Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} View more   View {{ alerts.length}} alerts.

CYFLEUSTERAU A MANYLION

Ar y dudalen hon

Show All

CYRRAEDD YMA

Greenwood Street, Y Barri CF63 4RU

Mewn Car
Cyfeirnod Llywiwr Lloeren: CF63 4RU

Parcio am ddim

Ar Fws

Llwybrau lleol ar gael sy'n stopio wrth y Safle Bws agosaf yn y Swyddfeydd Dinesig - dim ond taith gerdded fer i'r Ganolfan ydyw. Y gwasanaethau sy’n stopio yma yw 304, B3 ac 88.

MAES PARCIO

Mae gan y maes parcio leoedd ar gyfer 30 o gerbydau gan gynnwys mannau parcio hygyrch a mannau parcio i rieni a phlant a beiciau modur.

Mae parcio am ddim i gwsmeriaid y ganolfan hamdden.

CYFLEUSTERAU CYFFREDINOL

  • Wifi
  • Aerdymheru
  • Gorsafoedd ail-lenwi dŵr
  • Gorsafoedd diheintio dwylo
  • Loceri (angen clo clap)
  • Ciwbiclau newid preifat
  • Cawodydd preifat

CAMPFA

Mae ein hardal gampfa yn cynnwys peiriannau ymwrthedd, pwysau rhydd a hyfforddwyr cardio i chi gyflawni eich nodau ffitrwydd. 

I gael manylion llawn cyfleusterau'r gampfa:
Ewch i adran y gampfa

PWLL NOFIO

Mae ein pwll yn darparu ar gyfer pob math o weithgareddau nofio, oedrannau a galluoedd.

Ewch i’r adran nofio i gael y manylion llawn.

STIWDIOS YMARFER CORFF

Os ydych yn dod ar eich pen eich hun neu gyda ffrindiau, ein stiwdios ffitrwydd yw'r lle perffaith ar gyfer eich sesiynau ymarfer corff grŵp.

Ewch i’r adran dosbarthiadau i gael y manylion llawn. 

NEUADD CHWARAEON PEDWAR CWRT

Pêl-droed 5-bob-ochr, badminton, pêl-fasged? Gall clybiau, grwpiau ac unigolion ddefnyddio ein neuadd chwaraeon ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau.

Ewch i’r adran chwaraeon a gweithgareddau i gael y manylion llawn.

HYGYRCHEDD

Mae gennym amrywiaeth o nodweddion a mannau hygyrch, gan gynnwys:

  • Drysau mynediad electronig
  • Lifft
  • Ardal Campfa Inclusive Fitness Initiative
  • Ardal newid hygyrch
  • Cawodydd hygyrch
  • Toiledau hygyrch
  •  
  • Loceri hygyrch
  • Dolen Sain
  • Teclyn Codi Pwll
  • Sesiynau nofio hygyrch
  • Deunyddiau mewn fformat print mawr
  • Parcio Hygyrch
  • Cadair olwyn

Rydym yn ymroddedig i ddatblygu a gwella ein cyfleusterau fel ein bod yn hygyrch i bawb yn y gymuned.

Os oes gennych unrhyw ofynion penodol/ychwanegol ar gyfer ymweld, cysylltwch â ni'n uniongyrchol a byddwn yn gwneud ein gorau i wneud eich ymweliad mor ddymunol â phosibl.

CYMORTH CYNTAF

Mae staff sydd wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf ar y safle bob amser. Mae gennym hefyd ddiffibriliwr ar y safle.

LLOGI AR GYFER PARTI

Gallwn greu'r parti perffaith ar gyfer eich plentyn! Mae gennym y cyfleusterau a'r tîm ymroddedig wrth law i wneud eich digwyddiad chi’n un bythgofiadwy. Gyda goruchwyliaeth bob amser, gallwch gael tawelwch meddwl y bydd eich plentyn yn cael amser gwych mewn amgylchedd diogel a llawn hwyl.