Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
Rydyn ni’n rhoi cyfle i chi ennill un o dair taleb Love2Shop gwerth £1000 yn ein cystadleuaeth gyfeirio ni. Dechreuwch 2026 mewn steil!
Dychmygwch beth allech chi ei wneud gyda thaleb Love2Shop gwerth £1000. Sbri siopa i uwchraddio eich cwpwrdd dillad, technoleg newydd ar gyfer eich swyddfa gartref, neu anrheg annisgwyl haeddiannol i chi'ch hun a'ch anwyliaid.
1. Rhannwch eich rhif aelodaeth unigryw gyda ffrindiau a theulu.
2. Gwahoddwch nhw i gofrestru ar gyfer aelodaeth gennym ni naill ai ar-lein neu yn un o'n canolfannau.
3. Mae pob cyfeirio llwyddiannus yn ennill un cyfle i chi i ennill taleb Love2Shop gwerth £1000.
4. Gwyliwch eich siawns o ennill yn cynyddu wrth i chi ddenu mwy o aelodau newydd i mewn.
Byddwch yn barod i ddechrau meddwl am sut byddwch chi'n gwario eich taleb £1000! Po fwyaf o gyfeirio fyddwch chi’n ei wneud, y mwyaf fydd eich siawns chi o ennill taleb £1000.
Tair taleb gwerth £1000 ar gael yn genedlaethol.
Mae cynllun cyfeirio ein canolfan hamdden ni ar gael i bob aelod presennol sy'n 16 oed neu'n hŷn. Os ydych chi o dan 18 oed, i hawlio’r wobr mae’n rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan eich rhiant neu warcheidwad cyfreithiol, neu rhaid i chi fod yng nghwmni rhywun sy'n 18 oed neu'n hŷn. Os oes gennych chi aelodaeth weithredol ddilys gyda ni ac os ydych chi’n bodloni'r gofyniad oedran, rydych chi'n gymwys i gymryd rhan a chyfeirio aelodau newydd.
Rhannwch fanteision ein canolfan hamdden ni gyda'ch ffrindiau a'ch teulu, a gyda'ch gilydd, ewch ar siwrnai tuag at well ffitrwydd a lles. Edrychwch ar ein telerau ac amodau i weld y gofynion llawn.
Dim ond i aelodau newydd sydd heb fod ag aelodaeth yn ein canolfan hamdden ni erioed o'r blaen mae’r cynllun cyfeirio yn ddilys, neu bobl sydd heb fod ag aelodaeth yn ystod y 30 diwrnod diwethaf. Nid yw aelodau sy'n uwchraddio o un aelodaeth i'r llall yn gymwys i’w cyfeirio o dan y cynllun hwn.
Gallwch rannu eich rhif aelodaeth unigryw gyda'ch ffrindiau a'ch teulu ar e-bost, mewn neges destun, neu mewn sgyrsiau wyneb yn wyneb. Bydd angen iddynt ddarparu eich rhif aelodaeth wrth gofrestru, naill ai ar-lein neu yn ein canolfan ni, er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich cydnabod am eu cyfeirio nhw.
Gallwch adfer eich rhif aelodaeth yn ein ap LeisureCentre o dan yr adran cerdyn aelodaeth neu drwy siarad ag aelod o'r tîm.
Bydd pob cyfeirio llwyddiannus yn ennill un cyfle i chi yn y raffl i ennill un o dri iPad Pro. Po fwyaf o bobl y byddwch chi’n eu cyfeirio, y mwyaf fydd eich siawns chi o ennill un o'r gwobrau.
Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr 2026. Cadwch lygad ar ein gwefan ni a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf am y raffl a chyhoeddi enw’r enillydd.
Mae cyfeirio llwyddiannus yn digwydd pan fydd yr unigolyn a gafodd ei gyfeirio’n cofrestru ar gyfer aelodaeth safonol, dros 16 oed, ac yn talu un taliad o leiaf. Er mwyn cael ei ystyried fel cyfeirio dilys, rhaid i'r aelod newydd ddarparu rhif aelodaeth y cyfeiriwr wrth gofrestru, naill ai ar-lein neu yn ein canolfan ni. Edrychwch ar ein Telerau ac Amodau am fanylion a’r gofynion ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r cynllun cyfeirio.
Bydd y gwobrau cyfeirio’n cael eu rhannu ymhlith yr holl leoliadau sy'n cymryd rhan. I gadarnhau a yw eich lleoliad penodol chi wedi'i gynnwys, cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol yn uniongyrchol.
Rhaglen Gyfeirio - Enillwyr y Gorffennol
TELERAU AC AMODAU
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ein Cynllun Cyfeirio Aelodaeth drwy edrych ar ein Telerau ac Amodau. Ymchwiliwch i’r manylion am gymhwysedd, hawlio gwobrau, cyfnod hyrwyddo a mwy i sicrhau profiad cyfeirio hwylus. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ennill a mwynhau manteision ein canolfan hamdden gyda'ch ffrindiau a'ch teulu! Darllenwch y telerau a’r amodau yn llawn..