Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Pa welliannau sydd wedi cael eu gwneud eisoes?
Rydyn ni’n falch o ddweud ein bod ni wedi gorffen ailwynebu ein Neuadd Chwaraeon yn llwyr bellach ac mae'n edrych yn wych. Rydyn ni hefyd wedi adnewyddu toiledau’r llawr 1af yn llwyr i safon uchel iawn.
Beth sy'n digwydd a phryd?
Mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, rydyn ni’n parhau â’n gwaith gwella drwy uwchraddio’r toiledau ar y llawr gwaelod, yr unedau trin aer ar draws y Pwll Nofio a chyfleusterau newid ochr y pwll, ac mae gwaith uwchraddio wedi’i gynllunio hefyd ar gyfer ardal newid y Pwll Nofio. Rydyn ni’n gobeithio bydd y gwaith yn dechrau ar 27 Gorffennaf am gyfnod o 8 diwrnod.
Beth sydd ddim ar gael?
Dim ond y Pwll Nofio fydd ddim ar gael o ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf tan ddydd Sul 4 Awst. Mae'r holl gyfleusterau eraill yn parhau ar agor fel arfer. Pan fyddwn yn dechrau uwchraddio cyfleusterau newid y pwll, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Beth fydd yn digwydd pan na fydd y Pwll yn weithredol o 27 Gorffennaf tan 4 Awst?
Ni fydd nofio yn bosibl yn Llanilltud yr wythnos honno, ond gallwch ymweld ag unrhyw un o'n safleoedd eraill ni sydd â phyllau (Y Barri a Phenarth). Os ydych chi'n aelod, mae hyn wedi'i gynnwys eisoes yn eich aelodaeth a gallwch archebu lle drwy newid y safle ar eich Ap neu ffonio timau'r Ganolfan a byddant yn eich helpu.
Beth sy'n digwydd gyda fy Ngwersi Nofio yn ystod y cyfnod o gau?
Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra ond i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael cynnig dewis arall, rydyn ni’n mynd i roi credyd i chi. Gallwch ddefnyddio hwn i archebu sesiwn arall yn Llanilltud yn ystod wythnos wahanol neu byddwn yn ychwanegu at ein rhaglen nofio yn y Barri, sesiynau ychwanegol yn ystod wythnos cau'r pwll, fel eich bod yn gallu archebu lle yno. Ffoniwch ni ar 01446 403 000 neu ewch i weld ein tîm ni yn y dderbynfa am gefnogaeth gyda hyn.
Pryd fydd y toiledau ar eu newydd wedd yn ailagor?
Rydyn ni’n gobeithio y bydd y contractwyr wedi cwblhau'r gwaith yn llawn erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Ydych chi'n uwchraddio'r cyfleusterau newid wrth ochr y pwll?
Ydyn, ond yn gyntaf rhaid i ni orffen y prosiect toiledau a rheoli hinsawdd. Wedyn gallwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am effaith y gwaith yma a'r uwchraddio y gallwch ddisgwyl ei weld.