Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Mae gan Ganolfan Hamdden Llanilltud Fawr agwedd gyfeillgar a chynhwysol at ffitrwydd. Gan gefnogi pob oedran a gallu, rydyn ni wedi ein lleoli yng nghanol Bro Morgannwg. Cyrhaeddwch eich nodau ffitrwydd gyda'n campfa ni sydd ag offer llawn, pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, a gweithgareddau hwyliog i blant, i gyd o dan un to.
Edrychwch ar ein hopsiynau aelodaeth hyblyg, gan gynnwys y cynlluniau hollgynhwysol a nofio yn unig. Ymunwch heddiw a dechrau cael y gorau o bopeth sydd gan ein canolfan ni i'w gynnig.
Campfa 50 Gorsaf
Mae gan ein campfa ni offer llawn gydag ystod eang o beiriannau cardio, offer ymwrthedd a phwysau rhydd. Mae'n cynnig popeth sydd arnoch ei angen i gyrraedd eich nodau ffitrwydd.
Pwll Nofio 17.5m
Mae ein pyllau nofio ni’n cynnig yr amgylchedd perffaith ar gyfer nofio ffitrwydd a datblygu sgiliau.
28 o ddosbarthiadau yr wythnos
Ewch ati i roi hwb i’ch siwrnai ffitrwydd gyda'n dosbarthiadau ymarfer corff grŵp rhithwir ac wythnosol dan arweiniad hyfforddwr, sy’n cael eu cynnal yn ein stiwdios pwrpasol. Ymunwch â ni a chael y gorau o'ch trefn ffitrwydd!
Mewn partneriaeth â Nofio Cymru, mae ein rhaglen gwersi nofio ni wedi'i chynllunio i feithrin hyder, addysgu sgiliau achub bywyd hanfodol a thanio hoffter am oes o gadw’n actif.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau a gwersi sy'n addas ar gyfer pob oedran a gallu.
Cyfle i archwilio amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer pob oedran a lefel ffitrwydd, wedi'u cynllunio i'ch cadw chi'n actif ac yn ymgysylltu.
Ymunwch â Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr heddiw a datgloi mynediad at yr holl gyfleusterau a buddion gwych sydd gennym i'w cynnig.