Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} View more   View {{ alerts.length}} alerts.

GWERSI NOFIO I'R PLANT

Leisure Centre Hero Image
GWERSI NOFIO

Mae ein gwersi nofio i blant wedi’u rhannu’n sawl cam. Mae pob cam yn gwobrwyo nofwyr ifanc am ddatblygu eu sgiliau, gan eu helpu i fagu hyder yn y dŵr.

 

Ar gyfer plant oedran ysgol.

ARCHEBU NAWR O £28.00 y mis

Mae dysgu nofio yn ffordd wych o gynnal ffordd iach o fyw neu ddysgu sgil bywyd newydd. Rydym yn cydweithio â Nofio Cymru i ddysgu eu rhaglen Dysgu Nofio.

 

Cadwch olwg ar gynnydd eich plentyn

Mae ein cyfleuster mewngofnodi i aelodau yn eich galluogi i gadw golwg ar gynnydd eich plentyn ar-lein. Gallwch weld y canlyniadau ar gyfer pob cam a chael hysbysiadau pan fydd eich plentyn yn ennill dyfarniad.

TON UN

Ton 1 yw'r cam cyntaf yn ein taith dysgu nofio. Os nad yw eich plentyn wedi cael gwersi nofio o’r blaen, dyma'r wers iddo ef/iddi hi! Gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar gemau, rydym yn canolbwyntio ar gael eich plant yn gyfforddus yn y dŵr. Rydym yn dysgu eich plant i symud i bob cyfeiriad, cael dŵr ar eu hwyneb, chwythu swigod a deall arnofio. Dyma'r blociau adeiladu i ddatblygu'r pedwar prif strôc ymhellach yn ddiweddarach.

TON DAU

Cyflwynir nofwyr hefyd i anadlu wrth nofio ac maent yn cael eu dysgu i fynd i’r dŵr mewn ffyrdd ddiogel, gan gynnwys neidio. Mae bod yn hyderus gyda'r wyneb yn y dŵr, neu gael dŵr ar yr wyneb, yn hanfodol i ddatblygu strociau. Bydd dysgu bod yn hapus yn y dŵr yn gynnar yn galluogi nofwyr i ddatblygu sgiliau eraill yn gyflymach yn nes ymlaen.

TON TRI

Yn ystod Ton 3 Dysgu Nofio gan Nofio Cymru, bydd nofwyr yn datblygu eu ciciau, ar eu blaen a'u cefn fel ei gilydd. Byddant yn nofio trwy wthio a llithro, yn ogystal â nofio dan y dŵr. Mae hyn yn helpu i ddatblygu sgiliau ar gyfer nifer o ddisgyblaethau gwahanol, gan gynnwys nofio cydamserol, plymio a nofio cystadleuol.

TON PEDWAR

Mae Ton 4 Dysgu Nofio gan Nofio Cymru yn helpu nofwyr i berffeithio eu ciciau coes ar gyfer pob un o'r pedwar strôc a datblygu eu technegau gwthio a llithro ymhellach, gan eu cyflwyno hefyd i rodli. Byddant yn datblygu dealltwriaeth o arnofio trwy ystod o sgiliau a dylent nofio 10 metr i Safonau Disgwyliedig Nofio Cymru.

TON PUMP

Yn ystod Ton 5 Dysgu Nofio gan Nofio Cymru, bydd nofwyr yn datblygu eu sgiliau wrth droedio dŵr, yn dysgu'r ffyrdd cywir o dynnu’r breichiau ar gyfer pob un o'r pedwar strôc ac yn dysgu sut i sefyll ar eu dwylo a throelli yn y dŵr. Mae dysgu troedio dŵr yn faes datblygu pwysig ac unwaith eto mae'n sgil achub bywyd hanfodol.

TON CHWECH

Mae Ton 6 Dysgu Nofio gan Nofio Cymru yn dysgu nofwyr sut i baratoi ar gyfer ymarfer corff, wrth ddatblygu techneg effeithlon ar gyfer pob un o'r pedwar strôc a datblygu sgiliau plymio o’r arwyneb ymhellach. Mae'r sgiliau nofio effeithiol sy’n cael eu dysgu yn cynnwys cydsymud, anadlu a dealltwriaeth o ddiogelwch dŵr.

TON SAITH

Mae Ton 7 Dysgu Nofio gan Nofio Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu pob un o'r pedwar strôc nofio yn llawn, yn ogystal â datblygu stamina a gwella sgiliau plymio. Dylai nofwyr ddatblygu techneg strôc o safon am hyd at 100 metr, gan ymgorffori'r sgiliau y maent wedi'u dysgu trwy gydol y camau a'u cyfuno i ddatblygu trefn gysylltiedig.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i dudalen Dysgu Nofio ar wefan Nofio Cymru

GWERSI NOFIO

Mae ein gwersi nofio i blant wedi’u rhannu’n sawl cam. Mae pob cam yn gwobrwyo nofwyr ifanc am ddatblygu eu sgiliau, gan eu helpu i fagu hyder yn y dŵr.

 

Ar gyfer plant oedran ysgol.

ARCHEBU NAWR O £28.00 y mis