Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Ym Plas Menai, rydyn ni’n cynnig gwersi nofio cynhwysfawr i blant oedran ysgol, sy'n cwmpasu Cyfnodau 1 i 7 o’r Rhaglen Dysgu Nofio gan Nofio Cymru. Yn cael eu hategu gan hyfforddiant diogelwch dŵr achrededig RLSS (Royal Life Saving Society), mae ein gwersi ni'n dysgu sgiliau a gwybodaeth hanfodol i blant i gadw’n ddiogel mewn unrhyw sefyllfa mewn dŵr. Wedi'i gyflwyno yn y Gymraeg a'r Saesneg, gyda'r opsiwn i ddysgu yn eich dewis o iaith ar gais, drwy ffonio derbynfa Plas Menai i nodi eich dewis iaith.
Cael gwybodaeth gyson am gynnydd eich plentyn drwy ein porthol ni ar-lein. Tracio cyflawniadau, gweld canlyniadau ar gyfer pob cam, a chael hysbysiadau pan fydd yn ennill dyfarniadau.
Atebwch ein holiadur cyflym i benderfynu ar y cam cywir ar gyfer eich plentyn, holi am argaeledd, a dechrau heddiw.