Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi lles ein haelodau, rydym yn uwchraddio ein cynnig iechyd a lles. O ddydd Mercher 1 Gorffennaf ymlaen, rydym yn tynnu platfform lles ARVRA a gwasanaethau meddyg teulu digidol HealthHero o'n buddion Aelodaeth Premium. Yn eu lle, rydym yn falch iawn o gyflwyno un gwasanaeth cynhwysfawr: Bupa Well+ Arian.
Porwch drwy ein cwestiynau cyffredin i ddeall beth i'w ddisgwyl wrth ddefnyddio gwasanaeth meddyg teulu Digidol Bupa Well+.
Beth yw Bupa Well+ a beth mae’n ei gynnwys?
Mae Bupa Well+ yn danysgrifiad iechyd digidol cwbl gynhwysfawr y mae posib cael mynediad iddo drwy ap My Bupa. Mae'n rhoi mynediad ar alw i chi at gymorth arbenigol ar gyfer eich corff a'ch meddwl. Mae'r nodweddion allweddol yn cynnwys y canlynol:
Pam ydych chi'n gwneud y newid yma?
Rydym eisiau darparu'r gefnogaeth iechyd a lles orau bosibl i'n haelodau yn y ffordd fwyaf cyfleus. Yn flaenorol, roedd raid i chi ddefnyddio dau blatfform gwahanol ar gyfer eich anghenion lles a meddygol ac roeddech chi wedi'ch cyfyngu i gefnogaeth meddyg teulu yn unig. Mae Bupa Well+ Arian yn galluogi i ni gyfuno mynediad digidol at feddyg teulu, adnoddau ffitrwydd, cefnogaeth iechyd meddwl, ffisiotherapi ar-lein a mwy mewn un ap cyfun, hawdd ei ddefnyddio. Rydym yn credu bod y bartneriaeth hon yn rhoi pecyn llawer gwell i'n haelodau, heb unrhyw gost ychwanegol.
Ydi hyn yn newid pris fy aelodaeth Premium?
Nac ydi, mae eich ffi aelodaeth yn aros yr un fath yn union, ond nawr rydych chi’n cael mynediad at ystod lawer ehangach ac integredig o wasanaethau iechyd premium.
Pa gamau sydd angen i mi eu cymryd ar hyn o bryd?
Er mwyn sicrhau nad ydych chi’n colli mynediad at eich buddion iechyd premium, dilynwch y camau syml hyn unwaith y bydd y gwasanaeth yn mynd yn fyw ar 1af Gorffennaf:
Gyda phwy ddylwn i gysylltu os ydw i’n cael anhawster sefydlu Bupa Well+?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich aelodaeth neu os ydych chi'n cael problemau wrth weithredu eich cyfrif Bupa Well+ newydd, cysylltwch â thîm cymorth cwsmeriaid Bupa yma, a byddant yn hapus i'ch helpu chi i gysylltu.
Pa ddata fydd yn cael eu darparu i Bupa?
Dim ond data gweinyddol rydym yn eu hanfon, sy'n cynnwys eich enw, rhif aelodaeth, dyddiad geni a manylion cyswllt, er mwyn galluogi Bupa i greu eich cyfrif.
Mae eich data iechyd yn parhau'n gyfrinachol ac ni fyddant yn cael eu rhannu gyda ni byth. Ar ôl i'r cyfrif gael ei sefydlu, mae unrhyw ymgynghoriadau, hanes meddygol neu faterion iechyd rydych chi’n eu trafod gyda Bupa yn gwbl gyfrinachol rhyngoch chi a Bupa. Bupa yw'r Rheolydd Data ac nid yw'n adrodd cofnodion meddygol unigol yn ôl i ni.
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawl i wrthwynebu'r prosesu hwn neu, os yw hynny'n berthnasol, i dynnu eich caniatâd yn ôl. Os oes gennych chi unrhyw bryderon, cysylltwch â ni ar mail@parkwood-leisure.co.uk
Beth fydd yn digwydd i fy nghyfrifon ARVRA a HealthHero GP?
Bydd eich mynediad i ARVRA a HealthHero GP drwy ein haelodaeth Premium yn dod i ben ar ddydd Mawrth 30 Mehefin. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu mewngofnodi i'r platfformau hyn gan ddefnyddio eich manylion aelodaeth premium mwyach.
Os ydych chi eisiau deall pa ddata sydd gan HealthHero neu ARVRA amdanoch chi, dilynwch y dolenni isod:
A fydd fy nghofnodion meddygol yn cael eu trosglwyddo o HealthHero i Bupa Well+?
Na. Gan fod eich data iechyd yn gwbl gyfrinachol, nid oes gennym fynediad atynt, ac ni fyddant yn trosglwyddo'n awtomatig i Bupa. Os oes arnoch chi angen copïau o'ch nodiadau ymgynghori blaenorol, atgyfeiriadau, neu bresgripsiynau preifat gan HealthHero, mewngofnodwch i'ch cyfrif HealthHero i'w lawrlwytho neu cysylltwch â'u tîm cymorth yn uniongyrchol cyn y dyddiad trosglwyddo.
Sut mae cael mynediad at Feddyg Teulu Digidol Bupa Well+?
Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru ar gyfer Aelodaeth Premium, bydd eich gwasanaethau Bupa Well+ yn cael eu gweithredu o fewn 10 diwrnod. Byddwch yn derbyn gwahoddiad e-bost i gofrestru a chael mynediad at y gwasanaethau drwy ap My Bupa.
Wrth fewngofnodi am y tro cyntaf, bydd angen i chi greu cyfrif digidol Bupa. Mae hyn yn sicrhau bod gan Bupa y wybodaeth angenrheidiol i gefnogi eich ymgynghoriad gyda meddyg teulu.
Gyda phwy fyddaf yn siarad?
Byddwch yn siarad gyda meddyg teulu cymwys, wedi'i gofrestru gyda'r GMC, drwy ymgynghoriad ffôn neu fideo ar amser sydd wedi'i drefnu ar gyfer eich apwyntiad.
Oes cyfyngiad ar faint o ymgynghoriadau y gallaf eu cael?
Nid oes cyfyngiad penodol ar nifer yr ymgynghoriadau meddyg teulu Digidol; fodd bynnag, mae apwyntiadau'n cael eu monitro i sicrhau eu bod yn briodol yn glinigol a gallant fod yn gyfyngedig. Gallwch archebu ymgynghoriadau yn ôl yr angen ar gyfer gwahanol bryderon iechyd, yn amodol ar adolygiad clinigol.
A fydd angen i mi weld fy meddyg teulu gyda’r GIG o hyd?
Mae llawer o aelodau'n derbyn y cyngor a'r driniaeth sydd arnynt eu hangen drwy'r gwasanaeth meddyg teulu Digidol. Fodd bynnag, os oes arnoch chi angen archwiliad corfforol neu os oes angen gofal parhaus, efallai y cewch gyngor i weld eich meddyg teulu eich hun. Mae'r gwasanaeth yn ategu eich meddyg teulu gyda’r GIG ond nid yw'n cymryd ei le.
Ydw i’n gallu gofyn am feddyg gwrywaidd neu fenywaidd?
Os yw hynny'n bosibl, bydd dewisiadau ar gyfer meddyg teulu gwrywaidd neu fenywaidd yn cael eu darparu.
Pa fath o bethau gallaf ofyn amdanynt?
Unrhyw beth y byddech yn ei drafod fel arfer gyda'ch meddyg teulu gyda’r GIG, gan gynnwys cyflyrau croen, doluriau a phoenau, problemau treulio, problemau clust, trwyn a gwddw, cwestiynau am feddyginiaeth ac ail farn.
A allaf gael ymgynghoriad ar gyfer fy mhlant hefyd?
Dim ar hyn o bryd. Mae'r aelodaeth ar eich cyfer chi fel unigolyn. Fodd bynnag, rydym yn edrych ar gyflwyno mynediad 'teuluol' i Bupa Well+ yn y dyfodol.