Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}

My Healthy Way yng Nghanolfan Hamdden Y Bont-Faen

Leisure Centre Hero Image

Am My Healthy Way

Ein platfform lles yw My Healthy Way, i helpu pobl i fyw bywyd iach a cytbwys. Mae’n cyfuno arweiniad gan arbenigwyr, offer ymarferol, a chymorth cymunedol i wella eich lles corfforol a meddyliol. Trwy raglenni sydd wedi cael ei greu ar dystiolaeth ac adnoddau addysgiadol. Mae My Healthy Way yn cefnogi unigolion i wneud newidiadau positif sy’n cefnogi iechyd hir dymor ac ansawdd bywyd.

Beth sydd ar gael

Ar My Healthy Way, mae yna amrywiaeth o gymorth am les, gan gynnwys:

  • Rhaglenni Iechyd Cyhyrysgerbydol: Rhaglenni wedi ei addasu i’ch helpu i wella iechyd eich cyhyrau ac eich cymalau. Mae dosbarthiadau a chyfarfodydd cymunedol yn gwneud hi’n haws i aros yn egnïol ac i gael cefnogaeth.
  • Bywyd Actif: Cyngor ac ysbrydoliaeth i symud mwy ac yn fwy aml, mae cynnydd bach yn gallu help eich iechyd cyffredinol.
  • Cymorth lles meddyliol: Arweiniad ac adnoddau i gefnogi iechyd meddwl, gan gynnwys dulliau i reoli straen hefo gwasanaethau cymorth.
  • Cymorth cymunedol ac arbenigol: Adnoddau i ferched a dynion, cyfleoedd i gymryd rhan, a rhaglenni ychwanegol sydd ei addasu ar gyfer nodau iechyd a chyfnodau bywyd penodol.

Am fwy o wybodaeth am My Healthy Way, cliciwch ar y ddolen isod.

Aelodaeth Mamolaeth

Mae ein Haelodaeth Mamolaeth hyblyg, di-gontract ar draws Canolfan Hamdden Y Barri, Canolfan Hamdden Penarth, Canolfan Hamdden Y Bont-faen, a Chanolfan Hamdden Llanilltud Fawr yn helpu menywod beichiog (0-40 wythnos) a mamau newydd (hyd at 12 mis ar ôl geni) i aros yn egnïol mewn ffordd ddiogel. Aelodaeth heb ffi ymuno (£0) yw hon, ac mae’n rhoi mynediad llawn i’r Gampfa, Nofio, Dosbarthiadau Ymarfer Corff, a sesiynau dŵr arbenigol am 2 wythnos (£17.50) neu 4 wythnos (£35.00).

I gofrestru, llenwch y ffurflen atgyfeirio isod neu gofynnwch i’ch gweithiwr iechyd proffesiynol am atgyfeiriad, a bydd ein tîm yn cysylltu â chi i wirio eich prawf cymhwysedd yn y ganolfan. 

Nodwch: Mae ein Haelodaeth Mamolaeth yn dechrau ar Ddydd Iau, 1 Hydref

Cyflwyno Atgyfeiriad i Raglen Iechyd


 

Cyflwyno Atgyfeiriad i Raglen Iechyd