Alert Icon

{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }} View more   View {{ alerts.length}} alerts.

CYRSIAU CYFLYM

Pam archebu lle ar ein Cyrsiau Cyflym?

Mae Cyrsiau Cyflym fesul cam yn ffordd wych i blant gael help ychwanegol i basio eu cam yn gyflymach. Mae ein cyrsiau nofio dwys, wythnos o hyd yn dilyn ein rhaglen Dysgu Nofio gan Nofio Cymru ar gyfer camau / tonnau 1 – 7 i sicrhau bod eich plant yn nofio’n fwy diogel, clyfar a chryf. Maen nhw ar gael yn ystod pob cyfnod hanner tymor ar wahân i’r Nadolig. Mae sesiynau Cwrs Cyflym ar gael i ddechreuwyr Achub Bywydau hefyd, yn ogystal â rhai Deifio a Hyder Mewn Dŵr Dwfn, sy’n addas i’r rhai sydd eisiau gwella eu sgiliau y tu allan i’r camau nofio.

Mae cyrsiau cyflym yn fuddiol iawn am nifer o resymau:

  • Dysgu Dwys: Fel rheol, mae’r cyrsiau hyn yn cynnwys cyfarwyddiadau manwl dros gyfnod byr. Mae hyn yn gallu arwain at ennill sgiliau yn gyflymach.
  • Sgiliau Diogelwch: Mae plant yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr hanfodol yn gyflym, sy’n hollbwysig ar gyfer eu lles mewn dŵr.
  • Cysondeb: Mae gwersi dyddiol neu reolaidd ar gwrs cyflym yn gallu helpu i gynnal trywydd dysgu cyson, gan leihau’r siawns o golli sgiliau.
  • Goresgyn Rhwystrau: I rai plant, yn enwedig y rhai a allai fod yn betrus neu’n bryderus ynglŷn â dŵr, mae cwrs cyflym trochi, wedi’i strwythuro yn gallu chwalu rhwystrau a chyflymu cynnydd.
  • Rhyngweithio Cymdeithasol: Gall plant elwa ar ryngweithio â’u cyfoedion mewn lleoliad grŵp, sy’n gallu ychwanegu elfen hwyl a chymdeithasol at y broses ddysgu.

Rhagor o wybodaeth

Rydyn ni yma i helpu – cysylltwch i drafod Cyrsiau Cyflym ymhellach, gan gynnwys pa gam fyddai orau i’ch plentyn.

CYRSIAU CYFLYM

Barod i wella eich sgiliau nofio chi neu sgiliau nofio eich plentyn yn ystod y gwyliau hanner tymor?

Archebwch eich lle isod neu cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth!

ARCHEBU NAWR CYSYLLTU Â NI