Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} View more   View {{ alerts.length}} alerts.

CLYBIAU

Ar y dudalen hon

Show All

CLWB NOFIO AMATUR Y BARRI

Cafodd clwb chwaraeon y Barri ei sefydlu ym 1926. Rydyn ni’n gweithredu o Ganolfan Hamdden y Barri yn ogystal â Phwll Rhyngwladol Caerdydd. Mae gennym nofwyr o 8 oed ac i fyny ac rydyn ni’n cynnal nifer o sesiynau hyfforddi wythnosol. Mae ein nofwyr yn cymryd rhan mewn nifer o Galas blynyddol fel tîm, ac mae llawer o nofwyr hefyd yn cystadlu fel unigolion mewn amryw o gystadlaethau nofio drwy gydol y flwyddyn.

Amseroedd nofio: Dydd Llun: Iau 7.00pm - 8.00pm Oedolion 8.00pm - 9:30pm Dydd Llun Dydd Iau- Oedolion Caerdydd 7:30pm gwaith tir Oedolion 8:00pm - 9:00pm Dydd Gwener: Pob nofiwr 7.00pm- 8:30pm Dydd Sul Pob nofiwr 9.00pm -10.00pm

TRIATHLETWYR CAERDYDD

Mae Triathletwyr Caerdydd yn glwb triathlon bywiog, cyfeillgar a chymdeithasol sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, gan ddefnyddio amryw o leoliadau hyfforddi nofio, beicio a rhedeg ledled y ddinas a'r ardal gyfagos. Mae'r clwb yn hyfforddi ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd nos Iau 8:30pm - 9:30pm, a nos Sul 7:00pm - 8:00pm. Mae pob sesiwn nofio yn cael ei hyfforddi gan ein tîm o hyfforddwyr nofio a thriathlon profiadol. Mae gennym hefyd sesiynau nofio, beicio a rhedeg eraill mewn lleoliadau eraill yn ystod yr wythnos. Mae aelodau clwb Triathletwyr Caerdydd yn cystadlu ym mhob pellter triathlon drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys y rhai sy’n cystadlu am y tro cyntaf i’r rhai sy’n ennill gwobrau Grŵp Oedran Prydain rhyngwladol. Rydym yn croesawu pobl o bob gallu ac oedran i'r clwb.

HOCI TANDDWR CAERDYDD

Rydyn ni’n glwb cyfeillgar, cymysg sy'n hyfforddi ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd ym mae Caerdydd (nos Fercher). Rydyn ni bob amser yn croesawu chwaraewyr newydd ac yn rhoi cynnig ar hoci dan ddŵr, a'r peth gorau yw bod y ddwy sesiwn gyntaf am ddim! Does dim protocol, ond dewch â dillad nofio, tywel ac ychydig o frwdfrydedd.

CLWB NOFIO DINAS CAERDYDD

Dinas Caerdydd yw un o'r clybiau nofio cystadleuol mwyaf blaenllaw yng Nghymru. Mae'r Clwb yn rhoi cyfle i'w haelodau nofio ar bob lefel ac yn ymfalchïo mewn datblygu sgiliau dŵr, o nofwyr ifanc hyd at athletwyr Rhyngwladol. Cafodd y Clwb achrediad Canolfan Berfformio Nofio Cymru yn 2012. Mae ein Prif Hyfforddwr, Graham Wardell wedi sefydlu ei hun fel un o'r prif hyfforddwyr ym Mhrydain, ar ôl arwain Tîm yr Alban i lwyddiant yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2014. Mae'r Clwb yn hyfforddi 6 diwrnod yr wythnos ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd a nifer o'r Canolfannau Hamdden ar draws Caerdydd. Ewch i’n gwefan yn www.cardiffswimming.co.uk sy'n cynnwys gwybodaeth amdanom ni, sut i ymuno â'r clwb a newyddion am ein nofwyr yn cystadlu mewn galas yng Nghymru a Lloegr a'r rhai sy'n cynrychioli Cymru ar lwyfan Rhyngwladol. Dilynwch ni ar Twitter yn @cardiffswimming ac ar Facebook yn City of Cardiff Swimming Club.

CLWB POLO DŴR WELSH WANDERERS

Mae Clwb Polo Dŵr y Welsh Wanderers yn glwb llwyddiannus sy’n cael ei gynnal o Bwll Rhyngwladol Caerdydd, gyda thimau dynion, merched ac iau yn cystadlu ledled Cymru a'r DU mewn amryw o bencampwriaethau, gan gynnwys Cynghrair Polo Dŵr Prydain a Chynghrair Bryste a Gorllewin Lloegr. Mae 3 Adran yng Nghlwb Polo Dŵr Welsh Wanderers: Menywod: Dydd Mawrth 19:30 – 21:00 Iau: Dydd Mercher 19:30 – 21:00 Dynion: Dydd Iau 19:30 – 21:00 Mae sesiwn ragflas talu wrth fynd ar gael hefyd i blant ar ddydd Gwener:19:30 – 21:00 Am fwy o wybodaeth am dîm Dynion y Welsh Wanderers cysylltwch â Tim Marshall (t.marshall@strichardgwyn.co.uk) neu John Griffiths (johnathangriffiths@geldards.com), i gael gwybodaeth am dîm Menywod y Welsh Wanderers cysylltwch â Rohan Monico (rohan@monico.co.uk) ac i gael gwybodaeth am dîm Iau y Welsh Wanderers cysylltwch â Russ Thomas (russthom4s@gmail.com), Kevin Griffiths (kevin_griffiths@btinternet.com) neu Azriel Abramovich (aabramovic@yahoo.com)