Rydym wedi gwneud pob ymdrech i wneud eich ymweliad mor ddiogel â phosib. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod ein canolfannau'n barod i ail-agor yn ddiogel. Dyma bopeth y mae angen i chi ei wybod.
Gosod mannau golchi a diheintio dwylo at ddefnydd cwsmeriaid
Gosod sgriniau rhwystr amddiffynnol i ddiogelu ein staff lle bo'n briodol
Cynnal rhaglen ddiheintio ddwys barhaus i lanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml
Llwybrau wedi’u marcio o amgylch y safle i annog pobl i gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol
Rhoi trefniadau penodol ar waith i annog pobl i gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol mewn mannau gweithgarwch
Ad-drefnu ein rhaglen o weithgareddau i gydymffurfio â rheolau ymbellhau cymdeithasol
Peidio â mynd i'r safle os credwch fod gennych chi COVID-19
Parchu’r rheolau ymbellhau cymdeithasol dau fetr
Golchi neu ddiheintio eich dwylo'n rheolaidd
Diheintiwch offer a mannau eraill pan ofynnir i chi wneud hynny
Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
TREFNU EICH SESIWN
Er mwyn cyfyngu'n ddiogel ar nifer y bobl yn ein campfeydd a'n dosbarthiadau ymarfer grŵp rydym yn gofyn i bawb gadw lleoedd o flaen llaw. Dysgwch sut y gallwch drefnu eich sesiwn.
CWESTIYNAU CYFFREDIN
Rydym wedi creu adran cwestiynau cyffredin i'ch helpu i ddysgu am bopeth y mae angen i chi ei wybod am eich aelodaeth, gan gynnwys taliadau, gohirio a'r hyn sy'n digwydd yn eich canolfan.