Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} Gweld Mwy   Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion.

Canolfan Hamdden Penarth – Prosiect Newid y To – Cwestiynau Cyffredin

DIWEDDARWYD: 10fed Ebrill 
Beth sy'n digwydd?     

Oherwydd oedran Canolfan Hamdden Penarth bellach mae angen adnewyddu’r to yn llwyr er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Bydd y prosiect yma, sy’n cynnwys 3 cham, yn cryfhau seilwaith yr adeilad i sicrhau hirhoedledd i bwrpas y Ganolfan Hamdden, sef darparu cyfleusterau chwaraeon, hamdden a ffitrwydd i’r gymuned leol ac ymwelwyr. Er bod hyn yn newyddion cadarnhaol, mae'n dod â rhywfaint o darfu sylweddol dros gyfnod y prosiect.

Rydyn ni’n hapus i gyhoeddi y bydd ein pwll yn agor ar 24 Ebrill 2024.

 

BETH YW CAM 2 Y PROSIECT?

Rydyn ni bellach wedi cwblhau symud y gampfa i'n Neuadd Chwaraeon ac rydyn ni’n gobeithio dychwelyd i'r lleoliad llawr 1af gwreiddiol tua diwedd mis Mai, bydd manylion pellach yn cael eu hanfon allan yn ystod yr wythnosau nesaf. Ail gam cam dau oedd ailagor y Pwll, bydd hyn yn digwydd ar 24ain Ebrill a bydd ein rhaglen gwersi Nofio yn symud yn ôl i'r ganolfan yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 29ain Ebrill.

 

BETH SYDD DDIM YN GWEITHREDU AR HYN O BRYD?

Ni fydd mynediad i’r ardaloedd canlynol yn bosibl am resymau diogelwch:

  • Ein stiwdio ni ar y llawr cyntaf ger y lifft
  • Y gampfa gyfan gan gynnwys yr ystafell Cyfeirio at Ymarfer Cenedlaethol
  • Y llwybr yn edrych dros y neuadd chwaraeon ar y llawr 1af
  • Yn anffodus byddwn yn colli’r defnydd o’n neuadd chwaraeon oherwydd bydd yn gampfa ac yn ardal ymarfer corff.

 

BETH FYDD AR AGOR?

  • Ein pwll ni - yn ailagor ar 24 Ebrill
  • Bydd ein campfa ni’n parhau i fod yn gwbl weithredol gyda sawl parth i ddarparu ar gyfer ein holl aelodau a'r rhai nad ydynt yn aelodau ond bydd wedi'i lleoli yn y neuadd chwaraeon 
  • Bydd y rhaglen ffitrwydd yn parhau i weithredu pob un o'n dosbarthiadau presennol ni bron. Cliciwch yma i weld y rhaglen hon 
  • Stiwdio A - ein stiwdio ddawns fawr ar y llawr 1af (ceir mynediad iddi drwy'r allanfa dân gefn ym mhen draw coridor y llawr gwaelod heibio'r stiwdio sbin) 
  • Y coridor i falconi'r pwll unwaith y bydd y pwll yn ailagor (diwedd mis Ebrill), y cyrtiau Sboncen a Dojo ar ôl 5pm yn unig  
  • Ein hystafell gyfarfod ni ar y llawr gwaelod
  • Ein stiwdio sbin ni ar ei newydd wedd 
  • Ein hystafell iechyd.

 

YDI CANOLFAN HAMDDEN PENARTH AR AGOR O HYD?      

Ydi yn sicr!

Rydyn ni’n parhau i weithredu rhaglen lawn y gampfa a dosbarthiadau ffitrwydd a gyda'r pwll yn ailagor ar 24ain Ebrill y gobaith ydi y bydd pethau'n dod yn ôl i normal. Yr unig ardal nad ydyn ni’n gallu ei chynnig ar hyn o bryd yw ein neuadd chwaraeon yn yr ystyr draddodiadol. Mae ein cyrtiau sboncen ar gael o hyd gyda'r nos ac ar benwythnosau ac mae ein hystafell Iechyd ni’n gwbl weithredol hefyd. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi ar y safle yn fuan.

Dolen i dudalen yr amserlen yma.

Os oes gennych chi aelodaeth iau ym Mhenarth, defnyddiwch naill ai Ganolfannau Hamdden y Barri neu Lanilltud Fawr. Ni fyddwch yn gallu defnyddio Pwll Rhyngwladol Caerdydd.


BETH SY'N DIGWYDD NAWR GYDA'N RHAGLEN NOFIO   

Newyddion gwych: bydd ein rhaglen Ysgol Nofio yn dychwelyd i Benarth nawr o ddydd Llun 29 Ebrill ymlaen. Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau Pwll Rhyngwladol Caerdydd dros y misoedd diwethaf a diolch i chi am eich amynedd yn ystod y cyfnod yma.

Does dim angen i chi wneud unrhyw beth, heblaw am newid lleoliad eich gwersi nofio ar eich calendr gartref i Benarth!

 

BETH AM NOFIO LONYDD?

Rydyn ni wedi manteisio ar y cyfle yma i adnewyddu ein rhaglen gan sicrhau profiad gwell i’n haelodau ni. Fe fydd ein holl glybiau, nofio lonydd, sesiynau i rieni a phlant bach a sesiynau cyhoeddus yn ailddechrau. Deifiwch i mewn i'n rhaglen ni yma!

Mae eich aelodaeth chi ym Mhenarth yn golygu eich bod chi hefyd yn gallu defnyddio Canolfannau eraill ym Mro Morgannwg. Mae hyn yn cynnwys y Barri a Llanilltud Fawr, a bydd y pyllau hyn yn gweithredu fel arfer.

Fel arwydd o ewyllys da am y tarfu, rydyn ni’n mynd i barhau i ganiatáu i Aelodau Penarth ddefnyddio pwll Rhyngwladol Caerdydd tan ddiwedd y prosiect, felly bydd gennych chi fynediad i'r cyfleuster yma ym misoedd yr haf.

 

BETH OS YDW I EISOES YN TALU AM BWLL RHYNGWLADOL CAERDYDD FEL RHAN O FY AELODAETH FFITRWYDD?

Byddwch yn gallu parhau i ddefnyddio'r ddwy ganolfan am y misoedd nesaf heb y gordal ychwanegol o £8. Unwaith y bydd y prosiect wedi'i gwblhau byddwn yn eich hysbysu ynghylch pryd caiff hwn ei adfer.

 

AQUA FIT YN PARHAU

Y newyddion gwych ydi y bydd Aqua nawr yn ôl ym Mhenarth. Byddwn yn dychwelyd i redeg Aqua ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener am 1pm fel o’r blaen. Rydyn ni hefyd yn cynnal Aqua dydd Sadwrn ar ein rhaglen ni a byddwn yn cyflwyno dosbarth Aqua newydd gyda’r nos ar nos Fawrth am 7pm i bawb sy’n methu dod i’r slotiau yn ystod y dydd.

 

RYDYN NI’N DEFNYDDIO PWLL PENARTH FEL CLWB, BETH SY'N DIGWYDD NESAF?

Byddwn wedi cysylltu â'n holl glybiau nawr a byddwn wedi trefnu i chi ddychwelyd i bwll Penarth. Os nad ydyn ni wedi cysylltu â chi am unrhyw reswm, mae croeso i chi gysylltu â'r ganolfan.

 

BETH OS YDYN NI'N YSGOL GYNRADD SY’N MYND  'I DOSBARTH I BENARTH I DDYSGU NOFIO FEL RHEOL?

Bydd yr holl ysgolion yn dychwelyd i Benarth yn ôl y bwriad, os ydych chi wedi archebu lle gyda ni, dylai fod gennych ddyddiad eisoes i ddefnyddio pwll Penarth yn ystod y misoedd nesaf. Os nad oes gennych chi ddyddiad neu amser wedi'u cadarnhau, cysylltwch â'r ganolfan a gallwn edrych ar argaeledd ar gyfer eich ysgol yn ein rhaglen ni.

 

PA NEWIDIADAU WELWN NI YM MHENARTH?

Rydyn ni’n falch iawn o ddweud ein bod ni ar y trac o hyd ac yn gwneud cynnydd da. Mae cam un wedi'i gwblhau ac mae'r pwll yn ailagor ar 24 Ebrill.

Mae cam dau wedi dechrau a’r gampfa wedi cael ei symud i'r neuadd chwaraeon.

Bydd cam tri yn cynnwys dychwelyd y gampfa i'w lleoliad priodol ar y llawr 1af. Wedyn bydd rhaid i'r Neuadd Chwaraeon beidio â gweithredu hyd nes bydd y prosiect wedi'i gwblhau.

Ni fydd y nenfydau'n cael eu cyffwrdd y tu mewn, a bydd y gorchudd to presennol yn cael ei orchuddio mewn rhannau hylaw er mwyn lleihau'r risg o darfu oherwydd y tywydd. Bydd ymylon allanol y to yn cael eu newid hefyd wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Ni fydd y maes parcio’n cael ei effeithio ar y cyfan, ond rydyn ni wedi colli mynediad i’r llwybr a’r mannau parcio wrth ymyl y Neuadd Chwaraeon. Bydd y system unffordd yn parhau yn ei lle ac mae'r holl farciau llinell ar gyfer y maes parcio presennol wedi cael eu hadnewyddu i gynorthwyo’r defnyddwyr.

Sut byddwn ni'n gwybod beth sy'n digwydd?     

Byddwn yn anfon gwybodaeth at gwsmeriaid yn rheolaidd ar e-bost (lle bo hynny'n berthnasol), drwy;

Diolch

Rydw i'n gobeithio bod hyn yn rhoi trosolwg i chi o'r cynlluniau hyd yn hyn.

Hoffwn ddiolch i chi ymlaen llaw am eich dealltwriaeth tra bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno y bydd y gwaith uwchraddio yma o fudd mawr i’n cymuned ni.

Os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau neu gwestiynau, siaradwch â'r tîm yn lleol a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

Nic Beggs
Rheolwr Contract
Legacy Leisure - Bro Morgannwg