Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
{{ highestPriorityAlert.message.length > 180 ? highestPriorityAlert.message.slice(0, 180).trim() + '...' : highestPriorityAlert.message }}
Gweld Mwy Golwg {{ alerts.length}} rhybuddion
Yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot, rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o chwaraeon a gweithgareddau i unigolion, teuluoedd a thimau o bob oedran a gallu. Os ydych chi eisiau cadw’n actif, gwella eich sgiliau, neu gael hwyl gyda ffrindiau, mae gan ein cyfleusterau ni rywbeth i chi.
Os ydych chi'n ymuno â grŵp, yn ymarfer ar eich pen eich hun, neu'n dod â'r teulu, Nghanolfan Chwaraeon Colcot yw'r lle delfrydol i chi gadw’n actif, rhoi cynnig ar chwaraeon newydd, ac ymarfer yn rheolaidd.
Archebwch gwrt badminton a mwynhau gêm gyflym a hwyliog gyda ffrindiau neu gyd-chwaraewyr. Mae ein cyrtiau ni’n darparu lleoliad rhagorol i gadw’n actif, hybu ffitrwydd, a chael hwyl neu fod yn gystadleuol.
Mwynhewch gêm bêl-fasged hwyliog ac egnïol gyda'ch tîm. Mae ein cyrtiau ni sydd ag offer llawn yn darparu ar gyfer pob lefel o sgiliau, gan ddarparu amgylchedd delfrydol i wella eich gêm, cynnal ffitrwydd, a chael amser gwych gyda ffrindiau.
Camwch ar y cwrt a mwynhau gêm bêl rwyd gyflym. Os ydych chi'n chwarae gyda ffrindiau neu'n cystadlu, mae ein cyrtiau ni'n ddelfrydol ar gyfer pob gallu ac yn cynnig ffordd hwyliog o gadw'n heini ac yn actif.
Casglwch dîm a mwynhau gêm ddeinamig o bêl droed pump bob ochr. Gyda chaeau sy’n cynnwys offer llawn sy'n addas ar gyfer pob lefel, dyma'r ffordd berffaith o wella eich sgiliau, cadw'n heini, a chael hwyl gyda ffrindiau.
Mwynhewch gêm gyflym a chystadleuol o dennis bwrdd gyda ffrindiau neu gyd-chwaraewyr. Mae ein byrddau ni ar gyfer chwarae cyflym. Maen nhw’n wych ar gyfer gwella eich ymateb cyflym a chael hwyl wrth gadw’n actif.
Barod i herio'ch hun? Mae ein wal ddringo ni’n cynnig profiad cyffrous ar gyfer pob lefel sgiliau. Os ydych chi'n ddringwr profiadol neu'n ddechreuwr llwyr, mae ein llwybrau ni wedi'u cynllunio i'ch helpu chi i gyrraedd uchelfannau newydd.
Chwilio am leoliad ar gyfer eich digwyddiad neu weithgaredd nesaf? Yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot, rydyn ni’n cynnig opsiynau llogi cyfleusterau hyblyg i fod yn addas i amrywiaeth o anghenion. Os ydych chi'n cynnal gêm chwaraeon, ymarfer tîm, neu ddigwyddiad, mae ein cyfleusterau modern ni’n darparu'r lleoliad perffaith. Cysylltwch â ni heddiw i archebu'r gofod sy'n addas i chi.