Derbyn
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i gynnig y profiad gorau posibl. Mae hyn yn cynnwys personoli cynnwys a dadansoddi traffig ar ein gwefan, a hysbysebu ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol
Cyfle i ennill un o dair taleb Love2Shop gwerth £1000!
1. Dim ond i drigolion y DU y mae'r raffl hon (yr “Hyrwyddiad”) ar agor, ac eithrio cyflogeion ac asiantau (a) yr “Hyrwyddwr” neu (b) unrhyw gwmni sy'n gysylltiedig â chynhyrchu neu ddosbarthu'r Hyrwyddiad hwn, yn ogystal â'u perthnasau ac aelodau o'u teulu neu eu cartref.
2. Er mwyn cymryd rhan, rhowch eich rhif aelodaeth i'ch ffrind neu aelod o'r teulu er mwyn iddynt ei ddefnyddio wrth ymuno. Fel y cyfranogwr, rhaid i chi fod yn aelod talu gweithredol a rhaid i’ch holl ffioedd aelodaeth fod wedi’u talu ac yn gyfredol. I fod yn ddilys i gymryd rhan yn y raffl, rhaid i'r Ymunwr Newydd fod wedi talu o leiaf 1 mis o aelodaeth cyn i'r raffl ddigwydd. Diffinnir aelodaeth gymwys fel aelodaeth oedolyn, bydd pob aelodaeth arall wedi’u heithrio, h.y. nid yw aelodaeth plant, pasys am ddim neu unrhyw aelodaeth neu bas hyrwyddo arall yn gymwys i gymryd rhan.
3. Rhaid i gyfranogwyr fod yn 16 oed neu'n hŷn wrth gymryd rhan. Rhaid darparu prawf o gymhwysedd ar gais. Drwy gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad, ystyrir eich bod yn derbyn ac yn rhwym i'r telerau ac amodau hyn.
4. Nid oes angen i'r cyfranogwr brynu unrhyw beth i gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad. Gall cyfranogwyr gymryd rhan ar-lein neu wyneb yn wyneb, ond rhaid gwneud cais wrth gofrestru Ymunwr Newydd ac ni ellir ei newid yn ddiweddarach. Mae'r cyfranogwr yn gyfrifol am sicrhau bod y manylion a ddarperir wrth ymgeisio yn gywir; ni ellir dal yr Hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth anghywir a gofnodwyd.
5. Bydd yr Hyrwyddiad yn dechrau am 00:01 ar 1 Hydref 2025 ac yn cau am 23:59 ar 31 Rhagfyr 2025. Ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl yr amser cau yn cael eu cynnwys.
Enillydd
6. Bydd tri enillydd o blith yr holl geisiadau cymwys, a fydd yn cael eu dewis mewn raffl ar hap a gynhelir ar 3ydd Ionawr 2026, gan berson annibynnol. Bydd yr Hyrwyddwr yn hysbysu'r enillydd a'i grybwyll ar y wefan dim hwyrach na 9fed Ionawr 2026 drwy'r manylion cyswllt a ddarperir wrth y pwynt mynediad a bydd yn cael manylion am sut i dderbyn ei wobr. Os bydd yr enillydd yn methu â derbyn y wobr yn y ffordd sydd wedi’i phennu o fewn wythnos i gyfathrebu'r Hyrwyddwr, bydd unrhyw hawliad yn annilys a bydd yr Hyrwyddwr yn mynd ymlaen i ddewis enillydd arall (a ddewisir ar hap eto mewn raffl) o blith yr holl geisiadau cymwys sy'n weddill a chysylltir â’r enillydd fel uchod.
7. Y wobr yw e-daleb Love to Shop gwerth £1000 i'w defnyddio yn unol â disgresiwn yr enillydd. Ni ellir trosglwyddo'r daleb ac ni ellir ei chyfnewid am arian parod. Bydd y daleb yn cael ei hanfon atoch chi ar e-bost.
8. Ni ellir trosglwyddo'r wobr ac ni chaniateir ei hailwerthu. Mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl, yn unol â’i ddisgresiwn rhesymol, i roi gwobr gymharol, neu eitem o werth cyfartal, yn lle unrhyw wobr o'r fath.
9. Bydd enw cyntaf a sir enillwyr y gwobrau ar gael ar ôl y dyddiad cau drwy gyflwyno cais ysgrifenedig i'r Hyrwyddwr.
10. Mae’r cyfranogwyr yn cytuno i ddarparu cydweithrediad rhesymol i ganiatáu i'r Hyrwyddwr ddefnyddio enw a / neu lun yr enillydd at ddibenion hysbysebu a chyhoeddusrwydd mewn cysylltiad â'r Hyrwyddiad hwn, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, cyhoeddi enw a llun yr enillydd ar wefannau'r Hyrwyddwr a chwmnïau cysylltiedig.
Gwybodaeth bersonol
11. Rhaid i unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir i ni yn ystod y broses (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, eich enw chi ac enw'r Ymunwr Newydd, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn a dyddiad geni) fod yn gywir. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wybodaeth bersonol anghywir a ddarperir i ni.
12. Byddwn yn dal yr holl wybodaeth bersonol yn unol â'r telerau ac amodau hyn a'n polisi preifatrwydd, y gellir dod o hyd i gopi ohono yma - Polisi Preifatrwydd Parkwood Leisure.
Cyffredinol
13. Bydd penderfyniad yr Hyrwyddwr ar bob mater yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth na thrafodaeth yn cael ei chynnal. Mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl, yn unol â’i ddisgresiwn rhesymol: (a) i wneud unrhyw ymgeisydd y mae ei ymddygiad yn groes i ysbryd y rheolau neu fwriad yr hyrwyddiad yn anghymwys ac i ddatgan yn ddi-rym unrhyw un neu'r cyfan o'i hawliadau neu geisiadau yn seiliedig ar ymddygiad o’r fath; (b) i ddatgan yn ddi-rym unrhyw hawliadau neu geisiadau sy'n deillio o unrhyw wallau argraffu, cynhyrchu a / neu ddosbarthu (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw wall(au) ar unrhyw wefan gan yr Hyrwyddwr, a / neu ddeunyddiau print eraill), neu lle bu gwall(au) mewn unrhyw agwedd ar baratoi ar gyfer neu gynnal yr hyrwyddiad sy'n effeithio'n sylfaenol ar ganlyniad yr hyrwyddiad neu nifer yr hawlwyr neu werth yr hawliadau; (c) i ychwanegu at neu i hepgor unrhyw reolau gyda rhybudd rhesymol; a / neu (d) i ganslo'r Hyrwyddiad neu unrhyw ran ohono ar unrhyw gam os bydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol yr Hyrwyddwr yn codi.
14. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau mewn swmp, gan asiantau na thrydydd partïon.
15. I'r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith (ac yn amodol ar baragraff 17 isod), mae'r Hyrwyddwr drwy hyn yn eithrio pob gwarant, cynrychiolaeth, cyfamod ac atebolrwydd (boed yn benodol neu ymhlyg) sy'n ymwneud â'r Hyrwyddiad hwn a / neu'r wobr.
16. Ni fydd unrhyw beth yn y telerau ac amodau hyn yn eithrio atebolrwydd yr Hyrwyddwr am: (i) marwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i'w esgeulustod; (ii) twyll neu gamgynrychiolaeth dwyllodrus; neu (iii) unrhyw atebolrwydd na ellir ei gyfyngu na'i eithrio gan y gyfraith.
17. Mae'r Hyrwyddwr yn cadw'r hawl, yn unol â’i ddisgresiwn ei hun, i addasu, gohirio neu ganslo'r Hyrwyddiad os bydd feirysau, bygiau, ymyrryd, twyll neu achosion eraill y tu hwnt i reolaeth resymol yr Hyrwyddwr yn llygru neu'n rhwystro gweinyddiaeth, diogelwch neu ymddygiad priodol yr Hyrwyddiad.
18. Os bernir bod unrhyw un o ddarpariaethau'r telerau ac amodau hyn yn annilys neu'n anorfodadwy, yn gyfan gwbl neu yn rhannol, bydd y rhan honno'n cael ei gwahanu oddi wrth weddill y darpariaethau ac ni fydd dilysrwydd y darpariaethau eraill a gweddill y ddarpariaeth dan sylw yn cael eu heffeithio.
19. Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd unrhyw anghydfod yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
Hyrwyddwr
20. Yr Hyrwyddwr yw Parkwood Leisure Limited (rhif cwmni 03232979), o 3 De Salis Court, Hampton Lovett, Droitwich Spa, Swydd Gaerwrangon WR9 0QE, sy'n gweithredu ar ran Lex Leisure CIC, Legacy Leisure Limited, 1Life Management Solutions, CAF, Parkwood Community Leisure Limited a Parkwood Health & Fitness Limited.