Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}

TELERAU AC AMODAU

  1. Rhaid i chi fod yn 18 oed a hŷn i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Rhaid darparu prawf o gymhwysedd ar gais. Drwy gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad, ystyrir eich bod yn derbyn ac yn rhwym i'r telerau a’r amodau hyn.
  2. Nid oes angen i’r cystadleuydd brynu unrhyw beth i gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad. Ar agor i gwsmeriaid presennol a newydd Canolfannau Hamdden Parkwood.
  3. Dim ond i drigolion y DU y mae'r raffl yma (yr “Hyrwyddiad”) ar agor, ac eithrio cyflogeion ac asiantau (a) yr “Hyrwyddwr” neu (b) unrhyw gwmni sy'n gysylltiedig â chynhyrchu neu ddosbarthu'r Hyrwyddiad hwn, yn ogystal â'u perthnasau ac aelodau o'u teulu neu gartref.
  4. Mae tair gwobr ar gael yn genedlaethol ar draws yr holl ganolfannau sy'n cymryd rhan.
  5. Bydd ymgyrch yr Hyrwyddiad yn dechrau am 00:01 ar 23 Chwefror 2026 ac yn cau am 23:59 ar 15 Mawrth 2026. Ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl yr amser cau yn cael eu cynnwys. Gellir defnyddio’r wobr ar gyfer gwersi plant neu oedolion.
  6. Mae’r gwersi’n amodol ar argaeledd a rhaid defnyddio’r wobr o fewn yr amserlen nofio gyfredol.
  7. Mae posib defnyddio'r wobr yn unrhyw un o ganolfannau Parkwood Leisure.
  8. Nid oes modd trosglwyddo'r wobr ac ni chaniateir ei hailwerthu. Mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl, yn ôl ei ddisgresiwn rhesymol, i roi gwobr gymharol, neu eitem o werth cyfartal, yn lle unrhyw wobr.
  9. Mae’r cystadleuwyr yn cytuno i ddarparu cydweithrediad rhesymol i ganiatáu i'r Hyrwyddwr ddefnyddio enw a / neu ddelwedd yr enillydd at ddibenion hysbysebu a chyhoeddusrwydd mewn cysylltiad â'r Hyrwyddiad hwn, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, cyhoeddi enw a llun yr enillydd ar wefannau'r Hyrwyddwr a chwmnïau cysylltiedig ac unrhyw blatfform cyfryngau cymdeithasol a ystyrir yn ofynnol, a thystiolaeth fideo wedi’i ffilmio o gynnydd yr enillydd mewn gwersi nofio.
  10. Rhaid i unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir i ni yn ystod y broses gystadlu (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) fod yn gywir. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wybodaeth bersonol anghywir a ddarperir i ni.
  11. Bydd penderfyniad yr Hyrwyddwr ar bob mater yn derfynol, ac ni fydd unrhyw ohebiaeth na thrafodaeth yn cael ei chynnal. Mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl, yn ôl ei ddisgresiwn rhesymol: (a) i anghymhwyso unrhyw gystadleuydd y mae ei ymddygiad yn groes i ysbryd y rheolau neu fwriad yr hyrwyddiad ac i ddatgan yn ddi-rym unrhyw un neu'r cyfan o'i hawliadau neu geisiadau yn seiliedig ar yr ymddygiad hwnnw; (b) i ddatgan yn ddi-rym unrhyw hawliadau neu geisiadau sy'n deillio o unrhyw wallau argraffu, cynhyrchu a / neu ddosbarthu (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw wall(au) ar unrhyw wefan gan yr Hyrwyddwr, a / neu ddeunyddiau print eraill), neu lle bu gwall(au) mewn unrhyw agwedd ar baratoi ar gyfer neu gynnal yr hyrwyddiad sy'n effeithio'n sylweddol ar ganlyniad yr hyrwyddiad neu nifer yr hawlwyr neu werth yr hawliadau; (c) i ychwanegu at neu hepgor unrhyw reolau gyda rhybudd rhesymol; a / neu (d) i ganslo'r Hyrwyddiad neu unrhyw ran ohono ar unrhyw gam os bydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol yr Hyrwyddwr yn codi.
  12. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau mewn pentwr, gan asiantau na thrydydd partïon. Un ymagis y pen.
  13. I'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith (ac yn amodol ar baragraff 17 isod), mae'r Hyrwyddwr drwy hyn yn eithrio pob gwarant, cynrychiolaeth, cyfamod ac atebolrwydd (boed yn benodol neu'n oblygedig) sy'n ymwneud â'r Hyrwyddiad hwn a / neu'r wobr.
  14. Ni fydd unrhyw beth yn y telerau a’r amodau hyn yn eithrio atebolrwydd yr Hyrwyddwr am: (i) marwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i'w esgeulustod; (ii) twyll neu gamliwio twyllodrus; neu (iii) unrhyw atebolrwydd na ellir ei gyfyngu na'i eithrio gan y gyfraith.
  15. Mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl, yn ôl ei ddisgresiwn ei hun, i addasu, atal neu ganslo'r Hyrwyddiad os bydd feirws, bygiau, ymyrryd, twyll neu achosion eraill y tu hwnt i reolaeth resymol yr Hyrwyddwr yn llygru neu'n rhwystro gweinyddiaeth neu ddiogelwch yr Hyrwyddiad neu ei gynnal yn briodol.
  16. Os bernir bod unrhyw un o ddarpariaethau'r telerau a’r amodau hyn yn annilys neu'n amhosibl eu gorfodi yn gyfan gwbl neu'n rhannol, bydd y rhan honno'n cael ei gwahanu oddi wrth weddill y darpariaethau ac ni fydd dilysrwydd y darpariaethau eraill a gweddill y ddarpariaeth dan sylw yn cael eu heffeithio.
  17. Bydd y telerau a’r amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd unrhyw anghydfod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

ENILLYDD

Bydd tri enillydd, a fydd yn cael eu dewis mewn raffl ar hap a gynhelir ar 15 Mawrth 2026, gan berson annibynnol o blith yr holl geisiadau cymwys. Bydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu'r enillydd erbyn dydd Gwener 20 Mawrth 2026 fan bellaf gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd wrth gystadlu a bydd yn cael manylion am sut i dderbyn y wobr. Os bydd yr enillydd yn methu â derbyn y wobr yn y modd a nodir o fewn wythnos i’r Hyrwyddwr gysylltu ag ef, bydd unrhyw hawliad yn annilys a bydd yr Hyrwyddwr yn symud ymlaen wedyn i ddewis enillydd arall (a ddewisir ar hap eto mewn raffl) o blith yr holl geisiadau cymwys sy'n weddill a chysylltir â’r enillydd fel uchod.

Y wobr yw gwersi nofio am ddim am flwyddyn. Er mwyn sicrhau eglurder, mae hyn yn cyfateb i un wers am ddim yr wythnos am 50 wythnos yn y ganolfan wnaethoch chi ei dewis wrth gystadlu. Os caiff enillydd ei ddewis o TW2, y wobr fydd 6 mis o wersi nofio am ddim yn TW2. Mae hyn yn cyfateb i un wers am ddim yr wythnos am 25 wythnos. Ni chynigir unrhyw ddewis arall ar ffurf arian parod yn lle’r wobr.

Nid oes modd trosglwyddo'r wobr ac ni chaniateir ei hailwerthu. Mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl, yn ôl ei ddisgresiwn rhesymol, i roi gwobr gymharol, neu eitem o werth cyfartal, yn lle unrhyw wobr. 

Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer gwersi nofio ar hyn o bryd, dim ond i'r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi gofrestru ag ef y bydd unrhyw e-byst dilynol gyda gostyngiadau a chynigion yn cael eu hanfon. Dim ond i gwsmeriaid newydd y mae gostyngiadau ar wersi grŵp wythnosol. 

Bydd cyfenw a sir enillydd y wobr ar gael ar ôl y dyddiad cau drwy gyflwyno cais ysgrifenedig i'r Hyrwyddwr.

Hyrwyddwr

Yr Hyrwyddwr yw Parkwood Leisure Limited (rhif cwmni 03232979), o 3 De Salis Court, Hampton Lovett, Droitwich Spa, Sir Caerwrangon WR9 0QE, sy’n gweithredu ar ran Lex Leisure CIC, Legacy Leisure Limited, 1Life Management Solutions, Creative Active Futures, Parkwood Community Leisure Limited a Parkwood Health & Fitness Limited.