Dewis Premium Ar Gyfer Eich Aelodaeth

Leisure Centre Hero Image

Ewch ati i wella eich profiad gyda'n Haelodaeth Premium a mwynhau buddion unigryw. Nid yn unig y byddwch yn cael mynediad llawn i'ch hoff safle, ond mae'r aelodaeth yma’n rhoi buddion iechyd a lles ychwanegol i chi gan gynnig gwerth gwych.

Gallwch ddewis ein Haelodaeth Premiwm naill ai ar-lein neu yn y ganolfan.

Archwilio manteision Premium

 

Aelodaeth Hollgynhwysol Safonol

Aelodaeth Hollgynhwysol Premium

  Mynediad llawn i'n Campfa

  Mynediad llawn i'n Pwll Nofio

  Mynediad llawn i Ddosbarthiadau  
  Mynediad i Feddyg Teulu rhithwir Bupa

x

  Hyd at 6 apwyntiad ffisiotherapi o bell bob blwyddyn x
  Cymorth iechyd meddwl, gan gynnwys hyd at 6 sesiwn cwnsela ac 8 sesiwn therapi ymddygiad gwybyddol

x

  Archebu dosbarthiadau hyd at 14 diwrnod ymlaen llaw 

7 days

14 days

  Gostyngiad o 33% ar gyrsiau maeth a gostyngiad o 10% ar ymgynghoriadau maeth a lles un i un

x

  Mynediad am ddim i ddosbarthiadau Good Boost* 

x

  Gostyngiadau o 10% ar ddiodydd poeth*

x

Find a Centre Near You

Enter your Town or Postcode to find the closest facility to you

{{filteredResults.length}} {{ filteredResults.length === 1 ? 'centre' : 'centres' }} near {{ lastSearch.search || 'your location' }}

Searching for centres...

Heb ganfod canlyniadau.

{{ result.distance > 0 ? result.distance + 'mi' : ''}}

{{ result.centre.name }}

{{ result.distance > 0 ? result.distance + 'mi' : ''}}
{{ result.expanded ? 'Hide' : 'View' }} Details

  • {{icon.text}}

Featured Amenities:

  • {{icon.text}}
{{ selectedResult.distance > 0 ? selectedResult.distance + 'mi' : ''}}

{{ selectedResult.centre.name }}

{{ selectedResult.distance > 0 ? selectedResult.distance + 'mi' : ''}}
{{ selectedResult.expanded ? 'Hide' : 'View' }} Details

  • {{icon.text}}

Featured Amenities:

  • {{icon.text}}
Health Hero

Gwasanaeth meddyg teulu preifat, yn cael ei ddarparu gan Bupa Well+

Cyfle i ymgynghori â meddyg teulu pan mae angen drwy fideo neu dros y ffôn gan ddefnyddio’r ap My Bupa. Mae ein Haelodaeth Premium yn rhoi mynediad i chi i Blua, gofal iechyd digidol gan Bupa, gan gynnwys ein gwasanaeth meddyg teulu Digidol sy'n eich galluogi chi i siarad gyda meddyg cymwys am gyngor, diagnosis a thriniaeth i helpu i reoli eich iechyd a'ch lles. Mae apwyntiadau ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

Mae gwasanaethau meddyg teulu preifat yn costio £15 y mis o leiaf fel arfer, ond drwy ein partneriaeth ni â Bupa, mae mynediad at feddyg teulu Digidol wedi'i gynnwys heb unrhyw gost ychwanegol yn eich Aelodaeth Premium. Am fwy o wybodaeth am Bupa, cliciwch isod.

My HealthyWay

Maeth a Lles, yn cael eu darparu gan My HealthyWay

Gyda'n Haelodaeth Premium, byddwch yn derbyn gostyngiad unigryw o 33% ar ein cyrsiau maeth dan arweiniad arbenigwyr yn ogystal â gostyngiad o 10% ar ymgynghoriadau maeth a lles personol. Cadwch lygad am y codau hyrwyddo yn eich mewnflwch. I fynd i wefan My HealthyWay a darganfod mwy am ein cyrsiau maeth, cliciwch isod.

Mae cyrsiau MHW yn cynnwys:
  • Sylfeini lles drwy faeth
  • Hybu imiwnedd drwy faeth a ffordd o fyw
  • Cefnogi cyflyrau cyhyrysgerbydol drwy faeth
  • Cefnogi lles emosiynol drwy faeth a ffordd o fyw
  • Cefnogi'r menopos drwy faeth
  • Cydbwyso pwysau'r corff My Healthy Way
  • Egni, cwsg a chymhelliant – cwrs maeth a ffordd o fyw
  • Maeth plentyndod - cwrs i rieni a gofalwyr
  • Cydbwyso’r siwgr yn y gwaed a chefnogi cyn-diabetes
14 days advance booking

Sicrhau eich lle

Gyda'n Haelodaeth Premium gallwch fwynhau'r fantais o archebu eich hoff ddosbarthiadau neu weithgareddau hyd at 14 diwrnod ymlaen llaw. Sicrhewch eich lle gydag archebion ar gael hyd at 7 diwrnod cyn ein haelodaeth safonol. Cysylltwch â'ch canolfan leol am weithgareddau penodol.

MSK Hubs

Hybiau MSK Goodboost wedi’u cynnwys

Mae dewis Premium yn golygu y gallwch chi elwa o fynediad cynhwysol i'n dosbarthiadau adfer cyhyrysgerbydol GoodBoost.* Archebwch eich dosbarth GoodBoost fel arfer, drwy'r ap neu'r wefan, a bydd yn cael ei ddangos fel un am ddim. Cliciwch isod i gael rhagor o wybodaeth am fanteision unigryw ein Hybiau MSK, a'r ffurflenni atgyfeirio priodol y mae angen eu cwblhau cyn cael mynediad i'r dosbarthiadau MSK.

Discount on hot drinks

Arbed yn ein Caffis

Fel aelod Premium, gallwch chi fwynhau gostyngiad ychwanegol o 10% oddi ar ddiodydd poeth yn ein caffis ni**. Mwynhewch ddiod poeth ar ôl eich ymarfer corff ac arbed arian.

Cwestiynau cyffredin

Porwch drwy ein cwestiynau cyffredin isod i ddod o hyd i atebion i ymholiadau cyffredin. Os na allwch chi ddod o hyd i'r wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani, cysylltwch â'ch Canolfan Hamdden leol naill ai wyneb yn wyneb neu drwy'r ddolen yma.

BETH YW MANTEISION LLAWN UWCHRADDIO?
  • Mynediad i Bupa Well+, Gwasanaeth meddyg teulu preifat ar-lein
  • Hyd at 6 apwyntiad ffisiotherapi o bell bob blwyddyn
  • Cymorth iechyd meddwl, gan gynnwys hyd at 6 sesiwn cwnsela ac 8 sesiwn CBT
  • Hawliau archebu 14 diwrnod ymlaen llaw
  • Gostyngiad o 33% oddi ar Gyrsiau Maeth 6 wythnos (ar draws pynciau arbenigol)
  • Gostyngiad o 10% oddi ar ymgynghoriadau maeth a lles personol un i un
  • Mynediad cynhwysol i ddosbarthiadau adfer Hwb MSK*
  • Gostyngiadau o 10% oddi ar ddiodydd poeth**
SUT MAE'N GWEITHIO?

Mae ein Haelodaeth Premium ar gael i gwsmeriaid newydd a phresennol ar gyfradd sefydlog, hyblyg neu flynyddol. Os ydych chi'n gwsmer newydd, gallwch brynu ein Haelodaeth Premium ar-lein. Os ydych chi'n gwsmer presennol, ewch i'r dderbynfa a byddant yn eich cofrestru ar gyfer Premium.

PRYD FYDDAF YN CAEL FY HYSBYSU?

E-byst i gadw llygad amdanynt:

  1. Ar ôl cofrestru byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau, yn hysbysu eich bod bellach yn Aelod Premium.
  2. 1 diwrnod ar ôl ymuno - Byddwch yn derbyn e-bost croeso gyda'ch codau gostyngiad maeth - cadwch y rhain yn ddiogel er mwyn i chi allu archebu un o'n cyrsiau yma. 
  3. O fewn 7 diwrnod ar ôl ymuno - byddwch yn derbyn e-bost yn uniongyrchol gan Bupa yn cadarnhau bod eich Tanysgrifiad Bupa Well+ Arian wedi'i sefydlu bellach ac yn barod i'w ddefnyddio. Am ragor o wybodaeth am Bupa Well+ ewch i’r dudalen yma.
     
MAE GEN I AELODAETH EISOES, SUT YDW I'N UWCHRADDIO I AELODAETH PREMIUM?

Os ydych chi eisoes yn aelod, ac os hoffech chi uwchraddio, ewch i'r dderbynfa y tro nesaf y byddwch chi yn y ganolfan a gallant eich uwchraddio.

BETH YW COST EIN HAELODAETH PREMIUM, OES UNRHYW FFIOEDD YCHWANEGOL NEU DALIADAU CUDD?

Gellir gweld prisiau ein Haelodaeth Premium ar y tab Aelodaeth yn eich canolfan agosaf. Dewch o hyd i’ch un chi yma.

Edrychwch ar y telerau a’r amodau llawn yma.

PA MOR HIR YW'R CYFNOD YMRWYMO AR GYFER YR AELODAETH PREMIUM, A BETH YW'R TELERAU AR GYFER CANSLO?

Mae ein Haelodaeth Premium yn gweithredu'r un fath â'n haelodaeth safonol, gydag opsiynau misol hyblyg, sefydlog am 12 mis a blynyddol.

Edrychwch ar ein telerau ac amodau llawn yma

SUT MAE CAEL MYNEDIAD I BUPA WELL+?

Er mwyn sicrhau nad ydych chi’n colli mynediad at eich buddion iechyd premium, dilynwch y camau syml hyn unwaith y bydd y gwasanaeth yn mynd yn fyw ar 1af Gorffennaf.

  • Cofrestru / Mewngofnodi: Dilynwch y cyfarwyddiadau sydd wedi’u darparu yn eich e-bost croeso gan Bupa Well+ sydd i ddod i ddechrau eich tanysgrifiad gan ddefnyddio eich manylion aelodaeth premium.
  • Lawrlwytho’r Ap: Chwiliwch am yr ap My Bupa ar yr Apple App Store neu Google Play Store.
  • Archwilio: Sefydlwch eich proffil ac archwilio’r adnoddau ffitrwydd, ymwybyddiaeth ofalgar a meddygol sydd ar gael i chi nawr.
AM BETH GALLWCH CHI SIARAD GYDA MEDDYG TEULU BUPA WELL+ DIGIDOL?

Gallwch siarad â meddyg teulu Bupa Digidol am unrhyw bryderon iechyd y byddech yn eu trafod fel arfer gyda’ch meddyg teulu gyda’r GIG, gan gynnwys y canlynol:

  • Pryderon cyhyrysgerbydol
  • Cymorth iechyd meddwl
  • Ail farn
  • Dermatoleg
  • Ymholiadau am feddyginiaeth
  • Pediatreg (gydag oedolyn yn bresennol)
  • Iechyd merched
  • Pryderon sy'n gysylltiedig â'r galon
  • Cyngor teithio a brechu
  • Cyflyrau clust, trwyn a gwddw
  • Problemau treulio a stumog
  • Rhiwmatoleg
  • Cyflyrau'r system nerfol
  • Problemau llygaid a golwg
  • Cyflyrau anadlol
  • Problemau iwrinol
  • Iechyd dynion

Mae cyfyngiadau'n berthnasol i wasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn eich tanysgrifiad Bupa Well+ ac mae’r gwasanaethau'n amodol ar argaeledd. Nid yw sganiau a phrofion wedi'u cynnwys. Gwiriwch eich tanysgrifiad am fanylion. Mae’r gwasanaethau'n amodol ar argaeledd ac i'w defnyddio yn y DU yn unig. Am ragor o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin am Bupa Well+, edrychwch ar ein tudalen ni yma; Affordable health | Bupa Well+ Silver | Bupa UK

BETH FYDD YN DIGWYDD I FY NGHYFRIFON ARVRA A HEALTH HERO?

Bydd eich mynediad i ARVRA a Health Hero GP drwy ein haelodaeth Premium yn dod i ben ar 30ain Mehefin. Ar ôl y dyddiad yma, ni fyddwch yn gallu mewngofnodi i'r platfformau hyn gan ddefnyddio eich manylion aelodaeth premium mwyach. Os ydych chi eisiau deall pa ddata sydd gan Health Hero neu ARVRA amdanoch chi, dilynwch y dolenni isod:

https://www.healthhero.com/privacy-policy 
https://www.arvra.co.uk/privacy-policy

SUT YDW I'N ARCHEBU FY NGHWRS A FY YMGYNGHORYDD MAETH GYDA FY NGOSTYNGIAD?

Gyda'n Haelodaeth Premium, byddwch yn cael gostyngiad unigryw o 33% oddi ar ein cyrsiau maeth ac yn mwynhau gostyngiad o 10% oddi ar ymgynghoriadau maeth a lles personol. Bydd y codau taleb yma’n cael eu hanfon atoch chi ar e-bost. Gallwch weld ein cyrsiau maeth drwy MyHealthyWay.

I archebu eich ymgynghoriad maeth personol, e-bostiwch myhealthyway@parkwood-leisure.co.uk gan gynnwys eich rhif aelodaeth.

YDI AELODAU PREMIUM YN CAEL ARCHEBU DOSBARTHIADAU NEU GYFLEUSTERAU YMLAEN LLAW?

Ydyn, bydd yr aelodau sy'n prynu ein Haelodaeth Premium yn cael archebu 14 diwrnod ymlaen llaw. Yn dibynnu ar gyfleusterau a gweithgareddau eich canolfan leol, bydd hyn yn cynnwys archebion dosbarthiadau a gweithgareddau. Gwiriwch gyda'ch canolfan hamdden am fanylion penodol.

BETH OS MAI AELODAETH GORFFORAETHOL SYDD GEN I?

Os oes gennych chi aelodaeth gorfforaethol, efallai y byddwch chi eisiau siarad gyda'ch cyflogwr am y posibilrwydd iddo dalu'r £7.50 ychwanegol y mis am ein Haelodaeth Premium. Os na fydd am wneud hynny, gallwch chi dalu'r £7.50 ychwanegol y mis eich hun, gan ddilyn y llwybr cofrestru drwy ein ap isod. Bydd angen i chi nodi eich manylion talu eich hun ar gyfer y ffi fisol ychwanegol. Llwybr cofrestru: Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi a dilynwch y cyfarwyddiadau isod: 

  • Agor yr ap Leisure Centre 
  • Clicio ar y botwm Aelod Premium
  • Clicio ar Cael Premium
  • Clicio ar y plws i gadarnhau eich uwchraddio
  • Gosod eich dyddiad dechrau a chadarnhau eich taliad
BETH OS MAI AELODAETH CWPL NEU DEULU SYDD GEN I?

Mae ein Haelodaeth Premium ar gael yn unigol i bob aelod, gan gynnwys oedolion gydag aelodaeth i gwpl neu deulu. Mae hyn yn golygu y byddai angen i gwpl neu aelodau o deulu uwchraddio i'n Haelodaeth Premium yn unigol drwy ein ap. Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi a dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

  • Agor yr ap Leisure Centre 
  • Clicio ar y botwm Aelod Premium
  • Clicio ar Cael Premium
  • Clicio ar y plws i gadarnhau eich uwchraddio
  • Gosod eich dyddiad dechrau a chadarnhau eich taliad
YDI FY HAWLIAU ARCHEBU NEU DELERAU AC AMODAU PRESENNOL YN NEWID?

Rydym yn deall nad yw rhai aelodau o bosibl yn gallu neu'n fodlon talu am yr Aelodaeth Premium. Rydym eisiau eich sicrhau chi na fydd hyn yn effeithio ar delerau ac amodau presennol eich aelodaeth na'ch hawliau archebu presennol. Byddwch yn dal i allu cael mynediad at yr holl fuddion rydych chi'n eu mwynhau ar hyn o bryd. Mae posib dod o hyd i’r telerau a’r amodau yma.

* Lle mae ar gael ar y safle a gan ddilyn y llwybr atgyfeirio priodol

** Mewn safleoedd sy'n cymryd rhan