Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Dewch i fwynhau byd o ryfeddodau yn Niwrnod Agored ein Hysgol Nofio ni ar ddydd Sadwrn 6 Medi! Cyfle perffaith i weld beth yw manteision nofio i’ch plentyn neu i chi eich hun.
Bydd ein hyfforddwyr arbenigol a chyfeillgar ni yno i ateb eich cwestiynau chi am ein Hysgol Nofio. Wedyn bydd cyfle i chi neu eich plentyn fynd i’r pwll er mwyn i ni weld beth yw’r lefel nofio a phenderfynu ar ddosbarth nofio addas.
Dyddiad: Dydd Sadwrn 6 Medi
Amser: 15:00
Sut mae archebu: Cysylltwch â’r dderbynfa
Dewch â hyn gyda chi: Gwisg nofio a thywel
Arall: Mae lle i rieni/gwarcheidwad eistedd i wylio’r asesiad. Bydd yr asesiadau’n cymryd tua 5-10 munud. Ar ôl yr asesiad, byddwn yn rhoi cyngor i chi ynghylch beth fyddai orau i’ch plentyn. Byddwch yn cael lle yn y cam hwn neu’n cael lle ar y rhestr aros.
I weld ac archebu ein gwersi ni ar-lein, ewch i’r dudalen yma.