Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Gwelliannau cyffrous i ddod yn fuan!
Rydyn ni wrth ein bodd yn rhannu newyddion am fuddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau yn Iechyd a Ffitrwydd Plas Menai. Fe fyddwn ni’n buddsoddi mwy na £450,000, a fydd yn cynnwys creu campfa a stiwdio ymarfer grŵp newydd sbon.
Beth sy’n digwydd?
Bydd gwaith adeiladu’n dechrau cyn bo hir i ailddefnyddio rhai ystafelloedd presennol yn y brif ganolfan. Bydd y gwaith adeiladu yma’n helaeth a bydd yn creu campfa bwrpasol, fodern gydag offer da ar gyfer y gymuned leol.
Bydd y gampfa’n cynnwys 35 o orsafoedd, gyda chymysgedd cynhwysfawr o beiriannau cardio, peiriannau ymwrthedd sefydlog a phwysau rhydd, pob un o fewn 'parth' pwrpasol. Bydd yr uchafbwyntiau penodol yn cynnwys y canlynol:
Pa newidiadau eraill sy'n cael eu gwneud?
Bydd gwaith hefyd i drosi ystafell ar wahân yn ofod ymarfer grŵp a chynadledda aml-ddefnydd. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio fel stiwdio ar gyfer ystod eang o ddosbarthiadau ymarfer grŵp a beicio dan do, a hefyd bydd posib ei archebu fel ystafell gynadledda ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.
Bydd y dosbarthiadau sy’n cael eu cynnal yn y stiwdio i ddechrau yn cynnwys ffefrynnau gan Les Mills, gan gynnwys BodyPump drwy gydol y dydd a'r nos i gyd-fynd ag amserlenni prysur y trigolion lleol.
Beth yw'r dyddiadau arfaethedig ar gyfer y gwaith adnewyddu?
Mae'r prosiect wedi'i drefnu i ddigwydd rhwng nawr a chanol mis Mai, gyda'r union ddyddiadau i'w cadarnhau'n agosach at yr amser.
Rydyn ni’n gweithio'n galed gyda'r gwahanol gontractwyr i gadarnhau dyddiadau cyn gynted â phosibl. Dilynwch ni ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol newydd - Iechyd a Ffitrwydd Plas Menai - i fod ymhlith y cyntaf i wybod.
Rydyn ni’n disgwyl i'r gwaith ar y stiwdio ymarfer corff gael ei gwblhau yn gyntaf, gyda’r dosbarthiadau'n dechrau o ddydd Mercher y 1af o Ebrill. Bydd amserlen gychwynnol o ddosbarthiadau’n cael ei rhyddhau cyn bo hir.
Bydd y gwaith ar y gampfa, sy'n helaethach, wedi'i gwblhau, yn barod i'r offer newydd gael ei osod yn ei le yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 11 Mai - gan agor yn syth wedyn.
A fyddaf i’n gallu defnyddio'r Ganolfan o hyd?
Byddwch! Bydd posib dal ati i ddefnyddio'r ganolfan fel arfer. Ni fydd unrhyw effaith ar rannau eraill o'r ganolfan, gan gynnwys y pwll nofio a'r ardaloedd awyr agored.
Byddwn yn ymdrechu i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu drwy gydol y prosiect.
Beth fydd yn digwydd gyda'r gampfa bresennol?
Bydd y gampfa bresennol yn parhau ar agor i aelodau ei defnyddio drwy gydol y prosiect yma. Bydd hyn yn sicrhau eich bod chi’n gallu parhau â'ch rhaglen ymarfer corff bresennol wrth i chi edrych ymlaen at agoriad y gampfa newydd.
Unwaith bydd y gampfa newydd ar agor, byddwn yn tynnu'r offer o'r gampfa bresennol ac yn ailbwrpasu'r gofod hwnnw'n stiwdio beicio dan do - dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau pellach.
Sut byddaf i'n gwybod sut i ddefnyddio'r offer newydd?
Bydd pob aelod sy'n dymuno defnyddio'r offer newydd yn gallu archebu lle ar gyfer sesiwn gyflwyno yn y gampfa. Bydd hon yn sesiwn un i un gydag aelod o staff a fydd yn treulio amser yn dangos yr offer i chi ac yn sicrhau eich bod yn hyderus ac yn gymwys i'w ddefnyddio.
Beth fydd yn digwydd i fy aelodaeth?
Ni fydd unrhyw newidiadau i'ch aelodaeth bresennol. Ni fydd y prosiect yma’n effeithio ar unrhyw aelodaeth a bydd y taliadau'n parhau fel arfer. Bydd yr aelodau sefydlu’n aros ar yr un cynllun talu debyd uniongyrchol misol.
Sut byddaf i'n gwybod beth sy'n digwydd?
Byddwn yn anfon negeseuon e-bost gyda manylion llawn, ac yn darparu diweddariadau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Bydd y dudalen Cwestiynau Cyffredin yma’n cael ei diweddaru drwy gydol y prosiect hefyd.
Beth os oes gen i fwy o gwestiynau?
Dim problem, rydyn ni yma i helpu. Dewch i'n gweld ni wyneb yn wyneb neu defnyddiwch y dudalen cysylltu â ni ar ein gwefan.