Telerau ac Amodau

Cynnig £15 Cwrs Nofio Dwys dros yr Haf

1. Cyfnod Hyrwyddo:
Mae'r cynnig hwn yn ddilys gydag archebion a wneir ar gyfer cyrsiau Dwys yr Haf rhwng 27 Gorffennaf a 28 Awst 2026.
Dim ond yn y canolfannau dynodedig a restrir isod y mae'r cynnig ar gael

2. Manylion y Cynnig:
Codir £15 am brynu cwrs nofio dwys 30 munud mewn grŵp rhwng 27 Gorffennaf - 28 Awst 2026 am gwrs wythnos yn y canolfannau penodedig yn unig.
Mae'r cynnig hwn yn ddilys ar gyfer archebion yn y ganolfan ac ar-lein 

3. Pwy sy'n gymwys:
Mae'r cynnig hwn ar agor i gwsmeriaid gwersi nofio presennol a phobl nad ydyn nhw'n aelodau.
Mae'r cynnig yn amodol ar a oes slotiau gwersi a hyfforddwr ar gael. Os bydd yr hyrwyddwr yn canslo gwers neu gwrs yna cynigir ad-daliad pro rata neu gredyd amgen.

4. Archebu a Thalu:
Rhaid talu’n llawn am wersi Gorffennaf a/neu Awst gostyngol ar adeg archebu er mwyn sicrhau’r gostyngiad.
Ni fydd unrhyw ostyngiadau ôl-weithredol yn cael eu cymhwyso.

5. Dim modd Trosglwyddo nac Ad-dalu:
Does dim modd ad-dalu'r gwersi gostyngedig ac ni ellir eu trosglwyddo i unigolyn arall.
Mae gan y rhai sy'n ymuno ar-lein hawl i gyfnod oeri o 14 diwrnod os nad yw'r aelod wedi bod yn unrhyw un o'r gwersi a archebwyd ac nad yw'r cwrs wedi dod i ben. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr.

6. Ni dderbynnir unrhyw archebion ar y cyd, gan asiantau na thrydydd partïon. 

7. I'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith (ac yn amodol ar y cymal isod ynghylch atebolrwydd am farwolaeth, anaf personol, neu dwyll), mae'r Hyrwyddwr drwy hyn yn eithrio pob gwarant, cynrychiolaeth, cyfamod ac atebolrwydd (boed hynny'n benodol neu'n oblygedig) sy'n ymwneud â'r Cynllun Hyrwyddo hwn.

8. Ni fydd dim yn y telerau ac amodau hyn yn eithrio atebolrwydd yr Hyrwyddwr am y canlynol: (i) marwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i'w esgeulustod; (ii) twyll neu gamliwio twyllodrus; neu (iii) unrhyw atebolrwydd na ellir ei gyfyngu na'i eithrio gan y gyfraith.

9. Os bernir bod unrhyw un o ddarpariaethau'r telerau ac amodau hyn yn annilys neu'n anorfodadwy yn gyfan gwbl neu'n rhannol, bydd y rhan honno'n cael ei gwahanu oddi wrth weddill y darpariaethau ac ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd y darpariaethau eraill a gweddill y ddarpariaeth dan sylw. 

  • 9.1 Canslo Gweithredol: Mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl i ganslo, atal, neu aildrefnu unrhyw wers neu gwrs ar unrhyw adeg, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, oherwydd gofynion gweithredol, gan gynnwys y rhesymau canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddyn nhw: prinder staff, offer neu beiriannau diffygiol, cynnal a chadw cyfleusterau, neu ddigwyddiadau eraill y tu hwnt i'n rheolaeth resymol.
  • 9.2 Adferiad Ariannol: Os bydd yr Hyrwyddwr yn canslo, unig atebolrwydd yr Hyrwyddwr fydd rhoi ad-daliad pro rata i'r cwsmer am y rhan o'r cwrs a ganslwyd neu, yn ôl dewis y cwsmer, nodyn credyd i'w ddefnyddio ar gyfer gwersi nofio yn y dyfodol. Ni fydd yr Hyrwyddwr yn atebol am unrhyw golled anuniongyrchol neu ganlyniadol, gan gynnwys costau teithio, llety, neu gostau eraill y bydd yn rhaid i’r cwsmer eu talu o ganlyniad i ganslo o’r fath.
  • 9.3 Force Majeure: Ni fydd y naill barti na'r llall yn atebol am unrhyw oedi neu fethiant i gyflawni ei rwymedigaethau o dan y cynnig hwn os yw'r oedi neu'r methiant hwnnw'n deillio yn sgil digwyddiad Force Majeure. Mae "Force Majeure" yn golygu unrhyw ddigwyddiad neu achlysur y tu hwnt i reolaeth resymol yr Hyrwyddwr, gan gynnwys y rhesymau canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddyn nhw: pandemig, cyfyngiadau symud a orfodir gan y llywodraeth, gweithredoedd terfysgaeth, tywydd eithafol, methiant cyfleustodau cyhoeddus, neu fethiant strwythurol mawr yn y cyfleuster.
  • 9.4 Terfynu'r Cynllun Hyrwyddo: Os bydd digwyddiad Force Majeure yn parhau am gyfnod sy'n fwy na 14 diwrnod, mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl i derfynu'r Cynllun Hyrwyddo ar unwaith ar ôl rhybudd, heb atebolrwydd pellach i gyfranogwyr.

10. Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd unrhyw anghydfod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr. 

Hyrwyddwr

Yr Hyrwyddwr yw Parkwood Leisure Limited (rhif y cwmni 03232979), o 3 De Salis Court, Hampton Lovett, Droitwich Spa, Swydd Gaerwrangon WR9 0QE, sy'n gweithredu ar ran Lex Leisure CIC, Legacy Leisure Limited, 1Life Management Solutions, CAF, Parkwood Community Leisure Limited, Active Communities Together a Parkwood Health & Fitness Limited.