Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Mae dysgu nofio yn sgil bywyd hanfodol sy’n fuddiol i bobl o bob oed. Mae’n cynyddu diogelwch personol yn y dŵr, yn adeiladu hyder, ac yn ychwanegu at fwynhad gweithgareddau dŵr. Mae ein rhaglen strwythuredig yn tywys cyfranogwyr drwy’r saith lefel cwmwl o fedrusrwydd nofio, gan sicrhau eu bod yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer diogelwch yn y dŵr.
Ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd a’r Gampfa, rydyn ni’n falch o fod yn bartner â’r Rhaglen Dysgu Nofio gan Nofio Cymru. Mae ein cwricwlwm ni’n cwmpasu pob un o'r 7 Ton sylfaenol o nofio, gan gynnwys hyfforddiant hanfodol ac archwiliadau gwybodaeth. Mae'r dull cynhwysfawr yma o weithredu’n gwarantu bod sgiliau diogelwch dŵr allweddol yn cael eu hintegreiddio ar bob lefel o ddysgu.
Rydyn ni’n credu mewn rhoi gwybodaeth gyson i chi. Mae ein Porthol Cartref yn galluogi i chi dracio eich cynnydd a chael y wybodaeth ddiweddaraf ar eich siwrnai nofio. Cliciwch yma i fewngofnodi.
Mae'r hyfforddiant ychwanegol yma wedi cael ei achredu gan The Royal Life Saving Society (RLSS), gan osod Pwll Rhyngwladol Caerdydd a’r Gampfa ar wahân i ddarparwyr gwersi eraill lleol.