Rydym yn falch iawn o rannu manylion y gwelliannau sydd ar y gweill i’n hystafell ffitrwydd, a fydd yn cynnwys offer hyfforddi cryfder newydd sbon.
Beth yw'r dyddiadau arfaethedig ar gyfer y gwaith adnewyddu?
Rydym wedi cyflwyno’r archeb ond nid ydym wedi cael amserlenni penodol ar gyfer dechrau ym mis Chwefror 2027 eto. Byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y cawn ragor o wybodaeth.
Pa newidiadau sy'n cael eu gwneud?
Rydym yn uwchraddio ein hystafell ffitrwydd i fod yn anhygoel! Mae cyfran sylweddol o’n hoffer hyfforddi cryfder a gwrthiant yn cael ei adnewyddu’n llwyr gyda chyfarpar modern o’r radd flaenaf, er mwyn trawsnewid eich profiad ymarfer corff.
A allaf barhau i ddefnyddio'r Ganolfan?
Gallwch, ni fydd y gwaith uwchraddio yn cael ei gwblhau am sawl mis arall. Gallai'r broses o gyfnewid yr hen offer am yr offer newydd gymryd ychydig ddyddiau, ond dim ond y brif ystafell ffitrwydd y bydd hyn yn effeithio arni. Dros y cyfnod byr iawn hwn, byddwn yn ceisio ychwanegu mwy o ddosbarthiadau er mwyn i chi allu parhau i ddod i’r ganolfan.
A fydd modd i mi ddefnyddio cyfleusterau eraill?
Bydd, mae eich aelodaeth yn cynnwys mynediad i Ganolfannau Hamdden y Bont-faen, y Barri a Phenarth.
A allaf barhau i ddefnyddio'r maes parcio?
Gallwch. Bydd y maes parcio ar gael fel arfer. Efallai y bydd angen i'r contractwyr gael mynediad at rannau o'r maes parcio sy'n nes at y Neuadd Chwaraeon er mwyn cyrraedd cefn yr Ystafell Ffitrwydd, ond nid ydym yn disgwyl unrhyw darfu sylweddol ar fannau parcio.
Sut byddaf i'n gwybod beth sy'n digwydd?
Byddwn yn anfon negeseuon e-bost gyda’r holl fanylion, ac yn darparu diweddariadau hefyd drwy ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Beth os oes gennyf fwy o gwestiynau?
Bydd pob aelod sy'n dymuno defnyddio'r offer newydd yn gallu archebu lle ar gyfer sesiwn gynefino i'r ystafell ffitrwydd. Bydd hon yn sesiwn un-i-un gydag aelod o'r staff, a fydd yn treulio amser yn dangos yr offer i chi ac yn sicrhau eich bod yn hyderus ac yn gallu ei ddefnyddio.
Gallwch archebu sesiwn gynefino neu sesiwn atgoffa ar ap symudol y Ganolfan Hamdden neu yn y dderbynfa.
Gobeithiwn eich bod yn edrych ymlaen cymaint â ni, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch ag aelod o'r tîm neu llenwch ein ffurflen ymholiadau.