaf.


A fydd fy mhlentyn yn derbyn tystysgrifau a bathodynnau? 

Ein prif flaenoriaeth yw dathlu llwyddiannau a cherrig milltir ein nofwyr ni i gyd. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy dystysgrifau Nofio Cymru, a bathodynnau, y mae posib eu prynu o'r dderbynfa.
Mae ein gwobr ‘nofiwr yr wythnos’ yn gyfle i un nofiwr o bob dosbarth gael ei ddathlu am wahanol resymau, fel cynnydd, goresgyn ofn, bod yn garedig tuag at eraill neu helpu ei athro nofio.
Peidiwch ag anghofio cofnodi cerrig milltir eich plentyn gyda llun yn ein ffrâm hun-lun (wedi'i lleoli ychydig y tu allan i'r pentref newid), a gallwch ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol - cofiwch ein tagio ni gan ddefnyddio #leisurecentre.com #LegacyLeisureSwimSchool #YsgolNofioLegacyLeisure #NofioCymru #SwimWales #YMLAEN #theskillthatsaveslives #sgiliiachubbywyd


O ganlyniad i adleoli Gwersi Nofio PLC yn y tymor byr i CIP, beth fydd yn digwydd os na all fy mhlentyn fynychu ei wersi nofio mwyach yn ystod y cyfnod hwn?     

Rydyn ni’n deall na fydd yr amgylchiadau / trefniadau hyn yn addas i chi efallai.
Rydyn ni bob amser yn gwneud ein gorau i sicrhau bod eich nofiwr yn dal ati i fwynhau ei wersi.
Os na allwch chi fynychu'r gwersi yn CIP, cysylltwch â ni a bydd aelod o'n tîm yn gallu eich helpu / cynghori.


Diolch         

Rydw i'n gobeithio bod hyn yn rhoi trosolwg i chi o'r cynlluniau hyd yn hyn.

Hoffwn ddiolch i chi ymlaen llaw am eich dealltwriaeth tra bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno y bydd y gwaith uwchraddio yma o fudd mawr i’n cymuned ni.

Os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau neu gwestiynau, siaradwch â'r tîm yn lleol a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

Nic Beggs

Rheolwr Contract     

Legacy Leisure - Bro Morgannwg


Mwy o wybodaeth am Brosiect To Penarth.