Dyma ffaith a fydd yn eich synnu. Yn ôl Sefydliad y Galon nid gordewdra, smocio neu ddiet, yw’r ffactor mwyaf sy’n arwain at glefyd y galon ond yn hytrach diffyg ymarfer corff.
Mae’n ofid bod bron i naw o bob deg plentyn yn methu â gwneud y lleiafswm ymarfer corff a argymhellir gan y llywodraeth er mwyn osgoi problemau iechyd hir dymor.
Er hyn, gall hanner awr y dydd o ymarfer corff drawsnewid iechyd plant nid yn unig nawr ond pan fyddant yn hyn.
Dyna pam ein bod wedi cychwyn rhaglen iechyd a ffitrwydd, PWMP expressions.
Mae PWMP yn rhoi’r cyfle i blant 11-16 oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau grwp yn seiliedig ar ffitrwydd, eu helpu i gadw’n ffit a chael hwyl yr un pryd!
Mae ein dosbarthiadau 'Active PUMP' yn cael eu cynnal bob dydd Iau o 4-5pm. Mae’n hwyl ac yn rhoi her ymarfer i’r corff sy’n gymysgedd o weithgareddau a gemau. Am ragor o wybodaeth, neu i archebu lle cysylltwch â ni heddiw.