Local centre not selected.
Find my local leisure centre

Saff ar gyfer yr Haf

29 Jun 2008
Cynllun llwyddiannus a phoblogaidd diogelwch dwr Pwll Rhyngwladol Caerdydd yw ‘Saff ar gyfer yr Haf ’. Ei fwriad yw codi ymwybyddiaeth o egwyddorion diogelwch dwr a bydd yn cael ei gynnal mewn ysgolion lleol yn fuan. Mae’r Gymdeithas Nofio Amaturaidd (ASA) a’r Gymdeithas Frenhinol er Arbed Bywydau (RLSS) yn cefnogi’r cynllun.

Mae’r haf yn prysur ddod. Efallai eich bod yn cynllunio gwyliau wrth lan y môr neu drip am y diwrnod at afon neu lyn. Dywedodd Simon Hughes, y rheolwr, “Rydym am i’ch teulu fod yn ddiogel o gwmpas dwr lle bynnag maen nhw a dyna pam ddyfeision ni’r cynllun hwn. Mae'n hanfodol i blant sylweddoli fod nofio mewn dwr agored yn wahanol iawn i nofio mewn pwll.

“Mae dealltwriaeth dda o ddiogelwch dwr mor bwysig â dysgu sut i nofio oherwydd yn ôl yr RLSS, boddi yw’r drydedd ffordd fwyaf cyffredin i blant farw'n ddamweiniol yn y DU. Ar ôl bod i un o’n sesiynau bydd plant yn deall y peryglon o nofio mewn dwr agored yn well, byddant yn gallu adnabod peryglon, gwybod beth i wneud mewn argyfwng a sut i aros yn ddiogel."

Bydd ein tîm Saff ar gyfer yr Haf yn teithio o gwmpas Caerdydd yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf. Os nad yw'ch ysgol chi ar ein rhestr ymweld ond yr hoffech chi i ni ymweld, cysylltwch â ni i drefnu heddiw.

Phone: 029 2072 9090

Olympian Drive
Grangetown
Caerdydd
CF11 0JS

Swimming Pool Timetables Group Fitness Timetables Price Lists

Parkwood Leisure to Launch National Dance Brand

Parkwood Leisure is pleased to..

World Cup Success for Bexley Resident!

In an effort to inspire local ..

Parkwood Leisure to Remove Sunbeds

Leading leisure management con..

NEWYDD—iechyd a ffitrwydd i blant 11–16

Dyma ffaith a fydd yn eich syn..

Saff ar gyfer yr Haf

Cynllun llwyddiannus a phoblog..